Des i o hyd i ddynion yn brolio am ffilmio partneriaid yn gudd a rhannu ar-lein

Jess DaviesFfynhonnell y llun, BBC/Rock Paper Productions
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ffilmio ac yn rhannu cynnwys o bobl sy'n anwyliaid oedd fwyaf pryderus, medd Jess Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae cyflwynydd teledu wedi canfod pobl ar y we yn brolio am ffilmio eu gwragedd, cariadon a dieithriaid yn gyfrinachol, cyn rhannu'r deunydd ar-lein.

Daeth Jess Davies o hyd i rwydwaith o bobl sy'n defnyddio camerâu cudd i ffilmio merched yn gyfrinachol, gan gynnwys un ar lwybr cerdded i recordio merched yn defnyddio gwrych fel toiled.

Yn y rhaglen, Hunting the Spycammers, gwelodd bod camerâu yn cael eu cuddio mewn pob math o lefydd, fel ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd newid.

Mae elusen Refuge wedi gweld cynnydd o 78% yn nifer yr atgyfeiriadau yn ymwneud â cham-drin drwy ddefnyddio technoleg y llynedd, tra bod Cymorth i Ferched Cymru yn dweud ei bod hi'n anodd mesur maint y broblem.

Jess Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 15 oed oedd Jess Davies pan gafodd delweddau ohoni'n ei dillad isaf eu rhannu o amgylch Aberystwyth

Yn ystod ei hymchwiliad daeth Davies ar draws ystod o gamerâu ysbïo rhad sydd ar gael i'w prynu - rhai sy'n edrych fel eitemau pob dydd fel plygiau neu bin ysgrifennu.

"Beth sydd wir yn achosi pryder yw faint o'r troseddwyr oedd yn ffilmio ac yn rhannu cynnwys o bobl - menywod yn bennaf - oedd yn anwyliaid iddyn nhw," meddai.

"Mae'n dangos yn glir sut allai unrhyw un gael ei dargedu gan hyn."

Mae'r pwnc yn un personol i Davies, a gafodd ei magu yn Aberystwyth yng Ngheredigion, gan mai dim ond 15 oed oedd hi pan gafodd lluniau ohoni yn ei dillad isaf eu rhannu o amgylch y dref.

'Gwneud i ti deimlo'n ddi-werth'

Roedd hi wedi eu hanfon at fachgen, a wnaeth eu hanfon at eraill heb ei chaniatâd.

"Roedd yn teimlo mor afiach, i feddwl bod rhywun oedd yn golygu rhywbeth i ti wedi gwneud hyn i fi. Mae'n gwneud i ti deimlo'n ddi-werth," meddai.

"Pan welais luniau tebyg o ddioddefwyr eraill yn cael eu rhannu ar y fforwm aethon ni mewn iddo, daeth y teimladau yn ôl, a dechreuais holi ble roedd fy llun i wedi mynd.

"Yw e'n bosibl ei fod wedi cyrraedd fforwm fel yma?"

Ychwanegodd bod rhai yn credu mai dim ond "banter" ydy'r peth, ond bod eraill a siaradodd â nhw ar gyfer y rhaglen yn teimlo "os na fyddai'r dioddefwr byth yn gwybod eu bod wedi cael eu ffilmio heb ganiatâd, doedd dim problem".

"Mae wir yn dangos pa mor aml mae niwed ar y we a cham-drin lluniau'n cael eu diystyru.

"Tu ôl i bob delwedd neu fideo, mae yna berson sy'n gorfod byw gyda'r brad am weddill ei oes."

Jess DaviesFfynhonnell y llun, BBC/Rock Paper Productions
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r camerâu weithiau yn cael eu cuddio mewn ystafelloedd gwely ac ymolchi, neu mewn ystafelloedd newid a llefydd preifat eraill

Dywedodd Bo Bottomley o elusen Refuge eu bod wedi "cofnodi cynnydd syfrdanol o 78% yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer achosion o gam-drin drwy ddefnydd technoleg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf".

Dywedodd yr elusen fod bron pob un o'r goroeswyr y maen nhw'n eu cefnogi wedi profi rhyw fath o gam-drin gyda defnydd technoleg ac wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau am gamerâu a meicroffonau cudd yn cael eu defnyddio mewn cartrefi.

Ychwanegodd bod y dyfeisiau yn "arbennig o bryderus" oherwydd eu bod "mor hawdd eu cael a fforddiadwy, gan alluogi mwy o droseddwyr i'w defnyddio fel arf i reoli eraill".

'Arbennig o anodd ei fesur'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymorth i Ferched Cymru y "gallai'r math hwn o wyliadwriaeth gudd dynnu teimlad person o breifatrwydd a diogelwch i ffwrdd".

Rhybuddiodd yr elusen hefyd fod y niwed yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r recordiad gwreiddiol, gyda delweddau a fideos sy'n cael eu rhannu yn cael effaith ddinistriol ar fywydau'r rhai sy'n goroesi ac yn gadael llawer yn teimlo'n anniogel, hyd yn oed yn eu cartrefi eu hunain.

"Mae'r math yma o gam-drin yn arbennig o anodd ei fesur. Ni fydd llawer o oroeswyr yn ymwybodol bod hyn yn digwydd iddynt," ychwanegon nhw.

Mae'n rhaid i gwmnïau technoleg weithredu'n gyflym hefyd i ddileu fideos sy'n cael eu rhannu o gamerâu cudd a darparu gwybodaeth i'r heddlu i helpu i nodi'r rhai sy'n gyfrifol, meddai'r elusen.

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn cais am sylw.

Bydd Hunting the Spycammers ar sianeli YouTube y BBC a BBC iPlayer o 15 Gorffennaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.