Dan Thomas: 'Byddwn i'n ystyried rhodd gan droseddwr pe bai angen diogelwch'

Dywedodd Dan Thomas y byddai'n ystyried derbyn rhodd gan droseddwr pe bai ei angen i ariannu diogelwch
- Cyhoeddwyd
Dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru y byddai'n ystyried derbyn rhodd gan droseddwr pe bai angen arian "yn daer" arno i dalu am ddiogelwch.
Daeth sylwadau Dan Thomas wrth iddo gefnogi penderfyniad Nigel Farage i ymddiswyddo fel AS er mwyn sbarduno isetholiad.
Mae Farage wedi gwneud hynny ar ôl i adroddiad honni iddo dderbyn cymorth gan droseddwr a gafwyd yn euog cyn etholiad cyffredinol 2024.
Dywedodd Dan Thomas nad oedd yn gwybod "manylion y rhoddion", ond ei fod yn deall pam y byddai rhywun yn derbyn rhodd i sicrhau diogelwch ei deulu.
Yn ôl adroddiad yn y Sunday Times, darparodd George Cottrell gymorth i Farage, gan gynnwys trefnu staff diogelwch a staff cyfryngau cymdeithasol.
Mae cyfreithwyr George Cottrell wedi dweud ei fod yn anghytuno â'r honiadau yn yr adroddiad, gan eu disgrifio fel rhai "ffug a chamarweiniol", tra bod Reform UK yn dweud nad oes unrhyw reolau wedi'u torri.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mae Farage yn "maldodi ei ego ei hun ac yn gwastraffu arian trethdalwyr yn y broses", ac mae ei benderfyniad i geisio isetholiad yn "ymgais olaf i gamddefnyddio'r system er mwyn osgoi craffu diduedd".

Mae Nigel Farage wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo er mwyn sbarduno isetholiad yn etholaeth Clacton
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Dan Thomas: "Rydw i wedi bod allan yn ymgyrchu gydag e - mae angen y diogelwch yna arno, dydy e ddim yn rhad.
"Os mai dyna'r unig ffordd i mi gael y diogelwch roedd ei angen arna i, byddwn i'n ei ystyried."
Dywedodd hefyd fod ei deulu wedi wynebu bygythiadau yn ystod ymgyrch etholiadol y Senedd, ac felly ei fod yn gallu deall pam y byddai rhywun yn derbyn rhodd i sicrhau eu diogelwch.
Nigel Farage yn gwrthod cynnal ymchwiliad ar ôl i Gill gael ei garcharu
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2025
Pan ofynnwyd iddo a oedd yr honiadau'n ymddangos yn gredadwy, atebodd: "Ydyn, ac rydw i'n cefnogi Nigel 100%."
Ychwanegodd ei fod yn credu bod Farage yn "gwneud y peth iawn" drwy geisio sicrhau barn etholwyr Clacton mewn isetholiad.
Dywedodd fod y cyhoedd wedi "blino ar yr ymosodiad parhaus hwn gyda Nigel.
"Maen nhw wedi mynd ar ei ôl gyda'r hyn a ddywedodd pan oedd yn 15 oed, nawr maen nhw'n mynd ar ei ôl am hyn."
'Ofer yw gofyn y cwestiynau hyn'
Mewn cyfweliad pellach ar raglen Radio Wales Breakfast, fe gyhuddodd Dan Thomas y BBC o "gyhoeddi penawdau camarweiniol" a gofyn "cwestiynau gotcha" ynghylch sefyllfa ddamcaniaethol.
"Mae sawl cafeat," dywedodd. "Pe byddwn i yn sefyllfa Nigel ac angen diogelwch ac mae ffrind wedi cynnig talu amdano [a] bod hanes 'da'r ffrind, fe allaf ddeall pam ei fod wedi cymryd yr arian yna.
"Yn ffodus, dydw i ddim yn yr un sefyllfa â Nigel. Dydw i ddim yn wynebu'r un lefel o fygythiad â Nigel a does gen i ddim ffrindiau a fyddai'n cynnig y math yna o arian, mewn gwirionedd, felly ofer yw gofyn y cwestiynau hyn i mi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.