Trafodaethau rhwng Caerdydd a pherchnogion y Gweilch wedi dymchwel

Mi fydd Caerdydd yn chwarae'r Gweilch gartref ym Mharc yr Arfau nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd gyda'r trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb.
Fe gadarnhaodd URC ym mis Ionawr 2026 eu bod yn cynnal trafodaethau â pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i drafod y posibilrwydd ohonyn nhw'n prynu Rygbi Caerdydd.
Erbyn hyn mae URC ac Y11 wedi "cytuno ar y cyd y byddai perchnogion y Gweilch yn tynnu yn ôl o'r broses" a hynny ar ôl "trafodaethau adeiladol", ac mi fydd Caerdydd yn parhau dan berchnogaeth URC.
Does dim manylion wedi cael eu rhannu ynglyn â pham ddaeth y trafodaethau i ben, gyda phrif weithredwr URC, Abi Tierney, ond yn cadarnhau y byddai Caerdydd yn parhau i fod dan berchnogaeth y corff llywodraethu am y tro.
"Y11 a gyflwynodd y cynnig gorau i brynu Caerdydd ond mae URC wedi dod i'r casgliad y byddai er budd gorau rygbi Cymru petai Caerdydd yn aros dan ein perchnogaeth am y tro," meddai Tierney.
"Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i Y11 am y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad i rygbi Cymru y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y broses hon."

Y ddealltwriaeth ydy mai'r Gweilch a'r Scarlets ydy'r ddau ranbarth o gêm y dynion sydd fwyaf pryderus o weld cynlluniau URC i dorri un o'r rhanbarthau proffesiynol.
Ond mae corff llywodraethu URC yn dweud bod modd i'r ddau ranbarth lofnodi eu Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) diweddaraf - gyda Rygbi Caerdydd a'r Dreigiau eisoes wedi ei lofnodi.
Fe ddaw hyn bron i flwyddyn ar ôl i URC dynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd.
Mae'r bwrdd llywodraethu'n dweud nad ydy eu bwriad hirdymor wedi newid a'u bod am dorri rhanbarth erbyn diwedd tymor 2027-28.
Dywedon nhw y byddan nhw'n amlinellu sut y byddan nhw'n gwneud hynny erbyn mis Mehefin 2026.
URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Yn gynharach yn y mis bu'n rhaid i URC gynnal cyfarfod cyffredinol arbennig ac mi fydd y cadeirydd, Richard Collier-Keywood, yn gadael y rôl ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.
Yn y cyfarfod fe ddywedodd Tierney ac URC eu bod am barhau â'r cynllun i leihau nifer y rhanbarthau i dri, gyda'r bwriad o gwblhau'r broses honno erbyn 2028.
"Does dim byd wedi newid," meddai. Mae angen newid i dri "am resymau ariannol a pherfformiad, ac er mwyn inni allu buddsoddi'n gywir yn ein llwybr i sicrhau dyfodol y gêm," meddai Tierney.
"Ond bydd y newid yma'n dod â sefydlogrwydd i'r system lle mae ei angen, a thawelwch a sicrwydd i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
"Byddwn yn parhau i fuddsoddi'r £28m a glustnodwyd ar gyfer ein llwybrau dros y pum mlynedd nesaf, mewn ffordd raddol, a chadw ein huchelgeisiau ar gyfer twf masnachol yn y gêm broffesiynol," ychwanegodd.
Mae llefarydd ar ran Cyngor Abertawe'n dweud eu bod yn "croesawu'r newyddion" na fydd URC yn parhau â'u trafodaethau i werthu Rygbi Caerdydd i Y11.
"Ond, mae bwriad parhaus URC i dorri nifer y timau dynion proffesiynol i dri erbyn diwedd tymor 2027/28 yn parhau i fod yn bryder.
"Dyw URC ddim wedi egluro eto pam eu bod wedi newid eu safbwynt ar y cytundeb gyda thîm Y11, na pham eu bod bellach yn credu mai parhau i gadw Rygbi Caerdydd dan berchnogaeth URC fydd orau i'r gêm.
"Mae rygbi Cymru yn haeddu esboniadau clir a manwl am y penderfyniadau hyn a chynlluniau Undeb Rygbi Cymru ar gyfer y dyfodol."
Y11 wedi penderfynu mai llofnodi'r PRA yw'r peth cywir
Ar hyn o bryd mae'r Gweilch a'r Scarlets mewn hen gytundeb sy'n dod i ben yn 2028 tra bod y Dreigiau a Rygbi Caerdydd wedi llofnodi cytundeb PRA25 sy'n para tan 2030.
Daw'r anghytuno o ran llofnodi'r PRA ar ôl i URC gymryd rheolaeth dros Rygbi Caerdydd ym mis Ebrill 2025 ar ôl i'r rhanbarth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Unwaith i URC gymryd rheolaeth dros dîm y brifddinas fe benderfynodd y Gweilch a'r Scarlets oedi cyn llofnodi'r cytundeb oherwydd pryderon ynghylch y goblygiadau.
Mynegodd y ddau bryderon na fyddai terfyn clir ar lefel y buddsoddiad y gallai URC ei roi i Gaerdydd, allai roi'r timau eraill o dan anfantais ariannol.
Roedd y Dreigiau'n rhannu'r pryderon hynny i ddechrau cyn newid eu meddwl a phenderfynu llofnodi'r cytundeb, ynghyd â Chaerdydd, ddechrau mis Mai.
Ond nawr bron i flwyddyn ar ôl i URC dynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd mae'r corff llywodraethol yn dweud y gallai'r Gweilch a'r Scarlets lofnodi Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) unwaith eto.
Erbyn hyn mae Y11 wedi penderfynu mai llofnodi'r PRA yw'r peth cywir ar gyfer dyfodol rhanbarth y Gweilch.
Ond dydy hi ddim yn glir os ydy hynny'n golygu eu bod yn ymrwymo'n hirdymor i berchen ar y Gweilch.
Os bydd y Gweilch a'r Scarlets yn ymrwymo i'r PRA diweddaraf, bydd y pedwar rhanbarth ar yr un telerau am y pedair blynedd nesaf, gyda disgwyl i fil cyflogau pob tîm godi o £4.5m i £6.5m yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn awgrymu y bydd y status quo yn parhau am y ddau dymor nesaf o leiaf, cyn eu bod yn parhau â'u bwriad o golli rhanbarth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.