Oedi cwrs perfformio Cymraeg yn 'sioc enfawr' i ddarpar fyfyrwyr

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y bydd eu rhaglenni Llais a Chelfyddydau Dramatig ym mis Medi 2026 yn cael eu hoedi

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae darpar fyfyrwyr wedi "cael sioc enfawr" ar ôl i brifysgol gysylltu â nhw i ddweud eu bod yn oedi cwrs ar gyfer 2026 er bod nifer wedi cael lle arno yn barod.

Fe ddywedodd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA), sy'n rhedeg cwrs ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, eu bod yn gwneud y penderfyniad yn dilyn adolygiad o bortffolio cyrsiau'r brifysgol.

Roedd nifer o fyfyrwyr eisoes wedi derbyn cynigion diamod i ddechrau ar y cwrs perfformio Cymraeg ym mis Medi, ac mae rhai'n dweud eu bod yn "siomedig iawn" a bod y sefyllfa'n "dorcalonnus".

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol mai diben yr adolygiad ydy "sicrhau bod cwricwlwm y Brifysgol mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol".

Begw GruffyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n siomedig iawn – daeth hyn fel sioc enfawr," meddai Begw

Mae Begw o Lanfaglan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, yn dweud ei bod wedi dibynnu ar y cynnig diamod a gafodd gan y brifysgol.

"Rwy'n siomedig iawn – daeth hyn fel sioc enfawr. Fe wnes i benderfynu peidio mynd i glyweliadau mewn ysgolion eraill oherwydd y cynnig diamod, ac roedd hynny'n rhoi ymdeimlad o sicrwydd i mi," meddai.

"O ganlyniad, roeddwn eisoes wedi dechrau cynllunio fy mywyd yng Nghaerdydd – chwilio am lety, trefnu cyllid, a chysylltu â phobl eraill oedd i fod ar y cwrs."

Ychwanegodd fod yr amseriad, ychydig cyn arholiadau, wedi cynyddu ei phryder.

"Wrth baratoi ar gyfer fy arholiadau, roedd gen i'r hyder yna yn y cefndir bod gen i le ym mis Medi. Mae'r newyddion yma wedi creu cryn ansicrwydd a phryder ynglŷn â beth sy'n dod nesaf."

Seren WaltonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma oedd fy mreuddwyd – y cwrs hwn oedd fy newis cyntaf, ac roeddwn wedi gwrthod cynigion gan brifysgolion eraill," meddai Seren

Yn ôl Seren roedd y cwrs yn "freuddwyd" iddi, ond mae'r newid wedi ei rhoi mewn sefyllfa anodd.

"Dyma oedd fy mreuddwyd – y cwrs hwn oedd fy newis cyntaf, ac roeddwn wedi gwrthod cynigion gan brifysgolion eraill," meddai.

"Gan fod UCAS bellach wedi cau, mae'n anodd cael lle mewn prifysgol arall."

Ychwanegodd ei bod hi a'i theulu eisoes wedi cymryd camau pendant.

"Roeddwn wedi teithio i Gaerdydd i drefnu llety yr wythnos ddiwethaf, ac mae fy rhieni eisoes wedi arwyddo contract.

"Mae'r sefyllfa wedi achosi llawer o straen a phwysau, yn enwedig ar adeg pan rwy'n paratoi ar gyfer fy arholiadau Lefel A."

Cynnal 'adolygiad cynhwysfawr'

Mewn datganiad at ymgeiswyr, dywedodd y brifysgol eu bod yn cynnal "adolygiad cynhwysfawr" o'u rhaglenni.

Ychwanegon nhw eu bod wedi gwneud y penderfyniad i gau derbyniadau ar gyfer Medi 2026 er mwyn rhoi amser i gynllunio datblygiadau yn y dyfodol.

Mae'r llythyr gafodd ei anfon at fyfyrwyr yn nodi: "Er mwyn rhoi'r amser angenrheidiol i ni adolygu a chynllunio datblygiadau ar gyfer y dyfodol, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau derbyniadau ar gyfer rhaglenni WAVDA a addysgir yng Nghaerdydd ar gyfer Medi 2026.

"Mae hyn yn golygu na fyddwn yn gallu cynnig lle i chi astudio ar y cwrs rydych wedi gwneud cais amdano eleni."

Glain (ail o'r dde yn y cefn) a’i chyd-fyfyrwyr ar y cwrsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Fyddwn i ddim lle rwy' heddiw heb y cwrs na'r cyfleoedd a gefais," meddai Glain Rhys (ail o'r dde yn y cefn)

Bu'r actores a'r gantores Glain Rhys yn astudio ar y cwrs, ac mae hi'n dweud ei bod yn "dorcalonnus" gweld cwrs unigryw yn diflannu a'r "unig un o'i fath yn y Gymraeg".

"Mae'r cwrs wedi meithrin rhai o wynebau mwyaf disglair y sîn theatr a theledu yng Nghymru, ac wedi bod yn fan cychwyn i yrfaoedd nifer ohonom. Mae fy nyled yn enfawr iddo.

"Fyddwn i ddim lle rwy' heddiw heb y cwrs na'r cyfleoedd a gefais yno. Mae'n dorcalonnus.

"Mae'n peri gofid na fydd pobl ifanc Cymru yn cael yr un cyfle. I lawer, roedd y cwrs yn fan saff i feithrin hyder yn y Gymraeg.

"Mae ein diwylliant yn rhywbeth arbennig, ac mae'n siomedig gweld pwysau parhaus ar y celfyddydau."

Dim effaith ar fyfyrwyr presennol

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu bod yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r cwricwlwm ar hyn o bryd, sy'n cynnwys rhaglenni a gynigir gan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru".

"Mae'r adolygiad i sicrhau bod cwricwlwm y Brifysgol mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol, gan adeiladu ar gryfderau presennol ac ymateb i anghenion esblygol myfyrwyr a chyflogwyr, gan gynnwys y rhai yn y diwydiannau perfformio," meddai.

"Er mwyn galluogi'r adolygiad a'r cynllunio gofalus ar gyfer cyflwyno yn y dyfodol, bydd derbyniadau newydd i raglenni'r Academi yn cael eu hoedi ar gyfer mynediad ym mis Medi 2026."

Ychwanegodd: "Rydym wedi ysgrifennu at ymgeiswyr i'w cynghori na fydd eu cwrs yn cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

"Ni fydd myfyrwyr presennol pob rhaglen yr Academi yn cael eu heffeithio, a bydd eu rhaglenni yn cael eu cyflwyno fel y cynlluniwyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.