Disgwyl mwg am ddyddiau wedi tanau gwyllt, gyda rhybudd i bobl fregus

Tan Conwy
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i fwg barhau am ddyddiau yn y gogledd yn dilyn tân mawr yn Sir Conwy gyda rhybudd am effeithiau mwg ar bobl sy'n agored i niwed.

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei ddatgan brynhawn Sul yn dilyn tân gwyllt ar Fynydd y Dref a Bwlch Sychnant a bu rhaid i nifer adael eu cartrefi.

Bellach mae'r tân dan reolaeth ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i reoli'r sefyllfa ac yn annog pobl i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.

Gall mwg o dân gwyllt beri risg i bobl sydd ag asthma, clefyd y galon a chyflyrau hirdymor eraill.

Dywedodd RCP Cymru bod "ansawdd gwael yr aer" yn dilyn y tân wedi "cynyddu risgiau iechyd pobl sy'n agored i niwed ac wedi creu amodau heriol i staff gofal iechyd a chleifion".

Llinos Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Evans yn annog pobl leol i "gau ffenestri a drysau os mae'r mwg yn effeithio arnynt"

Mae criwiau'r gwasanaeth tân wedi bod yn yr ardal dros nos a bore Mawrth "i fonitro ac asesu'r sefyllfa" meddai Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol Gwasanaeth Tân y Gogledd, Llinos Evans.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast pwysleisiodd eu bod yn disgwyl mwg yn ardal am rai dyddiau ac y dylai pobl ond "cysylltu os maen nhw'n gweld fflamau gweladwy neu mae'r mwg yn ormodol".

Ychwanegodd y dylai pobl "gau ffenestri a drysau os mae'r mwg yn effeithio arnynt".

Mae dal criwiau'n bresennol yn ardal Braichmelyn ym Methesda ac ar fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech gan fod tanau gwyllt yn yr ardaloedd hynny meddai.

Erbyn hyn mae'r gwasanaeth tân wedi gallu anfon mwy o adnoddau i'r ardaloedd hynny wrth i'r tân ar Fynydd y Dref dawelu.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 3, Tan Conwy, Roedd yr ardal ben bore "yn wirioneddol fyglyd," meddai un person lleol

Mae RCP Cymru yn annog pobl yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio i ddilyn cyngor gan gynnwys cyfyngu cysylltiad â'r mwg lle bo'n bosibl.

Ychwanegon nhw fod adroddiadau fod rhai swyddfeydd mewn ysbytai wedi cyrraedd tymheredd o 30 gradd a bod yn rhaid i'r staff wneud penderfyniad rhwng agor y ffenestri a gadael y mwg i mewn neu ddioddef y gwres.

Mae Dr Ben Thomas o RCP Cymru yn rhybuddio y gall "mwg o danau gwyllt waethygu cyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd presennol, tra bod cyfnodau hir o dymheredd uchel yn cynyddu'r risg o ddadhydradiad ac anaf acíwt i'r arennau, yn enwedig ymhlith pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

"Dwi'n pryderu am yr effaith y gall yr amodau hyn ei chael ar gleifion agored i niwed ac am y pwysau ychwanegol mae'n ei roi ar wasanaethau iechyd sydd eisoes dan straen mawr.

"Pan fydd ysbytai yn mynd yn rhy boeth, mae'r canlyniadau'n cael eu teimlo gan gleifion a staff."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.