'Arfogi' dros 50 o staff ysgol i wella defnydd o'r Gymraeg yn y brifddinas

Mae athrawon yng Nghaerdydd a'r Fro wedi bod yn dilyn cwrs i'w helpu i ddefnyddio'u Cymraeg a'i drosglwyddo i'w disgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gynnydd wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg yn rhai o ysgolion Caerdydd a'r Fro, ar ôl i weithwyr ymrwymo i gryfhau eu sgiliau gyda'r iaith.
Mae dros 50 aelod o staff mewn ffederasiwn o ysgolion yn nwyrain y ddinas wedi bod yn dilyn cwrs sydd wedi'i greu i helpu'r gweithlu addysg i ddefnyddio'u Cymraeg.
Mae'r ysgolion wedi manteisio ar gymryd rhan mewn hyfforddiant iaith sydd wedi ei deilwra i athrawon, drwy gydweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae hynny wedi digwydd ers bron i ddwy flynedd bellach, fel rhan o raglen genedlaethol sy'n cael ei chefnogi gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu'r gweithlu addysg i ddatblygu sgiliau Cymraeg.

Dywedodd Danielle Gardiner ei bod hi'n teimlo'n fwy hyderus yn dysgu Cymraeg i'r plant yn ei dosbarth
Ymhlith yr ysgolion sydd wedi cyflwyno mwy o Gymraeg ar lawr y dosbarth mae Ysgol Gatholig Sant Joseff ym Mhenarth.
Digwyddodd hynny ar ôl i arolygiad yn 2025 gan y corff arolygu addysg a hyfforddiant, Estyn, nodi bod angen cryfhau sgiliau Cymraeg disgyblion.
Mae Danielle Gardiner, sy'n athrawes yn yr ysgol, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi 2025.
"Dwi'n teimlo'n fwy hyderus yn y dosbarth yn dysgu Cymraeg i'r plant.
"Mae fy nheulu'n siarad Cymraeg a dwi'n dechrau siarad Cymraeg gartref.
"Dwi'n meddwl bod dysgu Cymraeg yn bwysig achos mae angen i ni gadw'r iaith yn fyw.
"Dwi'n meddwl bod yn rhoi mwy o gyfleoedd.
"Mae'n ein helpu i siarad â mwy o bobl yng Nghymru."
'Mwy hyderus i ddefnyddio'r iaith'
Dywedodd Meinir Ebbsworth - Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, eu bod wedi ystyried beth fyddai o gymorth fwyaf i ysgolion er mwyn gallu gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg.
"Un o'r pethau hynny yn sicr yw ymrwymiad i ddysgu a datblygu'r Gymraeg ymysg y gweithlu addysg - athrawon, cynorthwy-wyr, unrhyw un sy'n gweithio mewn ysgol mewn gwirionedd.
"A phwrpas hwnnw yw bod ni ddim yn dysgu'r oedolion yn unig, ond bod ni'n dysgu'r oedolion er mwyn bod nhw'n eu tro yn gallu dylanwadu gyda'u sgiliau newydd a'u brwdfrydedd ar blant yn y dosbarth."

Yn ôl Meinir Ebbsworth mae athrawon yn cael eu harfogi ar sut i drosglwyddo'r iaith yn y dosbarth i blant a phobl ifanc
Ychwanegodd Meinir Ebbsworth fod yna diwtoriaid dysgu Cymraeg i'r gweithlu addysg ymhob cwr o Gymru.
"Mae ysgolion yn gweld budd y Gymraeg, yn gweld budd y Gymraeg i'w staff, ond yn bwysicach na hynny hyd yn oed yn gweld budd y Gymraeg i'r plant a'r bobl ifanc yn eu hysgolion nhw.
"Mae'r galw wedi bod yn hyfryd, yn arbennig o gadarnhaol, a'r ymateb gan y staff yn gadarnhaol hefyd, oherwydd maen nhw'n datgan dau beth - fod nhw yn caffael y Gymraeg eu hunain fel oedolion, ond bod nhw'n cael eu harfogi ar sut i drosglwyddo'r iaith yn y dosbarth i blant a phobl ifanc.
"A'r hyn sy'n digwydd wedyn wrth gwrs yw bod y plant yn mynd adre' yn defnyddio'u Cymraeg yn y cartre', a'r rhieni a'r gofalwyr yn gweld yn eu tro budd y Gymraeg, ac yn gweld e fel mantais i'w plant nhw'n bendant iawn."
Mae'r athrawon wedi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn fwy hyderus i ddefnyddio'r iaith.
Ond y nod yn y pen draw ydy gwneud y disgyblion yn fwy hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg wrth chwarae a gweithio.
Dywedodd rhai o ddisgyblion Ysgol Gatholig Sant Joseff ym Mhenarth eu bod yn "hoffi dysgu Cymraeg", a bod clywed yr iaith yn amlach yn ei gwneud hi'n haws i'w dysgu, a'u bod bellach yn "fwy hyderus" yn ei siarad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd13 Mai 2025

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
