Prinder swyddi graddedigion iechyd yn creu perygl o 'niwed hirdymor i'r GIG'

Roedd Mia o Gaerffili yn gobeithio dechrau ei swydd gyntaf fel nyrs eleni
- Cyhoeddwyd
Gallai'r Gwasanaeth Iechyd (GIG) wynebu niwed hirdymor os bydd gweithwyr gofal iechyd sydd newydd gymhwyso yn parhau i gael trafferth dod o hyd i swyddi ar ôl graddio, yn ôl arbenigwr.
Dywedodd James Buchan, arbenigwr mewn polisi gweithlu iechyd, fod "risg i enw da" y GIG os nad yw darpar fyfyrwyr yn gweld swyddi gofal iechyd fel llwybr dibynadwy i gyflogaeth.
Dywedodd un myfyriwr nyrsio yn ei blwyddyn olaf - sy'n chwilio am waith ar hyn o bryd - fod y diffyg swyddi wedi gwneud iddi gwestiynu ei phenderfyniad i ddilyn gradd nyrsio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda phrifysgolion, byrddau iechyd a graddedigion i gael pobl i mewn i waith.

Mae James Buchan yn dweud y gallai enw da'r GIG fel cyflogwr gael ei niweidio
Daw'r rhybudd wrth i gannoedd o fyfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a pharafeddygol barhau heb swyddi yn y GIG yng Nghymru.
Fis diwethaf cadarnhaodd sefydliad gweithlu'r GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), fod bron i 400 o raddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yn parhau heb swyddi yn y GIG ar ôl i'r rownd gyntaf o baru swyddi ddod i ben fis diwethaf.
Dywedodd Buchan, uwch gymrawd yn elusen The Health Foundation, fod gan raddedigion newydd ddisgwyliadau i allu symud yn gymharol esmwyth i yrfa, a gallent o bosib "ddechrau cael eu digalonni" ac ystyried opsiynau eraill.
"Dim ond trwy biblinell dda o weithwyr iechyd proffesiynol newydd eu hyfforddi sy'n dod i gyflogaeth y gall y GIG gynnal darpariaeth gwasanaethau," meddai.
"Os yw'r biblinell honno'n lleihau neu'n cael ei rhwystro'n rhannol, mae hynny'n ei dro yn creu heriau gwasanaeth."

Dydy Mia ddim eisiau gadael Cymru er mwyn cael swydd
Mae Mia Edgeworth, 21, yn ei blwyddyn olaf yn astudio nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, ac ar hyn o bryd nid oes ganddi swydd wedi ei threfnu at ar ôl y brifysgol.
Mae hi'n un o'r 306 o nyrsys sydd heb sicrhau rolau band 5 ym mis Mehefin 2026.
"Cyn i chi hyd yn oed wneud cais am nyrsio, pan fyddwch chi'n mynychu'r diwrnodau agored, maen nhw'n dweud wrthych chi, pan fyddwch chi'n gorffen y cwrs, bod swydd wedi gwarantu," eglurodd.
"Ychydig fisoedd cyn i mi orffen, daeth e-bost yn dweud na fyddai digon o swyddi i bawb."
Dywedodd ei fod yn "gyfnod ansicr" iddi, gan ychwanegu ei bod hi'n ofni y bydd pobl yn "amharod" i ystyried nyrsio fel gyrfa.
"Rwy'n credu y bydd yn sicr o gael effaith ar yrfaoedd nyrsys yn y dyfodol a phobl sy'n edrych i fynd i mewn i nyrsio."
Derbyniodd Ms Edgeworth fwrsariaeth nyrsio gan y GIG, sy'n golygu bod ei ffïoedd dysgu wedi'u talu.
O ganlyniad mae hi wedi ymrwymo i weithio i GIG Cymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.
Y gred yw y bydd "hyblygrwydd" ynghylch gofynion cyflogaeth y bwrsariaeth i'r rhai sydd ddim wedi llwyddo i gael swyddi yn ystod y broses gychwynnol hon.
Bydd cyfnod dyrannu pellach i baru graddedigion â 131 o swyddi nyrsio sy'n weddill yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf - gan lleihau'r niferoedd heb waith.
Pam bod graddedigion yn wynebu anhawsterau?
Yng Nghymru, mae llefydd prifysgol ar gyfer cyrsiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd yn cael eu cynllunio gan Addysg a Gwella Iechyd (HEIW), sy'n defnyddio data o fyrddau iechyd i ragweld niferoedd staff y bydd eu hangen yn y dyfodol.
Gan ei bod yn cymryd nifer o flynyddoedd i hyfforddi gweithiwr gofal iechyd, mae'r rhagolygon hyn yn cael eu gwneud sawl blwyddyn ymlaen llaw.
Dywedodd HEIW fod y rhagolygon sy'n sail i nifer y swyddi eleni wedi'u gwneud yn ystod pandemig Covid-19, lle'r oedd trosiant staff yn uwch ac roedd y gwasanaeth dan bwysau eithriadol.
Ers hynny, mae cyfraddau cadw staff wedi gwella, sy'n golygu bod llai o bobl wedi gadael y GIG a llai o swyddi gwag ar gael.
O ganlyniad, mae prifysgolion yng Nghymru wedi oedi rhai cyrsiau ar gyfer 2026-2027.

Mae Ryan Davies o Abertawe yn gobeithio gweithio yn y GIG yn y dyfodol
Dysgodd Ryan Davies, 19, o Abertawe, yn ddiweddar na fyddai'n gallu astudio gradd mewn gwyddoniaeth barafeddygol yn ei ddinas enedigol, er iddo gael cynnig lle i ddechrau.
Mae Prifysgol Abertawe wedi tynnu cynigion yn ôl ar gyfer carfan 2026.
"Roedd yn wirioneddol dorcalonnus," meddai Ryan, sy'n gweithio ar hyn o bryd fel gweithiwr cymorth gofal iechyd.
Ers hynny, mae wedi cael cynnig lle ar y cwrs nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Abertawe a bydd yn dechrau ei radd ym mis Medi.
"Mae cymaint o ansicrwydd - rwy'n ceisio peidio â phoeni gormod amdano."
Dywedodd ei fod yn gobeithio, erbyn iddo orffen ei radd, y bydd swyddi gwag ar gael iddo o fewn y GIG yng Nghymru.
Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd Archwilio Cymru fod gan GIG Cymru orwariant o £481m.
Er bod byrddau iechyd yn parhau i adrodd bod ganddyn nhw swyddi gwag, nid oes modd ariannu nifer o'r swyddi.
Cofnododd data gweithlu'r GIG fwy na 5,600 o swyddi llawn amser gwag ar draws byrddau iechyd Cymru ar ddiwedd 2025.
Sut mae problemau recriwtio'r GIG yn cael eu datrys?
Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd Gweinidog Iechyd Cymru, Mabon ap Gwynfor, uwchgynhadledd gyda phenaethiaid iechyd, prifysgolion a chyrff proffesiynol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "dod o hyd i atebion ar unwaith ac atal hyn rhag digwydd eto a gofynnodd am i gamau gweithredu o'r uwchgynhadledd gael eu cyflwyno'n genedlaethol".
Ychwanegodd: "Rydym yn gwybod pa mor siomedig yw hi i raddedigion nyrsio, bydwreigiaeth a pharafeddygon eleni nad ydynt wedi sicrhau'r rolau y buont yn gweithio mor galed amdanynt.
"Rydym wedi gofyn i Addysg a Gwella Iechyd Cymru gydlynu cynnig cymorth cenedlaethol, gan gynnwys un pwynt mynediad i sicrhau bod graddedigion yn parhau i gael eu cefnogi a'u cysylltu â chyfleoedd cyflogaeth sy'n dod i'r amlwg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.