'Dwi'n gynnyrch yr Urdd mewn cymaint o ffyrdd' - Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth gyda Mr Urdd ar y maesFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gymaint o anrhydedd yn gyntaf i fod mewn Eisteddfod dan haul fel hyn yn fy milltir sgwâr fy hun," meddai Rhun ap Iorwerth

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru Fyw Yn gohebu oMaes Eisteddfod yr Urdd
  • Cyhoeddwyd

Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth yw Llywydd y Dydd ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.

Roedd yr Urdd wedi trefnu y byddai'n llywydd ymhell cyn yr etholiad.

Wrth siarad â Cymru Fyw ar y maes, dywedodd fod yr "Urdd yn ganolog i'n bywyd ni fel cenedl, a drwy esblygu mae o'n sicrhau ei fod yn cario 'mlaen i wneud hynny".

Mae eisoes wedi bod yn troedio'r maes ddydd Sul wrth iddo ddod i wylio ei dad, Edward Morus Jones yn cael ei anrhydeddu fel un o lywyddion anrhydeddus yr Urdd.

'Anrhydedd rhyfeddol'

"Mae'n gymaint o anrhydedd yn gyntaf i fod mewn Eisteddfod dan haul fel hyn yn fy milltir sgwâr fy hun," meddai.

"Ma' cael bod yma fel prif weinidog a gweld yr Urdd ar eu gorau ac wedi cael yr anrhydedd rhyfeddol 'ma o fod yn llywydd y dydd, mae'n ddiwrnod sbesial i mi.

"Mae'n anodd rhestru gymaint o ffyrdd oedd yr Urdd yn rhan o'm mywyd i, pry'n ai'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn hogyn bach, neu fynd i Glan-llyn, neu Langrannog neu Theatr Genedlaethol yr Urdd, siarad cyhoeddus - cymaint o bethau.

"Ac fel cannoedd o filoedd o blant, dwi'n gynnyrch yr Urdd mewn cymaint o ffyrdd, a dwi'n cael yr anrhydedd heddiw o fod yn llywydd y dydd, ond mewn gwirionedd dwi jyst eisiau dweud diolch yn fawr iawn i'r Urdd am yr holl gyfleoedd."

Disgrifiad,

'Dwi'n gynnyrch yr Urdd mewn cymaint o ffyrdd' - Rhun ap Iorwerth

Pan gafodd ei holi sut mae'n gweld yr Urdd fel mudiad yn esblygu yn y blynyddoedd i ddod, dywedodd ei bod yn "ddiddorol gwylio'r Urdd yn newid ac yn esblygu ac yn cryfhau.

"Ma' Eisteddfod yr Urdd yn newid bob blwyddyn - newidiadau mawr eleni - a dyna sy'n ei gadw fo fel mudiad yn ffres.

"Mae'r llywodraeth dwi'n ei harwain yn benderfynol o weithio gyda'r Urdd ym mhob ffordd 'da ni'n gallu er mwyn cefnogi'r esblygiad yna, noddi nifer o fentrau yma sy'n digwydd am y tro cyntaf eleni - yr Ystafell Athrawon er enghraifft.

"Mae'r Urdd yn ganolog i'n bywyd ni fel cenedl, a drwy esblygu mae o'n sicrhau ei fod yn cario 'mlaen i wneud hynny."

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol yn Brif Weinidog Cymru wedi pleidlais yng nghyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl yr etholiad ar 7 Mai.

Rhun ap Iorwerth yw seithfed prif weinidog Cymru, a'r cyntaf i beidio bod o'r blaid Lafur.

Ef hefyd yw'r prif weinidog cyntaf i gynrychioli etholaeth yn y gogledd, ar ôl cael ei ethol i gynrychioli Bangor Conwy Môn ddechrau'r mis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.