Staff yn wynebu anghwrteisi wrth i bris pysgod a sglodion godi

Mae Rhys McLoughlin yn dweud mai darnau o gyw iâr sy'n gwerthu orau bellach, yn hytrach na phenfras
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion siopau pysgod a sglodion yn dweud bod eu staff yn wynebu cwestiynau "swta" ac anghwrteisi gan gwsmeriaid wrth i brisiau godi.
Yn ôl Rhys McLoughlin, cyd-berchennog Môr Ffres yn Ninas, Sir Benfro, dyw pobl ddim yn deall fod y prisiau "yn codi, a chodi a chodi".
"Yn anffodus, mae'n rhaid i ni fynd gyda'r amserau. Os mae cod yn codi 12% pan mae'n dod mewn ata' i, mae'n rhaid i fi basio y 12% yna ymlaen neu does dim pwynt cael busnes," meddai.
Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar gyfartaledd, mae pris pysgod a sglodion tecawê wedi codi i £11.17 eleni - bron i 90c yn uwch na phris cyfartalog y llynedd sef cynnydd o 9%.
Dywedodd Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffriwyr Pysgod (NFFF) fod y prisiau cynyddol wedi "effeithio ar amlder ymweliadau a nifer y bobl sy'n ymweld â'r rhan fwyaf o siopau sglodion".
Staff yn wynebu anghwrteisi wrth i bris pysgod a sglodion godi
Mae Rhys McLoughlin yn rhagdybio y gallai'r sefyllfa waethygu.
"O'n i'n siarad gyda'r dyn ni'n prynu'r cod wrtho ac roedd e'n gweld mewn cwpwl o fisoedd gallai'r cod ddyblu mewn pris eto. Mae hwnna yn warthus…
"Os cadwith cod i godi, bydd dim opsiwn gyda chip shops ond dweud naill ai 'dan ni ddim mynd i werthu pysgod' neu 'dan ni'n mynd i edrych ar items arall," meddai.
"Edrychwch chi ar electric, gas, cod wedi codi, fuel. Dy'n ni ddim wedi gweld pinch y tato eto," meddai, gan gyfeirio at "pris diesel y ffermwyr".
"Ar ddiwedd y dydd, cod a chips dyle pobl fod yn prynu [gan mai dyna yw'r siop] ond gyda prisiau'n codi, os bydde teulu yn dod mewn 'ma nawr yn moyn chwech cod a chips, mae e'n lot o arian."

Mae Rhys yn dweud ei fod wedi archebu ciosg digidol lle gall cwsmeriaid osod eu harchebion eu hunain - yn rhannol oherwydd bod yr adeilad yn fach ac yn prysuro dros yr haf, ond hefyd oherwydd y cwestiynau "swta" mae staff yn gorfod delio â nhw ynghylch y prisiau.
Maen dweud nad yw cwsmeriaid yn deall pam bod y prisiau wedi gorfod codi.
"Dwi'n rili moyn cael y point yn groes, mae pethau yn codi a codi a codi.
"Maen nhw'n gweld pris diesel ar y pwmp, s'dim rili dim byd maen nhw'n gallu 'neud ambyti fe, chi'n gorfod dreifo car i gwaith neu i fynd â'r plant i'r ysgol.
"Does dim rhaid i chi brynu fish and chips ar nos Wener."
Mae Anwen Davies, cyd-berchennog Llond Plat yn Aberaeron yn dweud fod cynnig y pryd traddodiadol/clasurol glan-môr am bris fforddiadwy yn profi'n her.
"Rhwng Hydref llynedd a mis Ionawr aeth [cod] lan 25%. Mae e wedi mynd lan eto, tua'r un faint, ers hynny hefyd. Felly tua 50% ers tua October llynedd…
"Ni dim ond wedi codi fe 12.5% [i'n cwsmeriaid] yn mis Ionawr.
"Fi'n credu byddwn ni'n edrych ar wneud yr un peth 'to nawr yn anffodus, ond byddwn ni dal ddim ond yn codi fe hanner beth mae e wedi costi ni i brynu fe mewn," meddai.

Mae Anwen Davies yn dweud fod pris penfras wedi codi 50% ers mis Hydref
Fel eraill, mae eu staff nhw hefyd wedi wynebu anghwrteisi gan gwsmeriaid ynghylch y prisiau.
Mae ganddyn nhw boster wrth y man talu bellach sy'n esbonio'r rheswm dros y prisiau cynyddol ac sy'n atgoffa pobl i fod yn garedig.
"Dim problem staff ni yw e. Yn anffodus, fel perchnogion, dim problem ni yw e a dyw e ddim yn deg bod staff ni yn gorfod delio gyda 'na."
Mae cynnig math gwahanol o bysgodyn sy'n rhatach na phenfras yn rywbeth mae'r cwmni "yn meddwl yn galed amdano" ar hyn o bryd, er bod ganddyn nhw bryderon am wastraff.

'Byddwch yn garedig i'n staff' yw'r neges yn Llond Plat, Aberaeron
Ond a fyddai pobl yn barod i brynu math gwahanol o bysgod?
"Dw'i ddim wedi arfer â nhw" meddai Mary Davies, 82 o Horeb. "Ges i'n godi lan gyda cod, macrel a hake.
"Maen well 'da fi dalu am y cod fel ni'n cael nawr," meddai Eleri Evans, sy'n ei 80au o Glynarthen.
"Fi 'di talu dros £8 am hwn heddi nawr ond bydd dim eisiau lot o ginio ar ôl cyrraedd gartre' heno nawr."

Roedd y mwyafrif yn Aberaeron yn ddigon parod i dalu'r pris am y penfras
Mae siopau pysgod a sglodion mewn pentrefi gwledig hefyd yn ei gweld hi'n anodd cyfiawnhau eu prisiau.
"Amser gymeron ni drosto tair blynedd yn ôl ro'dd bocs o benfras tua £165," meddai Aled Roberts, perchennog Sglods Llan-non yng Ngheredigion.
"Pan gethon ni stock diweddaraf ni nawr wythnos diwetha' o'dd e jyst dros £300, so mae e wedi mwy neu lai dyblu mewn tair blynedd."
Fel nifer, mae e hefyd wedi gorfod codi pris penfras a sglodion yn y siop o tua £1-£1.50 yn ychwanegol.
"Ni wedi trial cadw y prisiau mor competitive a gallwn ni ond mae e wedi dod i'r pwynt nawr, dechrau'r flwyddyn, o'dd prisiau wedi mynd lan gymaint fel bod yn rhaid i ni wedyn godi fe achos bydden ni'n rhedeg ar golled mowr os bydden ni'n cadw'r prisiau fel oedden nhw," meddai.
Dywedodd eu bod nhw hefyd wedi edrych ar bysgod gwahanol ond fod "pawb yn gwybod gyda phenfras beth maen nhw'n cael".
"Chi ddim eisiau i'r safon gwympo, chi eisiau trial bod lawr y canol le mae'r blas a'i bris e'n adio lan yn iawn," meddai.

Mae pris bocs o benfras wedi dyblu mewn tair blynedd yn ôl Aled Roberts
Yn ôl Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffriwyr Pysgod (NFFF) y prif reswm pam fod penfras wedi codi mewn pris yw'r "gostyngiad yng nghwotâu penfras ym Môr Barents o 1 miliwn tunnell yn 2019 i 285,000 tunnell eleni, gostyngiad o 16% o'i gymharu â 2025".
Maen nhw'n dweud bod "sancsiynau ar bysgod Rwsiaidd hefyd yn rhannol gyfrifol am y pris uwch".
Dywed Llywydd yr NFFF, Andrew Crook: "Mae'r rhan fwyaf yn deall bod pysgodyn yn brotein premiwm ac felly ni ddylai fod yn rhad ac maen nhw'n hapus i dalu am ansawdd, ond mae e wedi effeithio ar amlder ymweliadau a nifer y bobl sy'n ymweld â'r rhan fwyaf o siopau yn gyffredinol."
Awgrymodd y dylai siopau pysgod a sglodion "gadw llygad ar maint eu prydau ac archwilio rhywogaethau amgen".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.