Comisiynydd: 'Angen i'r ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr fod yn fwy cyson'

Mae Efa, Elen a Swyn o Brifysgol Caerdydd yn cytuno gyda chasgliad y gwaith ymchwil
- Cyhoeddwyd
Mae'r hyn sy'n cael ei ddarparu i fyfyrwyr yn Gymraeg ar draws Cymru yn anghyson, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Ddydd Llun bydd Comisynydd y Gymraeg yn rhoi adroddiad ar y gwaith ymchwil ar faes Eisteddfod yr Urdd.
"Er ei bod yn galonogol gweld enghreifftiau cryf o arferion da, nid yw'r profiad hwnnw'n gyson ar draws y sector," medd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn.
Cafodd ymatebion dros 1,500 o fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch eu casglu ac mae'r canfyddiadau'n dangos darlun cymysg o brofiadau ar draws y sector.
"Er bod cynnydd wedi bod mewn darpariaeth Gymraeg o ganlyniad i waith y Coleg, mae'r ymchwil hwn yn amlygu unwaith yn rhagor bod angen i'r profiad Cymraeg ymestyn ymhell tu hwnt i'r ystafell ddosbarth," medd Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyw canlyniadau'r gwaith ymchwil ddim yn syndod i rai oedd ar faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddydd Sul.
Yn ôl Elen Evans, myfyrwraig trydedd flwyddyn sy'n astudio Daearyddiaeth yng Nghaerdydd mae diffyg darpariaeth Gymraeg ar ei chwrs wedi golygu ei bod hi'n aml yn teimlo o dan anfantais.
"Gyda fy mhwnc i, does dim llawer o ddarpariaeth Gymraeg ar gael. Yn y diwedd ges i diwtor personol Cymraeg, ond s'dim tiwtoriaid ar y cwrs yn dysgu trwy'r Gymraeg.
"Ma' hawl gyda ni i gyflwyno asesiadau yn Gymraeg, ond doedd hynny ddim yn teimlo'n ymarferol gan fod popeth arall yn cael ei wneud yn Saesneg ac felly fi'n aml yn teimlo dan anfantais."

Mae Swyn ac Elen yn credu bod angen i brifysgolion wneud mwy i gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr
Dywedodd Swyn Trysor, sy'n astudio Rheolaeth Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd, fod cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod ei hastudiaethau yn brin iawn.
"Yn ystod y tair blynedd dwi wedi bod yma, dim ond un modiwl Cymraeg sydd wedi bod ar gael. Ar wahân i hynny, prin iawn oedd y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg."
Dywedodd hefyd fod y profiad o fyw mewn llety Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddi yn gymdeithasol.
"Pan ddechreuais yn y brifysgol, o'n i'n byw mewn fflat Gymraeg ac roedd hynny'n rili neis.
Ond doedd y blociau eraill ddim yn Gymraeg, felly roedd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran cymdeithasu."
Yn ôl Swyn, mae angen i brifysgolion wneud mwy i gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr.
"Ma cyfrifoldeb ar brifysgolion i gynnig mwy. 'Dan ni ym mhrifddinas Cymru, ond does dim digon o adnoddau Cymraeg mewn rhai pynciau.
"Pe bai mwy o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu drwy'r Gymraeg, byddai hynny'n helpu mwy o fusnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddefnyddio'r iaith hefyd."

Mae sicrhau bod bloc Cymraeg yn Neuadd Senghennydd yng Nghaerdydd wedi bod o gymorth, medd Efa
Yn ôl Efa Jones, sy'n astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg, mae cael bloc Cymraeg yn llety Senghennydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yng Nghaerdydd.
"Yng Nghaerdydd yn ddiweddar, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod bloc Cymraeg yn llety Senghennydd. Mae hynny wedi helpu i greu cymuned agos ac awyrgylch diogel lle gallwn ni siarad Cymraeg gyda'n gilydd."
Ond dywedodd Efa ei bod yn teimlo nad yw'r Gymraeg wastad yn cael ei blaenoriaethu o fewn y brifysgol.
"Ar y llaw arall, dydy'r adran Gymraeg ddim yn bodoli fel adran ar wahân bellach ac mae hi bellach yn rhan o adran ieithoedd. Dwi'n meddwl bod hynny'n dangos nad yw'r Gymraeg yn flaenoriaeth fel y dylai fod ym mhrifddinas Cymru."
Mae hi hefyd yn dweud bod llawer o fyfyrwyr yn poeni am y diffyg cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae lot o fyfyrwyr hefyd yn poeni nad ydyn nhw'n gallu gwneud eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gorfod gwneud rhan helaeth o'u hastudiaethau yn Saesneg."

Roedd sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hyrwyddo i fyfyrwyr yn cael ei ystyried hefyd
Bwriad yr ymchwil oedd ystyried y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg i fyfyrwyr mewn pedwar maes penodol, sef:
gallu myfyrwyr i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
dewis o lety gyda siaradwyr Cymraeg
cynnig a dyrannu tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg
mynediad at wasanaethau llesiant drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ychwanegol at hynny roedd y defnydd ehangach o'r Gymraeg gan sefydliadau addysgol yn cael ei ystyried - gan gynnwys diwylliant ieithyddol y campws, a sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hyrwyddo i fyfyrwyr.

Mae'r gwaith yn bwysig er mwyn cynllunio y ffordd ymlaen, medd Osian Llywelyn
Gan fod profiadau plant a phobl ifanc wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn thema benodol yng Nghynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg, mae'r gwaith ymchwil hwn yn gyfraniad pwysig at ddeall sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu ac yn gweithredu'n ymarferol i fyfyrwyr, medd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn: "Wrth i ni ystyried pwysigrwydd cynnal a datblygu defnydd parhaus o'r iaith Gymraeg, rhaid cydnabod pa mor allweddol yw rôl colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol fel rhan o'u bywydau academaidd a chymdeithasol.
"Yr hyn mae'r gwaith ymchwil hwn yn ei gynnig i ni yw gwell dealltwriaeth o brofiad uniongyrchol myfyrwyr o'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae dyletswyddau penodol wedi'u gosod drwy safonau'r Gymraeg, ond hefyd ar y diwylliant ehangach sy'n dylanwadu ar ddefnydd o'r iaith o ddydd i ddydd.
"Er ei bod yn galonogol gweld enghreifftiau cryf o arferion da, nid yw'r profiad hwnnw'n gyson ar draws y sector.
"O ganlyniad, rydym wedi nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i'r sefydliadau perthnasol fynd i'r afael â nhw. Rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau adeiladol a chadarnhaol dros y misoedd nesaf."
Pum cam gwella penodol
Cafodd holiaduron eu rhannu ymhlith myfyrwyr sy'n astudio mewn coleg neu brifysgol yng Nghymru, a chynhaliwyd sesiynau trafod gyda grwpiau llai er mwyn cael darlun cyflawn o'r gwasanaethau a gynigir.
O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae pum cam gwella penodol wedi eu hadnabod sef:
Safoni trefniadau asesu yn Gymraeg
Cynnig y Gymraeg yn rhagweithiol, nid dim ond fel opsiwn
Cau'r bylchau sgiliau Cymraeg yn y gweithlu
Cryfhau'r profiad Cymraeg sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn
Sicrhau cysondeb drwy hunanasesu a monitro cadarn
Nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng dros ddwy flynedd
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
'Angen mwy o'r Gymraeg ar-lein ac mewn gemau i ehangu defnydd ohoni'
- Cyhoeddwyd23 Mawrth
'Lle i wella' wrth gynnig cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2025
Ychwanegodd James Owen, Prif Weithredwr Medr, sydd yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru:
"Mae'r canfyddiadau'n dangos darlun amrywiol, ac yn tanlinellu'r angen i wneud mwy i gefnogi'r sector addysg drydyddol, ei staff, a'i ddysgwyr i symud ymhellach ar y continwwm sgiliau Cymraeg dros amser.
"Bydd Amod y Gymraeg newydd Medr yn rhoi ffocws cliriach ar rôl darparwyr wrth hybu a hyrwyddo'r Gymraeg, ac ar feithrin amgylchedd lle gall staff a dysgwyr ddefnyddio'r iaith yn naturiol.
"Bydd angen i golegau a phrifysgolion ddangos sut maen nhw'n mynd i hyrwyddo gwerth y Gymraeg, y manteision mae'r iaith yn eu cynnig, a sut y byddan nhw'n creu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
"Mae'r gofynion hyn, sydd wedi'u cyd-greu â phartneriaid a chyd-reoleiddwyr megis Comisiynydd y Gymraeg, yn codi'r uchelgais ar draws y sector ac yn creu lifer rheoleiddio fydd yn sail i'n Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol sydd wrthi'n cael ei ddatblygu."
'Ymchwil amserol a'r camau'n rhoi llwybr clir'
Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'r ymchwil hwn yn amserol,
"Mae profiadau dysgwyr o'r Gymraeg yn ystod eu cyfnod mewn coleg neu brifysgol yn dylanwadu'n sylweddol ar eu gallu a'u parodrwydd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle wedyn.
"Mae'r camau gwella yn rhoi llwybr clir i golegau a phrifysgolion weithio gyda sefydliadau fel Medr, Comisiynydd y Gymraeg a'r Coleg i wella'r gwasanaeth i ddysgwyr.
"Yn sgil newidiadau diweddar i'r tirwedd addysg drydyddol, mae hyn yn fwy o reidrwydd nag erioed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.