S4C yn dod i setliad chwe-ffigwr gydag ail uwch-reolwr gafodd ei diswyddo

Mae Llinos Griffin-Williams yn dwyn achos yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi bod y sianel wedi dod i setliad ariannol gydag ail gyn-reolwr oedd wedi dwyn achos Uchel Lys yn ei herbyn.
Roedd cyn-brif swyddog cynnwys y darlledwr, Llinos Griffin-Williams, wedi dod ag achos diogelu data yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd, Rhodri Williams.
Mewn datganiad, dywedodd S4C bod y "partïon wedi dod i'r casgliad ei fod er budd pawb i ddatrys yr anghydfod er mwyn osgoi achos cyfreithiol hirfaith. Maent yn falch o fod wedi cyrraedd datrysiad sy'n galluogi pawb i symud ymlaen".
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd S4C setliad gyda'r cyn-brif weithredwr Sian Doyle, oedd wedi dwyn achos anaf personol yn eu herbyn.
Mae S4C yn cael ei ariannu yn bennaf drwy ffi'r drwydded.
Dywedodd ffynhonnell wrth Newyddion S4C na chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei wario ar y setliadau eu hunain.
Mae S4C wedi gwrthod gwneud sylw am yr effaith ar bremiymau yswiriant ac a gafodd unrhyw arian cyhoeddus ei wario ar ffioedd cyfreithiwr.
Roedd adroddiadau yn y wasg ar y pryd i Sian Doyle dderbyn dros £500,000 fel rhan o'i setliad hi.
Yn ôl dogfennau anfonwyd i'r Uchel Lys, roedd Llinos Griffin-Williams yn hawlio £565,000 mewn colledion cyflog a symiau pellach o ran y niwed honedig a wnaed iddi.
Dyw cyfanswm ei setliad hi heb ei ddatgelu, ond y gred yw bod y taliad yn un sylweddol, chwe ffigwr.
Beth yw'r cefndir?
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys S4C, lle roedd hi'n ennill cyflog blynydddol o £124,000 yn ôl adroddiad blynyddol y darlledwr, ym mis Hydref 2023.
Cafodd ei chyhuddo o gamymddwyn difrifol ar ôl honiadau iddi gam-drin cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips yn eiriol yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.
Mewn dogfennau a rannwyd â'r Uchel Lys, datgelwyd i dri unigolyn godi pryderon am ymddygiad Ms Griffin-Williams.
Cafodd ei diswyddo yn fuan wedi'r digwyddiadau honedig, heb gael cyfle i ymateb.
Yn ôl dogfennau a anfonwyd ar ei rhan hi i'r Uchel Lys, roedd Ms-Griffin Williams yn herio y dystiolaeth yn ei herbyn, gan gwestiynu pa mor ddibynadwy oedd y tystion.
Amlygodd dogfennau eraill y llys negeseuon testun honedig yn llawn rhegfeydd anfonodd Ms Griffin-Williams at aelod blaenllaw o'r cwmni oedd yn cynhyrchu rhaglenni Cwpan y Byd ar ran y darlledwr.
Dywedodd Llinos Griffin-Williams iddi gael ei thrin yn wahanol i bobl eraill mewn swyddi dylanwadol yn S4C oedd wedi wynebu honiadau "allai fod yn gyfystyr a chamymddwyn difrifol".
Ar y pryd, dywedodd S4C nad oedd ganddyn nhw "unrhyw gofnod o ymddygiad amhriodol gan aelod arall o staff S4C".
Dyw S4C na'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams, oedd hefyd wedi ei enwi yn yr hawliad, ddim yn derbyn unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd fel rhan o'r setliad.

Mewn datganiad drwy law cwmni cyfathrebu, mae Ms Griffin-Williams yn amlinellu rhai o'i chwynion yn erbyn ei chyn-gyflogwr, gan gynnwys cwyn yn erbyn y cyn-gadeirydd, Rhodri Williams - cwyn a gafodd ei dderbyn.
Mae'n dweud bod ei hiechyd wedi dirywio oherwydd y "straen" a wynebodd yn ystod ei chyfnod gydag S4C, "yn cynnwys problemau calon cysylltiedig â straen".
Yn ôl y datganiad roedd hi angen llawdriniaeth ar ei chalon a chyfnod o ofal ysbyty dwys.
Dywedodd bod y straen oherwydd gwybodaeth gafodd ei rannu gyda'r wasg amdani hi, gan ychwanegu bod S4C wedi cael rhybudd y gallai straen pellach gael effaith ar ei hiechyd.
"Rydw i'n falch bod y bennod ofnadwy yma wedi dod i ben ar ôl dwy flynedd a hanner," meddai yn y datganiad.
"Dylai darlledwr cyhoeddus weithredu gyda thryloywder ac urddas. Nid yw'r hyn a brofais i yn cyrraedd y gofynion hynny.
"Rydym yn byw mewn byd ble mae dynion pwerus yn teimlo bod ganddynt yr hawl i fychanu a dinistrio menywod. Yma, fe wnaeth darlledwr cyhoeddus ganiatáu i hynny ddigwydd.
"Mae'n fy nhristáu bod sianel sydd o gymaint o bwys i Gymru wedi methu i'r fath raddau wrth ddiogelu'r gwerthoedd y mae fod i'w cynnal."

Dywedodd Rhodri Williams ei bod yn "dda gallu dod â'r anghydfod i ben heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd"
Dywedodd bod y cyfnod yn "ofnadwy o anodd" iddi hi a'i theulu, ac na fyddai unrhyw daliad yn "gwella'r trawma a'r boen rydw i a fy mhlant wedi ei brofi".
Er ei bod "wedi ceisio datrys y mater yn breifat" dywedodd ei bod wedi cael ei gorfodi i fynd drwy'r llysoedd, a bod y setliad yn ei galluogi i "ailadeiladu fy mywyd".
"Os oes un peth rydw i'n gobeithio sy'n dod o hyn, hynny ydy bod menywod yn cael eu hatgoffa nad oes rhaid goddef camdriniaeth a chamddefnydd pŵer, ac ni ddylent gael eu bygwth i aros yn dawel."
Dywedodd Rhodri Williams: "Mae'r cyfnod yma wedi bod yn un anodd a hynod amhleserus i bawb oedd ynghlwm â'r mater.
"Roedd y cyngor cyfreithiol a arweiniodd at ddiswyddo Llinos Griffin-Williams yn ddiamod am gamymddwyn difrifol yn gadarn a gweithredwyd yn uniongyrchol ar sail y cyngor hwnnw.
"Mae'n dda gallu dod â'r anghydfod i ben heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd ar ran S4C na finne."
Mae S4C wedi cael cais am eu hymateb i'r datganiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2025

- Cyhoeddwyd19 Medi 2025

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023

- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025
