Glanhau organ bib hanesyddol capel Cwm Rhondda fel rhan o waith adfer
- Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o’r llun, Bydd gwirfoddolwyr a selogion yn tynnu, glanhau ac adfer pob un o'r bibau'r organ Blackett & Howden - 764 i gyd
1 o 5
- Cyhoeddwyd
Fe fydd gwaith "glanhau dwfn" yn dechrau yn ystod y dydd sy'n un o gamau "hanfodol" adfer organ bib sydd â rhan bwysig yn hanes yr emyn-dôn boblogaidd Cwm Rhondda.
Ddydd Llun a dydd Mawrth fe fydd tîm o wirfoddolwyr yn tynnu, glanhau ac adfer pob un o'r 764 o bibau o organ Capel Rhondda ym mhentref Trehopcyn ger Pontypridd.
Ar yr organ yma, ym mis Tachwedd 1907, y cafodd yr emyn-dôn adnabyddus ei chwarae am y tro cyntaf erioed, wedi i John Hughes ei chyfansoddi i nodi gosod yr offeryn yn y capel.
Ond wedi i gyflwr y capel ddirywio, wrth i lai ei fynychu, fe waethygodd cyflwr yr organ hefyd, nes y bu'n "gwbl anchwaraeadwy am sawl blwyddyn tan yn gynharach yr haf hwn".
Mae'r gwaith glanhau yn rhan o gynllun ehangach i adfer yr organ yn llawn cyn ei phen-blwydd yn 120 oed ym mis Tachwedd 2027.
Roedd y capel yn wag am gyfnod cyn i'r perchnogion, Undeb Bedyddwyr Cymru, derbyn cynnig grŵp cymunedol i'w brynu y llynedd.
Cafodd y pryniant ei gwblhau yn gynarach eleni.

Mae Rhian Hopkins yn aelod o dîm cymunedol Adfer Capel Rhondda
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un o gyfarwyddwyr y capel, Rhian Hopkins:
"Mae'r elusen Pipe Up for Pipe Organs, sy'n angerddol dros achub yr organau 'ma, wedi cysylltu efo ni ac yn mynd i weithio efo ni i sicrhau bod yr organ yn gallu cael ei chwarae flwyddyn nesaf.
"Maen nhw'n hyderus iawn bod modd ei adfer. Heddiw a fory mae criw o wirfoddolwyr o'r elusen yn mynd i dynnu bob un o'r 764 o bibau, maen nhw'n mynd i lanhau nhw. Mae'n gam pwysig ar y daith i adfer yr organ, ac mae llawer o waith o'n blaenau ni."
Fe fydd y gwaith glanhau yr "organ eiconig Blackett & Howden" yn cael ei wneud dan arweiniad cyd-sylfaenydd yr elusen, Martin Renshaw, a'r saer organau o ardal Y Fenni, Kingsley Robinson.
Dywed rheolwyr y capel mewn datganiad bod Mr Robinson, "yn ystod ei archwiliad cyntaf" wedi llwyddo "i ddeffro'r [organ] gan wneud saith nodyn yn glywedol".
"Ar ymweliad dilynol, datrysodd broblem fawr gyda chwythwr yr offeryn, gan ganiatáu i Gwm Rhondda gael ei chwarae ar ei allweddi gwreiddiol am y tro cyntaf ers blynyddoedd," ychwanegodd.

Y saer organ Kingsley Robinson - y cyntaf i chwarae organ Capel Rhondda ers sbel wedi ofnau na fyddai modd i unrhyw un wneud hynny eto
Mae Kingsley Robinson wedi cydweithio eisoes gyda'r elusen Pipe Up for Pipe Organs i adfer hen organ arall yn Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar.
Roedd y grŵp cymunedol Ynys y Cwtsh, a gafodd ei sefydlu i achub ac adfywio eglwys a neuadd y Santes Anne yn Ynyshir, wedi cael ar ddeall bod yr organ bib yno, organ Harrison & Harrison o 1907, "y tu hwnt i'w hatgyweirio".
Ond gyda chefnogaeth ariannol yr elusen, fe lwyddodd Mr Robinson i atgyweirio'r offeryn yn llwyddiannus "mewn wythnos yn unig".
Mae Mr Robinson yn dogfennu gwaith adfer y mae'n ei wneud yng Nghapel Rhondda ar ei sianel YouTube, Pipe Organ Revival.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror

- Cyhoeddwyd2 Awst 2025




