Aberdaugleddau: Cyllell yn yr ysgol 'er mwyn ei dangos i ffrindiau'

Ysgol Gyfun AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 16 mlwydd oed sydd wedi ei gyhuddo o drywanu athrawes gyda chyllell cegin mewn ysgol yn Sir Benfro wedi dweud wrth reithgor ei fod wedi mynd â chyllell i'r ysgol er mwyn "dangos ei hun" i'w ffrindiau.

Fe roddodd y bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, dystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun yn ystod ail wythnos yr achos.

Yn ystod yr wythnos flaenorol, dywedodd Vicki Williams, athrawes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, fod y bachgen wedi ei dilyn i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn "hyrddio" ati gyda chyllell gegin fawr.

Mae'r bachgen, oedd yn 15 ar y pryd, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Map Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror, yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".

Yn ystod diwrnod cyntaf yr amddiffyn yn llys y Goron Abertawe, fe glywodd y rheithgor fod y bachgen yn hoffi ei athrawes ac wedi dewis Hanes fel pwnc TGAU.

Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw deimladau drwg tuag at ei athrawes hanes, Vicki Williams, ac nad oedd unrhyw ddadlau nac anghytuno wedi bod rhwng y ddau.

"Sut roeddech chi'n ei gweld?" gofynnodd ei fargyfreithiwr, Matthew Roberts KC.

"Da. Roedd hi'n neis i mi," atebodd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".

Eisoes, fe glywodd y llys fod y "gyllell cegin" wedi dod o floc cyllyll yng nghartref y bachgen.

Cafodd ei disgrifio fel "y mwyaf o'r cyllyll" gyda llafn y gyllell "o'r pig i'r ddolen" yn mesur wyth modfedd.

Wrth ofyn i'r bachgen pam ei fod wedi mynd â chyllell i'r ysgol, dywedodd y bachgen wrth y rheithgor ei fod ef a'i ffrindiau yn arfer "dod a phethau ar hap" i'r ysgol i weld beth fydden nhw'n gallu dod i'r ysgol heb i neb sylwi.

Dywedodd ei fod wedi mynd â'r gyllell fwyaf oherwydd y gyllell hon oedd y "mwyaf trawiadol" i ddangos i'w ffrindiau, ac nad oedd unrhyw fwriad ganddo i'w defnyddio mewn modd dreisgar.

Aeth ymlaen i ddweud nad oedd wedi dangos y gyllell i'w ffrindiau ar y 5 Chwefror gan nad oedd ei ffrindiau i gyd yn yr ysgol y diwrnod hwnnw.

Dywedodd ei fod eisiau dangos "i'r grŵp cyfan" yr un pryd.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.