Diflaniad ffigwr gwlân o Dic Jones yn dod â 'thristwch' i bentref

Y ffigwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cymeriad Dic Jones ei greu fel rhan o ymgais i harddu'r ardal ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las

GanElen Davies
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cymeriad gwlân o'r bardd lleol a'r cyn-archdderwydd, Dic Jones wedi diflannu o bentref Crymych.

Cafodd Dic Jones, ymhlith cymeriadau arall, eu creu gan drigolion lleol yn Sir Benfro fel rhan o ymgais i harddu'r ardal ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

Yn ôl Ceri Davies, a ddaeth lan â'r syniad i greu cymeriadau gwlanog yn y pentref, mae diflaniad Dic yn "fater o ddifri'" ac wedi dod â thristwch mawr i drigolion lleol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael cais am sylw.

Y ffigyrau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o gymeriadau gwlanog eu creu yn y pentref

Yn 69 mlwydd oed, roedd Ceri Davies o Grymych yn dyheu am greu 'yarn bomb', sef math o gelf stryd ble mae pobl yn gorchuddio gwrthrychau cyhoeddus â gwlân lliwgar wedi'i wau.

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i ardal gyfagos, penderfynodd roi hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Mawrth i weld a oedd diddordeb gan bobl i fynd ati i greu cymeriadau gwlân yng Nghrymych i ddathlu'r achlysur.

"O fewn diwrnod a hanner roedd dros 100 o bobl yn y grŵp," meddai.

"Wên i'n gwybod wedyn bod brwdfrydedd yma i wneud yarn bomb.

"Erbyn bo' ni wedi beni'r yarn bomb, roedd 58 o bobl wedi cyfrannu, a dyw hwnna ddim yn cynnwys yr holl bobl wnaeth drionglau i'r bunting."

Cymeriad a ddenodd 'gymaint o bobl'

Ynghyd â Gorsedd y Beirdd gwlanog, roedd sêr lleol megis Joe Allen ac Angharad James hefyd ymhlith y cymeriadau a gafodd eu creu, heb sôn am un oedd â chysylltiad cryf gyda'r ardal, sef Dic Jones neu Dic yr Hendre, a gafodd ei urddo yn Archdderwydd yn 2008.

"Ar y dechrau roedd pawb yn gweithio'n unigol," meddai Ceri, wrth ddisgrifio'r broses o'u creu.

"Byti mis Ebrill wedyn dechreuon ni gwrdd ar nos Fawrth a phrynhawn dydd Iau ac wedyn erbyn mis Gorffennaf - ro'n ni'n cwrdd tair, pedair gwaith yr wythnos.

"Yr wythnos cyn iddo fe fynd lan, o'n ni'n cwrdd bob diwrnod," meddai.

Er y gwaith tîm, dynes o'r enw Tracy Warren wnaeth wau cymeriad yr Archdderwydd, Dic Jones - cymeriad a ddenodd "gymaint o bobl dros yr wythnosau diwethaf i Grymych".

Fodd bynnag, ddiwrnodau yn unig ar ôl i'r Eisteddfod orffen ar 11 Awst, fe ddaeth i'r amlwg fod y Dic Jones gwlanog wedi diflannu.

Aeth ymlaen i ddweud fod deunydd camera o lori, oedd yn teithio drwy'r pentref am 01:39, yn dangos bod Dic Jones ar goll bryd hynny, tra bod perchennog siop yn y pentref "bron yn siŵr" iddo weld yr Archdderwydd gwlanog am 22:00 y noson gynt.

"Wêdd e [Dic Jones] wedi mynd rhwng 22:00 o'r gloch y nos ac 01:40 y bore," meddai.

"O'n i'n furious, wên i mor grac, o'n i'n enbyd o grac. Wên i'n drist hefyd bod rhywun wedi bod mor ddi-gwrtais â mynd ag e'."

'Cymryd pythefnos i ni wneud un'

"Rhoies i post lan ar Facebook ac mae hwnna wedi mynd yn viral. Mae pobl wedi rhannu, a rhannu, a rhannu fe.

"Mae pobl mor grac bod e' wedi digwydd - bod rhywun wedi bod mor haerllug a difeddwl really a mynd ag e'," meddai Ceri.

Aeth ymlaen i esbonio nad oes "gwerth ariannol" i'r Dic Jones gwlanog, ond bod "oriau ac oriau o waith" wedi mynd i'w greu ynghyd â'r ffaith bod y Dic Jones gwlanog yn rhan o'u "yarn bomb" nhw.

"Dyw e' ddim yn rhywbeth allwn ni ddweud: 'O fe 'newn ni un arall'," meddai, "bydde fe'n cymryd o leiaf pythefnos i ni wneud un".

Yn ôl Ceri, mae hi a thrigolion Crymych nawr yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sy'n gwybod lle mae'r Dic Jones gwlanog i gysylltu, gan ddweud eu bod nhw eisoes wedi cysylltu â'r heddlu ynglŷn â'r mater.

"Mae rhywun wedi dwgyd e', ac mae hwnna yn fater o ddifri," meddai.

Y ffigwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cymryd o leiaf pythefnos i greu ffigwr gwlân fel hyn, yn ôl Ceri

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael cais i ymateb.

"Os daw Dic n'ôl, p'unai ddaw e' n'ôl i'r bolard ar ben ei hunan bach, neu p'unai ffeindith e' ei ffordd mewn i un o'r busnesau yng Nghrymych, neu dros wal y tŷ fan hyn, neu unrhyw le - 'na fe - dim problem, no questions asked.

"Bydden ni just yn hapus i gael Dic nôl, beth bynnag yw'r stori tu ôl iddo fe.

"P'unai bod rhywun wedi mynd â fe fel bach o sbort, bach o hwyl a sbri - 'na 'ny - popeth yn iawn, ond just plis dewch ag e' n'ôl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.