Helen Jenner yw arweinydd newydd Reform yng Nghymru

Roedd arweinydd Prydeinig Reform, Nigel Farage yng Nghaerdydd ar gyfer y cyhoeddiad
- Cyhoeddwyd
Helen Jenner yw arweinydd newydd Reform yng Nghymru.
Ymddiswyddodd Dan Thomas fel arweinydd ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.
Yn ddiweddarch cafodd ei ryddhau heb gyhuddiad ac mae e'n dweud nad yw wedi gwneud dim o'i le.
Jenner, AS dros Fangor Conwy Môn, oedd yr arweinydd dros dro gan mai hi oedd dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru.
Fe gafodd y cyhoeddiad ei lywio gan arweinydd Reform UK, Nigel Farage ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Jenner ei bod yn "anrhydedd llwyr" i gael ei phenodi, gan wneud addewid y byddai Reform yng Nghymru yn "parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau er mwyn gweithio tuag at lywodraethu yn 2030".

Cafodd Helen Jenner ei dewis yn dilyn pleidlais o aelodau Reform
Mae dyrchafiad Jenner yn golygu bod pob arweinydd grŵp yn y Senedd yn dod o ogledd Cymru am y tro cyntaf yn hanes datganoli.
Fe gafodd y BBC gadarnhad ymlaen llaw nad oedd rhai o aelodau blaenllaw y blaid yn bwriadu sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth - gan gynnwys Llŷr Powell, Cai Parry-Jones, Jason O'Connell a James Evans.
'Rhywun y galla'i ymddiried ynddi'
Mae cadarnhau'r arweinydd newydd yn dod ar ôl wythnos gythryblus i'r blaid, a welodd yr AS Sarah Cooper-Lesadd yn gadael i ymuno â Phlaid Cymru.
Dywedodd Farage wrth ohebwyr ei bod "yn ymgyrchydd penderfynol - rhywun yn galla'i ymddiried ynddi".
Fe fydd y blaid, meddai, yn dilyn wythnos anodd, "yn cario ymlaen fel pe tae dim byd wedi digwydd, gan aros am Dan, a fydd yn aros fel aelod o'r lle hwn, i ddychwelyd atom yn fwy gweithredol".
Pwy yw Helen Jenner?
Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd a'i magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ym Malltraeth, Ynys Môn.
Dysgodd Gymraeg yn ysgolion cynradd Bodorgan a Llanfairpwll.
Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.

Pan oedd hi'n ifanc, roedd yn gantores mewn band o'r enw MEFS – talfyriad o Mephistophelean Engines of Pleasure.
Bu'n gweithio yn y Brit School, sy'n arbenigo mewn celfyddydau a pherfformio, yn Croydon.
Yn Llundain y gwnaeth hi gyfarfod ei gŵr, Emmett Jenner, a fu'n ymgeisydd Reform yn Ynys Môn yn etholiad cyffredinol 2024.
Mae'r ddau wedi magu eu plant ar Ynys Môn.
Treuliodd hi flynyddoedd fel athrawes Saesneg yn Ysgol David Hughes yn Llanfairpwll.
Safodd dros y Brexit Party yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019, ac roedd yn aelod o UKIP yn flaenorol, pan oedd y blaid yn cael ei harwain gan Nigel Farage, arweinydd presennol Reform UK.
Yn ôl cofrestr buddiannau'r Senedd mae'n treulio hyd at 5 awr yr wythnos yn diwtor Saesneg i fyfyrwyr tramor ar-lein. Dywedodd bod y "rôl yn fy helpu i gadw fy ngwybodaeth am y proffesiwn addysgu a phrofiadau pobl ifanc yn gyfredol".
Fis diwethaf dywedodd Jenner ei bod wedi wynebu beirniadaeth am fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol oherwydd ei bod yn aelod o Reform.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

