Gallai Eglwys Gadeiriol Tyddewi fynd yn fethdalwr o fewn dwy flynedd - adroddiad

Eglwys Gadeiriol TyddewiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dyddio'n ôl i'r 6ed ganrif

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Fe allai Eglwys Gadeiriol Tyddewi fynd yn fethdalwr o fewn dwy flynedd yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Yr Esgob Dorrien Davies, yn gwneud cyfres o argymhellion i wella arweinyddiaeth, llywodraethu, rheolaeth ariannol a diogelu yn y Gadeirlan.

Gyda thros bymtheg mlynedd ers yr adroddiad ymweld diwethaf, dywedodd yr Esgob fod angen gweithredu "ar frys" i fynd i'r afael â'r diffygion, gan na all y Gadeirlan barhau yn ei chyflwr presennol.

Mae'n dweud fod camau gweithredu i fynd i'r afael â'r "heriau sylweddol" eisoes wedi dechrau.

Sefyllfa ariannol ydi'r 'her fwyaf critigol'

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dyddio 'nôl i'r chweched ganrif.

Wedi'i lleoli yn ninas leiaf Prydain, mae'n denu tua 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ond er gwaethaf ei hanes cyfoethog, mae adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi ers ymweliad y llynedd, yn tynnu sylw at bryderon gwirioneddol ynghylch ei dyfodol.

Yn ôl yr adroddiad ymweld, sefyllfa ariannol y Gadeirlan oedd "yr her fwyaf critigol" a gafodd ei amlygu yn ystod yr ymweliad.

Mae'n dweud bod angen cynllunio a rheolaeth ariannol "gadarn" a "disgybledig" neu fel arall mae gallu'r Eglwys Gadeiriol i gynnal ei rôl "mewn perygl".

Mae'n mynd ymlaen i ddisgrifio'r sefyllfa ariannol bresennol fel un "anghynaladwy", lle mae "diffygion digyfyngiad wedi parhau ers saith mlynedd" sy'n golygu bod y cronfeydd wrth gefn yn "beryglus o isel", gan adael y Gadeirlan yn agored i unrhyw gostau annisgwyl.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai'r holl heriau hyn, yn ogystal â cholli cefnogaeth esgobaethol, arwain at y Gadeirlan i fynd yn fethdalwr o fewn dwy flynedd.

Mae'r ymweliad hefyd wedi tynnu sylw at sawl maes lle mae angen cryfhau arfer a diwylliant ar frys o ran diogelu.

Nenfwd Eglwys Gadeiriol TyddewiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud bod nifer yr ymwelwyr yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig a bod rhoddion fesul person yn gymharol isel

Cafodd y berthynas â'r gymuned leol ei disgrifio fel un "pell a chyfyngedig", tra bod y Gymraeg yn y Gadeirlan wedi'i disgrifio fel un "finimalaidd".

Roedd yr adroddiad yn nodi hefyd fod prinder gwirfoddolwyr yn her sy'n rhoi "straen cynyddol ar weithrediadau dyddiol", gyda staff yn aml yn cyflawni sawl rôl.

Yn ôl yr adroddiad ymweld, mae sawl ffactor wedi arwain at yr "heriau sylweddol" y mae'r Eglwys Gadeiriol yn eu hwynebu.

Mae'n dweud bod nifer yr ymwelwyr yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig a bod rhoddion fesul person yn gymharol isel.

Dywedodd hefyd nad yw'r cabidwl, y corff sy'n rhedeg y Gadeirlan o ddydd i ddydd, ar frys i ymateb i'r pwysau ariannol parhaus, ac mae ganddynt duedd i "ohirio penderfyniadau anodd".

Malcolm Gray
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Malcolm Gray yn credu bod angen i'r eglwys fynd i'r afael â'r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad

Dywedodd y Cynghorydd Malcolm Gray o Gyngor Dinas Tyddewi fod y gymuned yn "bryderus iawn" am ddyfodol y Gadeirlan.

"Maen nhw'n dweud mai Tyddewi yw gem goron Sir Benfro, yn sicr yr eglwys gadeiriol yw gemwaith yng nghoron Tyddewi" a byddai dychmygu'r lle heb y Gadeirlan yn "gwbl anghredadwy," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn credu mai cyfrifoldeb yr eglwys yw mynd i'r afael â'r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad.

"Byddwn ni'n helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn, ond ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid i'r eglwys ddatrys hyn ei hun."

"Allwn ni ddim helpu'n ariannol gan fy mod i'n gwybod bod cyngor y ddinas ei hun yn cael trafferth gyda chyllid, ond iddo gau - mae'n rhywbeth na allaf ei ddychmygu mewn gwirionedd, ac na allaf feddwl amdano."

Dorrien DaviesFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r "gweithredu eisoes wedi dechrau" sy'n dangos "ymateb cadarnhaol ac adeiladol" i'r adroddiad, maeddai'r Gwir Parchedig Dorrien Davies

Dywedodd Llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru mai "bwriad yr Ymweliad yw i gryfhau'r alwad hon, i ailddatgan ei phwysigrwydd, a sicrhau bod y strwythurau sy'n cefnogi bywyd yr Eglwys Gadeiriol yn ddigon cryf i gynnal y dystiolaeth honno ar gyfer cenedlaethau i ddod.

"Er y gall agweddau o'r Adroddiad hwn ysgogi adfyfyrdod neu her, mae'n hanfodol bod yr Ymweliad yn cael ei ddarllen yn yr ysbryd a'i hysgogodd. Mae'r broses o ymateb yn gadarnhaol eisoes wedi dechrau."

Ychwanegodd y datganiad fod "cynllunio gofalus, gobeithiol a dychmygus ar gyfer y dyfodol nid yn unig yn bosibl ond eisoes ar y gweill.

"Camgymeriad fyddai methu dirnad y ffaith bod datblygiadau cadarnhaol eisoes wedi deillio o'r Ymweliad hwn a bod yr adroddiad yn gwerthfawrogi'r hyn sydd yn digwydd yn barod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig