Grŵmio plentyn: Arestio dyn o Borthmadog wedi ymchwiliad

- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Borthmadog wedi ei arestio ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol.
Cadarnhaodd yr heddlu bod y 29 oed wedi ei arestio ddechrau'r mis.
Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau Heddlu Gogledd Cymru yn parhau.
Dywedodd yr heddlu nad oes modd iddyn nhw wneud sylw pellach am fod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Maen nhw'n annog pobl i beidio â dyfalu am y digwyddiad na lledaenu gwybodaeth anghywir ar-lein, ac yn cynghori unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.