'Eisiau gweithio yng Nghymru, ond does dim swyddi' - myfyrwyr ffisiotherapi

Myfyrwyr o flaen y senedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd myfyrwyr a graddedigion ffisiotherapi wedi ymgynnull o flaen y Senedd i alw am fwy o gyfleoedd gwaith yng Nghymru.

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae myfyrwyr ffisiotherapi yng Nghymru yn dweud eu bod yn teimlo'n "rhwystredig" ac yn "ansicr" am eu dyfodol oherwydd prinder swyddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

Bu myfyrwyr a graddedigion yn protestio ar risiau'r Senedd brynhawn Mawrth gan alw am fwy o gyfleoedd gwaith a rhybuddio y gallai ffisiotherapyddion sydd newydd gymhwyso "gael eu gorfodi i adael Cymru neu droi at feysydd gwaith eraill".

Yn ôl y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, mae galw am fwy o ffisiotherapyddion yng Nghymru, ond does dim digon o swyddi ar gael i'r rhai sy'n graddio oherwydd pwysau ariannol a chyfyngiadau recriwtio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pryderon myfyrwyr ac yn gweithio gyda'r GIG a sefydliadau perthnasol i gefnogi graddedigion.

Anwen Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Anwen Thomas, mae'r diffyg swyddi ffisiotherapi yn "rili rhwystredig" gan fod cleifion angen triniaeth a graddedigion yn barod i weithio

Mae Anwen Thomas, o Gaerfyrddin, sy'n astudio ffisiotherapi, yn dweud bod y diffyg cyfleoedd gwaith yn peri rhwystredigaeth, yn enwedig gan fod cleifion yn parhau i fod angen triniaeth.

"Ma' 'na lot o rwystredigaeth ynglŷn â'r diffyg swyddi ym maes gofal iechyd yng Nghymru, ond yn enwedig 'efo ffisiotherapi ar hyn o bryd," meddai.

"Ni wedi dod ar y cwrs yma yn meddwl y byddai 'na swydd ar ei ddiwedd e, ond ma' 'na ansicrwydd mawr o gwmpas hynny.

"Ma' 'na gleifion yn yr ysbytai sydd angen triniaeth a gweld ffisiotherapydd, felly ma'r diffyg swyddi 'ma'n rili rhwystredig, achos does dim diffyg myfyrwyr na phobl sydd angen y driniaeth."

Dywedodd Anwen ei bod wedi edrych ar brofiadau'r rhai a raddiodd yr haf diwethaf, a bod nifer y rhai sydd wedi cael swyddi yn peri pryder iddi.

"Allai ond meddwl am bedwar sydd wedi cael swydd allan o tua 50 ohonyn nhw," meddai.

"O ran ystadegau, o gymharu â faint sydd ar y cwrs, ma' hwnna'n rif ofnadwy. Dyw e ddim yn ddigon da."

Ychwanegodd fod y sefyllfa'n gorfodi graddedigion i ystyried gadael Cymru neu chwilio am waith mewn maes gofal arall.

"Fi eisiau i Lywodraeth Cymru gymryd y mater o ddifrif," meddai.

"Ma' 'na gleifion yn y gwelyau yn gofyn am ffisiotherapydd, ond does 'na neb i helpu."

Ruby Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n dod o Gaerdydd, dwi isie aros yng Nghymru a gweithio yma," meddai Ruby Jones

Mae'r diffyg swyddi hefyd yn codi pryderon i fyfyrwyr sydd wedi derbyn bwrsariaeth ffisiotherapi Llywodraeth Cymru, sy'n golygu bod disgwyl iddyn nhw weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, neu wynebu'r posibilrwydd o orfod ad-dalu'r arian.

Mae Ruby Jones, o Gaerdydd, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio ffisiotherapi, yn dweud ei bod am aros yng Nghymru, ond nad yw'n sicr y bydd hynny'n bosib.

"Chi'n dod mewn i'r swydd yma achos chi isie helpu pobl, ac wedyn cael gwybod ar y diwedd bod 'na ddim opsiwn i wneud hynny - mae'n siomedig iawn," meddai.

"Ma' pawb fan hyn mor frwdfrydig am y cwrs a'r swydd, felly mae'n siom ac yn rili drist."

'Lot o gwestiynau a dim atebion'

Dywedodd Ruby ei bod am aros yng Nghymru ar ôl gorffen ei hastudiaethau.

"Dwi'n dod o Gaerdydd, dwi isie aros yng Nghymru a gweithio yma. Dwi wrth fy modd yma," meddai.

Ond mae'n poeni am oblygiadau'r sefyllfa i fyfyrwyr sydd wedi derbyn bwrsariaeth.

"Fi a lot o bobl yma yn rhan o'r cynllun bwrsariaeth, sy'n golygu bod y llywodraeth wedi talu i ni fynd drwy'r brifysgol ar yr amod ein bod ni'n gweithio yma am ddwy flynedd. Wel, os da ni ddim yn gallu gwneud hynny, bydd rhaid i ni efallai dalu'r arian yn ôl."

Ychwanegodd fod y sefyllfa'n codi cwestiynau am y buddsoddiad mewn hyfforddi'r gweithlu iechyd.

"Ma' Cymru wedi rhoi'r arian a'r cyllid i ni ddatblygu'n sgiliau er mwyn dod â nhw nôl i'r NHS. Ma' 'na lot o gwestiynau, ac yn amlwg does 'na ddim atebion iddyn nhw," meddai.

Calum Higgins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Calum Higgins o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn galw am fwy o swyddi i raddedigion ffisiotherapi

Mae Calum Higgins, rheolwr Cymru ar ran y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, yn dweud bod angen sicrhau bod graddedigion yn gallu defnyddio eu sgiliau i helpu cleifion yng Nghymru.

"Ni'n hyfforddi pobl yma yng Nghymru i weithio yma, i ddatblygu sgiliau yn yr ysbytai, 'efo'r gobaith o'u cadw yng Nghymru. Ond ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn edrych yn bosib," meddai.

Dywedodd fod yna alw am fwy o ffisiotherapi ac adsefydlu wrth i'r boblogaeth heneiddio ac wrth i gleifion wella ar ôl triniaethau.

Mae'n poeni y bydd graddedigion ifanc yn gorfod gadael Cymru i ddod o hyd i waith, gan gynnwys y rhai sydd wedi derbyn cymorth ariannol i hyfforddi.

"Ma' nifer ohonyn nhw wedi derbyn y fwrsariaeth, a ma' rhaid talu hwnna nôl os chi ddim yn ffeindio swydd. Ma' hwnna allan o'u rheolaeth nhw, sydd ddim yn deg ac yn broblem fawr," meddai.

Disgrifiad,

Bu myfyrwyr a graddedigion yn protestio ar risiau'r Senedd brynhawn Mawrth gan alw am fwy o gyfleoedd gwaith

Mae'r gymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd yn agor mwy o swyddi i ffisiotherapyddion sydd newydd gymhwyso.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod y sefyllfa'n peri pryder i weithwyr gofal iechyd proffesiynol newydd sydd heb sicrhau swyddi eto.

Ychwanegodd llefarydd fod y llywodraeth yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG i geisio cynyddu cyfleoedd cyflogaeth i garfan raddedigion 2026.

Dywedwyd hefyd fod y cynllun bwrsariaeth yn cydnabod y gall rhai graddedigion fethu sicrhau gwaith "heb unrhyw fai arnynt eu hunain", a bod achosion o'r fath yn cael eu hystyried yn unigol.

"Rydym yn parhau'n ymrwymedig i helpu graddedigion i gael cyflogaeth a chadw eu sgiliau o fewn GIG Cymru," ychwanegodd y llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.