Blaenoriaethu'r rhai sydd ar fin marw - golwg ar y drefn 999 newydd

Mae Kate yn gweithio yng nghanolfan alwadau'r gwasanaeth ambiwlans yn Llanelwy
- Cyhoeddwyd
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru wedi cyflwyno newidiadau mawr i'r ffordd y mae galwadau 999 yn cael eu categoreiddio.
O ganlyniad dim ond y categorïau mwyaf difrifol - 'porffor' - lle mae rhywun eisoes wedi stopio anadlu a 'choch' - lle mae yna risg sylweddol y gallai rhywun waethygu'n sydyn - sydd â thargedau amser ynghlwm â nhw.
O ran galwadau llai difrifol, y nod yw cynnig yr ymateb mwyaf addas i anghenion cleifion unigol - boed hynny'n ymweliad gan barafeddyg arbenigol, neu ymgynghoriad dros y ffôn.
Ond mae staff yn cydnabod, er mwyn blaenoriaethu argyfyngau, gallai rhai aros yn hirach cyn cael ymateb.
Bu'n gohebydd iechyd, Owain Clarke, yn treulio diwrnod yng nghwmni staff y gwasanaeth yn y gogledd, i ystyried sut mae'r model newydd yn gweithio a'r effaith ar gleifion.

Mae'r map ar sgrin Kate yn dangos criwiau a cherbydau'r gwasanaeth ambiwlans ar draws gogledd Cymru
"Y gwasanaeth ambiwlans - beth yw cyfeiriad llawn yr argyfwng?" - dyna'r peth cyntaf a glywch chi o alw 999 a gofyn am ambiwlans.
Kate, sy'n gweithio yn un o ganolfannau'r gwasanaeth yn Llanelwy, sy'n ateb yr alwad hon: "Lle'n union ydych chi?"
Y flaenoriaeth yw cadarnhau safle'r argyfwng a chychwyn y broses o glustnodi criwiau a cherbydau, wrth asesu difrifoldeb y sefyllfa.
Ond, mae yna broblem.
"Ydych chi'n dilyn map?... Ydy'r claf yn anadlu?"
Mae'r alwad hon yn ddifrifol gan fod merch yn ei harddegau, aelod o grŵp ar daith gerdded, yn cael ffit (seizure).
Ond dyw sgrin Kate, sydd â map o ogledd Cymru arno, ddim yn dangos lleoliad yr alwad, gan fod gwasanaethau lleoliad (location services) wedi cael eu diffodd ar y ffôn symudol sydd wedi galw 999.

Mae sgrin yn y ganolfan yn dangos yr amrywiol alwadau 999
Mae Kate eisoes wedi anfon cysylltiadau i apiau 'Google Maps' a 'What3words' i'r ffôn - ond heb lwc.
Felly mae'r gwaith ditectif yn parhau tra bod Kate yn rhoi cyfarwyddiadau.
"Dywedwch wrtha'i yn syth pan fo'r ffit yn dod i ben... beth am i ni wirio'r anadlu gyda'n gilydd? Dywedwch wrtha'i bob tro mae hi'n anadlu.
"O ran eich lleoliad ... ydych chi'n cofio pasio unrhyw adeilad, unrhyw bontydd?... Pa mor wledig y'ch chi? Fyddai ambiwlans yn gallu'ch cyrraedd?
O'r diwedd mae lleoliad yr alwad yn dod i'r amlwg ac ambiwlans yn cael ei anfon yn syth.
"Mae yna griw ambiwlans yn mynd i ymateb ac maen nhw'n mynd i fynd i'r pwynt agosaf allan nhw gyrraedd, sef fferm gyfagos.
"Newn ni drio cyrraedd mor agos a chyflym ag y gallwn ni," meddai Kate.
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n penodi prif weithredwr newydd
- Cyhoeddwyd4 Awst 2025
Creu categori galwadau 999 newydd ar gyfer strôc
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2025
Newidiadau arwyddocaol i dargedau ambiwlans Cymru
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2025
Gan fod rhywun yn ddifrifol wael mae'r alwad hon wedi ei chlustnodi'n 'goch' - sy'n golygu anfon ar unwaith.
Yr un yw'r ymateb i alwadau "porffor" - yr unig gategori uwchben coch - sef achosion lle bo rhywun wedi cael ataliad y galon neu ddim yn anadlu o gwbl.
"Mae galwadau coch yn achosion lle gall rhywun fynd yn ddifrifol wael yn sydyn," meddai Kate.
"Ond os oes rhywun yn dod mewn yn alwad biws yna mae'n drop everything iddyn nhw."
Dros y blynyddoedd mae yna bryder wedi bod nad yw'r gwasanaeth wedi ymateb yn ddigon cyflym i'r galwadau yma - yn enwedig ar achlysuron prysur.
Felly dros y flwyddyn ddiwethaf mae yna fodel newydd o ofal, yn cynnwys categorïau newydd o alwadau, wedi cael eu cyflwyno i geisio sicrhau bod adnoddau yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol.
Beth yw'r categoriau?
Porffor – ar gyfer pobl sy'n cael ataliad ar y galon neu ddim yn anadlu a sydd angen ambiwlans ar unwaith.
Coch – i bobl sydd mewn perygl uchel er enghraifft, rhywun sy'n tagu.
Oren – ar gyfer cyflyrau difrifol, sydd angen asesiad wyneb yn wyneb, profion a throsglwyddo i ysbyty neu ofal arbenigol – er enghraifft, rhywun sy'n cael strôc neu drawiad ar y galon.
Melyn – ar gyfer pobl sydd angen eu hasesu yn gyntaf, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, cyn i glinigwr benderfynu ar y camau nesaf. Er enghraifft, person â phoen yn yr abdomen, neu anaf nad yw'n ddifrifol.
Gwyrdd – ar gyfer galwadau llai brys, fel rhywun â haint ysgafn. Gellid trin pobl yn ddiogel gartref gyda'r gofal cywir.
Y nod yw cyrraedd galwadau porffor a choch mewn 6-8 munud ar gyfartaledd ac oren mor brydlon â bo modd - does dim targed amser bellach ynghlwm â mwyafrif y galwadau.
Mae Kate yn cydnabod fod rhai, o ganlyniad, yn aros yn hirach.
"Yn anffodus ma' nhw [weithiau] yn mynd i orfod disgwyl.
"Os oes gyda ni sefyllfa lle bo cymaint o alwadau yn dod mewn - yn anffodus fe fydd rhai yn disgwyl lot mwy na fasen ni'n licio."
Ond dyw'r ymdrech i flaenoriaethu argyfyngau ddim yn golygu fod galwadau eraill ddim yn cael sylw, gyda thimoedd clinigol yn y gwasanaeth yn arbenigo mewn cynnal asesiadau dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo.

Mae Rhydian Owen yn uwch-barafeddyg sydd â sgiliau ychwanegol
Mae'r gwasanaeth hefyd yn cyflogi uwch-barafeddygon sydd â sgiliau ychwanegol sy'n rhoi mwy o allu iddyn nhw asesu a thrin unigolion yn eu cartrefi lle bo hynny'n addas.
Un o'r rheiny yw'r uwch-barafeddyg Rhydian Owen - sydd ar shifft yn ardal Bae Colwyn.
"Rwy' newydd gael galwad i fynd i weld dynes mewn cartref gofal. Dyw hi ddim wedi bod yn dda am 2-3 diwrnod a maen nhw'n poeni amdani."
"Felly maen nhw wedi gofyn i fi fynd."
A'r ôl asesu'r ddynes a chynnal profion yn ogystal ag ymgynghori â meddyg teulu lleol dros y ffôn - yr amheuaeth yw bod gan y ddynes haint dŵr.
'Categoreiddio mwy o alwadau fel rhai melyn'
Ond yn hytrach na'i throsglwyddo i'r ysbyty, mae Rhydian yn rhoi moddion gwrthfiotig iddi.
"Ers i ni gyflwyno'r categorïau newydd ma' 'na fwyfwy o alwadau yn cael eu categoreiddio fel rhai melyn, fel ein bo ni'n gallu trio cadw'r galwadau mwyaf brys ar gyfer gyfer criwiau'r ambiwlans argyfwng.
"Fel uwch-ymarferydd dwi'n ceisio cyrraedd y categorïau llai difrifol hynny a gobeithio gallu trin y claf yn y gymuned."
Ond nid diogelu adnoddau ar gyfer achosion lle ma' bywyd yn y fantol ar unwaith yw'r unig nod.
'Tri prif ysbyty yn y gogledd wastad yn brysur'
Mae Rhydian yn dadlau bod yna fanteision eraill.
"Mae'r ystadegau yn dangos pan fo' claf sy'n fregus neu'n oedrannus yn mynd i'r ysbyty bod eu cyflwr yn gallu gwaethygu'n gyflym iawn.
"Mae eu cyhyrau nhw yn dirywio ma' nhw'n gallu dioddef delirium. Felly os 'da ni'n gallu eu trin nhw yn y cartref neu yn y gymuned ma' hynny'n fwy addas iddyn nhw."
Ond mae Rhydian yn cydnabod fod y model newydd wedi ei gyflwyno yn rhannol oherwydd bod y gwasanaeth wedi cael trafferth ateb galw cynyddol.
"Pan oeddwn ni'n dechrau yn 2010 fel parafeddyg, gan amla' roedd ambiwlans yn aros am alwad yn hytrach na bod galwadau yn aros am ambiwlans.
"Dros y ddegawd ddiwethaf mae'r boblogaeth wedi tyfu ac yn byw efo cyflyrau llawer mwy cymhleth.
"Mae'r tri prif ysbyty yn y gogledd wastad yn brysur a ma' hynny hefyd yn cael effaith ofnadwy arnon ni.
"Os ydy rhan helaeth o'r adnoddau sy' gyda ni yn cael eu clymu yn aros i drosglwyddo claf i'r ysbyty - yna pwy sy'n mynd i ymateb y galwadau 999 sy'n dod i mewn?"

Mae staff fel Kate yn y ganolfan alwadau ar adegau yn derbyn galwadau sarhaus neu amhriodol
Yn ôl yn y ganolfan alwadau yn Llanelwy, mae Kate hefyd yn cydnabod fod aros yn hirach am ambiwlans yn gallu bod yn rhwystredig i rai.
"Da' ni'n cael llawer iawn o abuse weithiau, gyda pobl yn dweud y byddwn ni ar fai os yw aelod o'r teulu'n marw - ac wedyn rhegi, mae'r awyr yn las weithiau.
"Mae'n drist bo hynny'n digwydd pan fo' ni'n trio helpu pobol.
"Ond does dim ots faint o groen caled sy' gyda ni - pobl ydyn ni ar ddiwedd y dydd - a dwi 'di gorfod ffonio am ambiwlans ar gyfer fy nheulu fy hun. Felly dwi'n deall."
Ond mae hi hefyd yn ymbil ar y cyhoedd i ystyried yn ofalus pryd i alw am ambiwlans - oherwydd bod galwadau amhriodol hefyd yn llyncu amser ac adnoddau.
Galwadau am gŵn yn sâl!
"'Da' ni wedi cael galwadau am gŵn sy'n sâl... ac wedi cael galwad am afr unwaith hefyd.
"Ond dyw pobol ddim yn gwybod beth arall i'w wneud."
Er gwaetha'r rhwystredigaethau, yr hyn sy'n amlwg yw bod y staff y treuliais i'r diwrnod yn eu cwmni ag ymrwymiad dwfn i geisio rhoi'r gofal a'r gefnogaeth orau - yn aml mewn amgylchiadau heriol.
Y flaenoriaeth iddyn nhw yw helpu'r cleifion sydd eu hangen fwyaf - a'u gobaith yw y bydd y drefn newydd yn gymorth iddyn nhw gyflawni hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.