Her un Cofi i redeg cilomedr am bob gôl yng Nghwpan y Byd

Matthew RobertsFfynhonnell y llun, Matthew Roberts
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth i gefnogwyr Yr Almaen estyn am stein arall i ddathlu buddugoliaeth 7-1 yn erbyn Curaçao yng Nghwpan y Byd ddydd Sul, roedd rhaid i Matthew Roberts estyn am ei esgidiau rhedeg.

Mae'r athro o Gaernarfon wedi gosod her i'w hun i redeg cilomedr am bob gôl sy'n cael ei sgorio yn y bencampwriaeth eleni, ac ar ôl dechrau eithaf hamddenol, mae pethau wedi poethi yn go sydyn, meddai.

"Naeth o gychwyn reit araf efo'r gêm gyntaf, efo 2-0 i Mexico – boring, 2km!

"5km oedd hi'r ail ddiwrnod, wedyn 9km... ond wedyn, o'dd gen i 15km i'w 'neud!

"I gychwyn, o'n i'n meddwl 'dwi isho mwy o goliau!' ond fel o'ddan nhw'n mynd i mewn [yng ngêm yr Almaen], o'n i'n dechrau newid meddwl dipyn bach!"

Nid yw’r post yma ar TikTok yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar TikTok
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys TikTok.
I osgoi fideo tiktok gan Matthew Roberts

Caniatáu cynnwys TikTok?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan TikTok. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis TikTok, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys TikTok.
Diwedd fideo tiktok gan Matthew Roberts

Mae Matthew yn dogfennu ei ymgais mewn fideos Cymraeg ar TikTok – doedd o ddim yn credu y byddai neb yn ei goelio tasai ond yn ei gofnodi ar yr ap rhedeg Strava, meddai! – ac yn cael dipyn o sylw a dilynwyr newydd yn barod.

"Dwi wedi cael ymateb reit dda. 'Nes i neud y fideos yn gyhoeddus i gael mwy o sylw, a dydy'r ffôn ddim wedi stopio buzzian ers hynny; o'dd o'n constant, efo pobl yn hoffi a dilyn.

"Dwi'n gobeithio ei fod o'n cyrraedd dros Gymru erbyn hyn."

Rhedeg ar gyfer iechyd meddwl

Mae Matthew wrth ei fodd yn rhedeg – mae'n dda ar gyfer ei iechyd meddwl, eglura - ac wrthi'n hyfforddi ar gyfer Ras yr Wyddfa ar hyn o bryd.

Ond nid her ffitrwydd yw hon yn unig; mae'n ei wneud er mwyn codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl yng Nghymru.

"O'n i 'di meddwl yn galed am beth i godi arian ato, a iechyd meddwl dynion ddaeth i'r meddwl.

"O'n i 'di g'neud ymchwil, ac mae 'na elusen o'r enw Helpu Cymru sy'n helpu dynion ledled Cymru gyda'u hiechyd meddwl, drwy gynnig cefnogaeth, cymuned i siarad a rhannu profiadau, a rhywun i wrando.

"Ac o'n i'n meddwl, fel dynion, 'dan ni angen cael gwared o'r stigma o 'rhaid i ni fod yn gryf drwy'r amser, a ddim dangos emosiwn'. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni rannu ein teimladau."

Disgrifiad,

GWRANDO: Matthew yn siarad am ei her ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru

Felly tybed faint o gilomedrau fydd Matthew wedi gorfod eu rhedeg erbyn i ni wybod pwy fydd yn codi'r Gwpan ar 19 Gorffennaf?

Cafodd 172 o goliau eu sgorio bedair blynedd yn ôl pan oedd y bencampwriaeth yn Qatar, ond wrth gwrs, mae'r twrnamaint yn llawer mwy eleni, gyda mwy o dimau yn cystadlu a 40 o gemau ychwanegol.

Unarddeg oedd cyfanswm y goliau a gafodd eu sgorio yn y gemau ddydd Llun, diolch i bump gôl Sweden yn erbyn Tunisia, felly mae hi'n argoeli i fod yn her a hanner i Matthew!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.