Ffotograffau Geoff Charles yn ysbrydoli dogfennu pobl Pen Llŷn heddiw

Dynes mewn ystafell ddosbarthFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Un o ffotograffau Anna Higson o bobl Pen Llŷn heddiw

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae artist o Ben Llŷn wedi cael ei hysbrydoli gan y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles i ddogfennu'r bobl sy'n bwysig yn ei chymuned.

Er ei bod wedi gweld ambell lun ganddo dros y blynyddoedd, doedd Anna Higson ddim yn gwybod llawer am waith ffotograffydd Y Cymro tan iddi gael comisiwn i wneud prosiect oedd yn ymateb i'w waith.

Treuliodd dridiau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn pori drwy rhai o'u 120,000 o ddelweddau Geoff Charles - oedd yn gweithio i'r Cymro yn oes aur y papur newydd Cymraeg - gan ganolbwyntio ar y rhai dynnodd o bobl Pen Llŷn ac ardaloedd eraill o Gymru.

Llun du a gwyn o ddynes yn eistedd tu allan, ger blwch postFfynhonnell y llun, Casgliad Geoff Charles, Y Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r degau o filoedd o ddelweddau Geoff Charles sydd yn nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol

"Roedd o i gyd yn newydd i fi - do'n i erioed wedi clywed am Y Cymro," meddai Anna.

"Roedd o'n rili neis i fynd drwyddyn nhw a gweld yr holl ffotograffs.

"O'n i'n rili shocked faint o luniau oedd yna a pa mor dda oedda nhw - roedd bob un yn amazing.

"Roedd o'n dal pobl yn naturiol - roedd pawb yn cael yr un Geoff Charles - roedd o'n ysbrydoliaeth."

Pysgotwyr AbersochFfynhonnell y llun, Casgliad Geoff Charles, Y Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Pysgotwyr Abersoch yn nyddiau Geoff Charles. Mae ei ffotograffau yn dogfennu bywyd yng Nghymru rhwng 1930au a'r 1970au

Sion Williams wrth ei gwchFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Llun wnaeth Anna Higson dynnu o Sion Williams, un o bysgotwr sy'n gweithio heddiw ym Mhen Llŷn

Fe dynnodd y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles rai o luniau mwyaf eiconig Cymru yn y ganrif ddiwethaf a gadael casgliad amhrisiadwy yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn bennaf mewn du a gwyn hiraethus, mae'r miloedd o luniau yn y casgliad yn dogfennu bywyd cefn gwlad sydd wedi diflannu a rhai o brif ddigwyddiadau Cymru yn yr 20fed ganrif, gan gynnwys ei lun eiconig o'r bardd Carneddog a'i wraig Catrin yn gadael eu fferm fynyddig a dyddiau olaf cymuned Capel Celyn.

Ffermwr yn gweithio gyda cheffyl gweddFfynhonnell y llun, Casgliad Geoff Charles, Y Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Un o ffotograffau Geoff Charles sy'n dogfennu ffordd o fyw ym Mhen Llŷn sydd bellach wedi diflannu

Glyn Jones, Robin Hughes Jones a Morus Huw Jones ar eu fferm Hirdre UchafFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Higson hefyd wedi dogfennu bywyd bob dydd heddiw, fel yn y llun yma o Glyn Jones, Robin Hughes Jones a Morus Huw Jones ar fferm Hirdre Uchaf

Ar ôl edrych ar y lluniau a gwylio ffilm Yr Etifeddiaeth, gafodd ei chynhyrchu yn 1949 gan Geoff Charles a'i olygydd yn Y Cymro John Roberts Williams, roedd ganddi'r dasg o ymateb i'r delweddau.

Ar ôl ystyried sawl opsiwn, fe benderfynodd ganolbwyntio ar un pentref - Tudweiliog.

Anna HigsonFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Anna Higson, sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Botwnnog ac yn byw ym Moduan, ei chomisiynu gan Blas Glyn Y Weddw a CELF

"Mae o'n le sydd heb newid llawer mewn ffordd - mae o wedi newid lot fel bob man ond mae o dal yn teimlo 'run fath," meddai.

"Mae dal cymuned gryf yno efo lot o bobl yn rhedeg busnesau fel y gof, florist, mae'r ysgol yn neud yn rili da, mae gen ti Cwt Tatws, mae 'na ffermwyr a B&B, ac mae'r dafarn yna. Mae lot o fusnesau llwyddiannus yna.

"Felly dyna oedd y dechrau ond ar ôl 'chydig neshi ddisgyn mewn cariad efo'r bobl hŷn yno - rhai yn eu 80au hwyr neu 90au cynnar - ac roeddan nhw i gyd efo lot o straeon am y lle.

"Roedd yn teimlo'n rili pwysig i dynnu eu lluniau nhw."

Llun o ddynes mewn cadairFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Un o luniau Anna Higson o gymuned Tudweiliog

Fel arfer mae Anna, oedd yn rhedeg tŷ bwyta Mecsicanaidd ym Mhwllheli gyda'i brawd am wyth mlynedd, yn tynnu lluniau digidol.

Ond ar gyfer y prosiect yma fe brynodd yr un camera ffilm roedd Geoff Charles yn ei ddefnyddio.

Dywedodd ei bod wedi dysgu am ei chrefft wrth ddefnyddio ffilm - lle mae rhywun yn tynnu cymaint llai o luniau oherwydd y gost, ac yn methu gweld llun yn syth ar ôl ei dynnu. Ac roedd manteision eraill hefyd.

Meddai: "Mae pobl yn ymateb yn rili da i gamera ffilm yn enwedig y bobl hŷn - roeddan nhw'n fwy cyfforddus, yn adnabod y sŵn a sut mae'r camera yn edrych.

"Roedd hynny'n rili neis.

"Mae hefyd yn syrpreis neis pan o'n i'n cael y lluniau yn ôl ar ôl eu developio. Mae o'n scary achos ti ddim yn gwybod os ti wedi cael y shots ond ti'n cael huge buzz pan ti'n cael llun da yn ôl."

Dywedodd bod parch i waith Geoff Charles gan bobl Pen Llŷn a bod pawb yn fodlon cael tynnu eu llun pan oedden nhw'n deall mai fo oedd yr ysbrydoliaeth i'r prosiect.

Dynes o Ben LlynFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Ffotograff o Nerys Jones, gan Anna Higson

Mae gwaith Anna a Geoff Charles nawr yn cael eu dangos ym Mhlas Glyn y Weddw tan 4 Hydref. Mae Yr Etifeddiaeth hefyd yn cael ei dangos yno.

Ei gobaith ydi bod y prosiect yn dylanwadu ar bobl heddiw ac ar genedlaethau'r dyfodol.

"Mae amser yn newid a ti byth yn gwybod os mai dyma'r tro ola' alla i dynnu'r llun yma, achos mae'r llefydd a phobl yn newid," meddai.

"Mae o'n gyfrifoldeb o ran lluniau pwy ti'n dynnu a pwy ti'n methu ac mae 'na bwysau i neud y peth yn iawn.

"Mae'n bwysig achos mae o'n neud i chdi feddwl am dy gymuned dy hun - pwy sy'n bwysig a pwy sy'n neud lot yno.

"Gobeithio bydd pobl sy'n mynd i weld y lluniau yn meddwl am y bobl sy'n bwysig yn eu cymuned nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol