Y menopos ac ADHD: 'O'n i'n teimlo mor wan a gwag'

Vikki Alexander a'i chiFfynhonnell y llun, Vikki Alexander
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod iselder ac hunanladdiad a all beri gofid i rai darllenwyr

"O'n i jyst yn meddwl, 'S'dim pwynt fi fod 'ma rhagor achos dw i jyst yn cymryd gormod o le yn y byd a dw i'n achosi problemau.'"

Mae Vikki Alexander o Gaerffili yn niwroamrywiol ac wedi dioddef o iselder drwy ei bywyd. Ond wrth iddi gychwyn fynd drwy'r menopos, mi aeth iechyd meddwl Vikki o ddrwg i waeth wrth iddi brofi iselder dwys ac ystyried hunanladdiad.

Bu'n rhannu ei stori gyda Cymru Fyw.

O'n i'n bwrw'r menopos cwpl o flynyddoedd yn ôl.

Ac o'n i jest yn teimlo mor isel. O'n i'n teimlo mor wan a gwag. Doedd dim hapusrwydd, doedd dim tristwch. O'n i'n teimlo fel dim byd.

Ac oedd e'n amser mor ofnadwy. O'n i jyst yn meddwl, dw i ddim isie bod 'ma rhagor. Achos o'n i'n meddwl o'n i'n ffaelu fel mam, o'n i'n ffaelu fel ffrind ac o'n i'n ffaelu fel person.

Oedd perthynas fi wedi gorffen eto. Ac o'n i'n beio fi fy hun. Ac o'n i jyst yn meddwl, 'S'dim pwynt fi fod 'ma rhagor achos dw i jyst yn cymryd gormod o le yn y byd a dw i'n achosi problemau.'

Dyna sut oedd brên fi yn meddwl.

Help

Felly, es i i'r doctor ac o'n i jyst yn sobian. O'n i wedi gwneud lot o ymchwil fy hun ac o'n i'n gweld bod y menopos a ADHD ddim yn hoffi'i gilydd o gwbl achos mae'r menopos yn tynnu y dopamine mae ADHD angen ac mae lot o bethau cemegol eraill yn mynd ymlaen yn y corff.

Dywedais i wrth y doctor, 'mae'n rhaid i chi helpu fi, dw i ddim eisiau bod 'ma. Dw i ddim isie neud rhywbeth sili. Help.' A ges i HRT patches ar gyfer y menopos.

Vikki yn codi arian at meddwl.orgFfynhonnell y llun, Vikki Alexander
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae Vikki yn codi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth ac yn codi arian ar gyfer meddwl.org, sy'n gymuned iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg

Byw gyda niwroamrywiaeth

Dw i erioed wedi teimlo fel bod rhywbeth yn bod. Dw i erioed wedi teimlo bod fi'n wahanol, bod fi ddim yn ffitio mewn a bod pobl ddim yn hoffi fi.

Mae fy ymennydd yn mynd a mynd a mynd a dw i ddim yn cysgu am wythnosau neu misoedd. Mae lot o'r pethau yma yn dod o dan ADHD, ond o'n i ddim yn gwybod beth oedd e [am amser hir].

Mae pobl gyda ADHD yn mynd, mynd, mynd. Ni yna i bawb ac yn gwneud popeth dros bobl. Mae ein ymennydd ni mewn fight or flight drwy'r amser a ni ddim yn cysgu achos mae'n ymennydd ni'n mynd drwy'r nos.

Mae gwên ar ein wyneb ond ni wedi blino'n lan.

Ac wedyn ni'n sâl am wythnosau. O'n i ddim yn gwybod bod hwnna'n ADHD.

Ond dyma fi'n mynd lawr y llwybr o ddarganfod mwy am niwroamrywiaeth ac oedd e fel golau yn troi ymlaen.

Nawr, achos mae mwy o wybodaeth gyda fi amdano, dw i'n gwybod mod i'n gallu mynd am help. A dw i'n gallu gwrando ar bobl achos dw i nawr yn gwybod be' maen nhw'n teimlo fel.

Chi ddim yn gallu tynnu'r iselder oddi wrth y person lot o'r amser. Ond chi yn gallu helpu nhw i deimlo bod nhw ddim ar ben eu hunain a fod hwn dros dro.

Vikki a un o'r medalau sy' ganddi am godi arianFfynhonnell y llun, Vikki Alexander

Therapi

Dw i wedi cael lot o therapi ar wahanol amseroedd, fel ar ôl cael babi.

Mae iselder ar ôl geni yn uchel mewn menywod sy'n niwroamrywiol. Ers i fi ddechrau neud yr ymchwil am y stwff 'ma, mae sut gymaint o bethau sydd nawr yn gwneud synnwyr.

Dyw menywod ddim yn gwybod fod cysylltiad gyda'r ADHD neu'r awtistiaeth. Chi'n mynd drwy bywyd yn teimlo'n rili unig, yn teimlo bod rhywbeth yn bod arno chi, ac mae pobol yn gallu troi at gyffuriau neu diod fel canlyniad.

Vikki a'i phartnerFfynhonnell y llun, Vikki Alexander

Rhannu profiadau

Pan chi'n teimlo'n isel iawn, chi moyn siarad mewn iaith sy'n gyfforddus i chi. I bobl sydd yn Gymraeg iaith gyntaf, mae'n bwysig bod y gwasanaethau yno pan maen nhw'n teimlo'n isel.

Dwi wedi rhannu fy stori ar meddwl.org sy'n gymuned iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg sy'n trafod pethau yn agored. Ac mae na straeon hefyd gan bobl sydd yn dioddef cyflyrau iechyd meddwl eraill, i bobl allu darllen a gweld pwy sydd wedi cael yr help a sut mae wedi helpu nhw.

Yng Nghymru mae'n bwysig bod ni'n cael yr un fath o wasanaethau yma ac mae meddwl.org yn ddathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu eleni.

Beth sy'n bwysig yw fod pobl yn cael yr help a ddim yn eistedd yno yn dioddef a theimlo fod y byd yn well hebddyn nhw ynddo fe.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig