Sut y datblygodd stori'r wythnos 'heriol' i Reform yng Nghymru

Llyr PowellFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae "wythnos nesa'n ddechrau newydd" wedi cyfnod heriol i'r blaid, yn ôl Llyr Powell

GanCemlyn Davies
Gohebydd Gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

"Mae hi wedi bod yn heriol ond rydyn ni wedi dod drwyddi," meddai prif chwip Reform yn y Senedd, Llŷr Powell, wrth iddo fyfyrio ar yr wythnos diwethaf.

Dechreuodd y cyfan gydag arweinydd y blaid yng Nghymru'n cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall. Mae Dan Thomas yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.

Yn fuan ar ôl i gadarnhad ddod ei fod wedi ei arestio, daeth y newyddion bod un o aelodau Reform yn y Senedd wedi ymuno â Phlaid Cymru.

Dyma sut y datblygodd stori'r wythnos "heriol" hon.

Fore Sul diwethaf roedd Mr Thomas yn swyddfeydd BBC Cymru i ymddangos fel gwestai ar raglen Politics Wales.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cafodd ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Erbyn nos Lun roedd newyddiadurwyr yn dechrau ymchwilio i adroddiadau bod Thomas wedi ei arestio.

Ar yr un pryd roedd rhai o aelodau blaenllaw Reform yng Nghymru'n dechrau clywed y newyddion.

Roedd ambell un ym mhencadlys y blaid yn Llundain, gan gynnwys Nigel Farage, wedi cael gwybod yn barod.

'Sïon yn chwyrlio'

Fore Mawrth daeth ASau Reform ynghyd ar gyfer eu cyfarfod wythnosol yn y Senedd.

Gyda "sïon yn chwyrlio" roedd yna "ddryswch" o fewn i'r grŵp.

Doedd Dan Thomas ddim yno, a chafodd y manylion llawn ddim eu rhannu gyda'r aelodau, ond fe'u rhybuddiwyd bod y blaid yn "wynebu rhai dyddiau anodd".

Yn fuan wedyn, cyhoeddwyd na fyddai Mr Thomas yn cymryd rhan yn sesiwn holi'r prif weinidog ac y byddai ei ddirprwy Helen Jenner yn cymryd ei le.

Ar y pryd dywedodd Reform bod ei absenoldeb o ganlyniad i "resymau personol".

Ond wrth i amser fynd heibio daeth hi'n glir bod manylion yr arestiad ar fin torri.

Dan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Thomas yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le

Fyddai llythyr cyfreithiol gan fargyfreithiwr Reform i rai sefydliadau newyddiadurol ddim yn atal y stori rhag cael ei hadrodd.

Roedd BBC Cymru, ac eraill, wedi sicrhau'r cadarnhad oedd ei angen bod Mr Thomas wedi ei arestio ac roedd yn rhaid i'r blaid weithredu.

Dyna pryd yr anfonodd Mr Thomas neges WhatsApp at ASau ei blaid i egluro'r sefyllfa. Roedd rhai ohonyn nhw yn y siambr ar y pryd.

Yn ei ddatganiad i'r wasg dywedodd Mr Thomas ei fod yn ildio'r awenau.

Mae'n parhau yn AS i'r blaid ar gyfer Casnewydd Islwyn.

Sarah Cooper-LesaddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol i'r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg

Yna daeth y sioc fawr nesaf wrth iddi ddod i'r amlwg bod AS Reform ar gyfer Pen-y-bont Bro Morgannwg, Sarah Cooper-Lesadd wedi gadael i ymuno â Phlaid Cymru.

Dim ond ar ôl i BBC Cymru gysylltu â Reform am ymateb i'r stori y cafodd y blaid wybod bod hynny wedi digwydd.

Roedd Ms Cooper-Lesadd wedi bod yn eistedd ar feinciau Reform funudau ynghynt ac roedd disgwyl iddi siarad ar ran ei phlaid yn y siambr.

Cafodd y mwyafrif o ASau Plaid Cymru - gan gynnwys rhai gweinidogion - wybod am gynllun Cooper-Lesadd am y tro cyntaf yng nghyfarfod y grŵp yn gynharach y diwrnod hwnnw.

Roedd angen sêl bendith dau draean o'r grŵp ac roedd rhai aelodau eisiau sicrwydd bod Cooper-Lesadd yn llawn ddeall beth mae bod yn aelod o Blaid Cymru'n ei olygu.

Yn y pendraw roedd digon o aelodau o blaid. Doedd y bleidlais ddim yn unfrydol.

Helen JennerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Helen Jenner ydi'r ffefryn i olynu Dan Thomas fel arweinydd y blaid yng Nghymru

Mewn cynhadledd i'r wasg gafodd ei threfnu ar frys, dywedodd Sarah Cooper-Lesadd bod ei phenderfyniad yn dilyn "cyfnod o ystyried" a'i bod hi wedi dod o hyd i'w "chartref gwleidyddol cywir".

Doedd ddim cysylltiad rhwng arestiad Mr Thomas a'i phenderfyniad hi.

Wnaiff Cooper-Lesadd na Phlaid ddim dweud sut na phryd y dechreuodd y trafodaethau rhyngddyn nhw, dim ond bod y broses wedi bod yn digwydd "ers tro" a'i bod hi wedi bod "ar daith".

Mae ei phenderfyniad i adael Reform, gwta bedwar mis ers yr etholiad, wedi codi cwestiynau newydd am y drefn etholiadol ble roedd gofyn i etholwyr bleidleisio dros blaid yn hytrach nag unigolyn.

Er nad ydy hi'n anghyffredin i aelod adael un blaid am un arall, dywedodd Jess Blair o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod yna fwy o "fwlch atebolrwydd" o ystyried y drefn etholiadol yng Nghymru.

"Pan gafodd y drefn etholiadol yma ei chyflwyno cafodd mecanwaith i adolygu'r drefn ei gynnwys yn rhan o'r broses a'r hyn rydyn ni ei angen nawr yw gweld yr adolygiad yna'n digwydd," meddai.

'Wythnos nesa'n ddechrau newydd'

Erbyn bore Mercher roedd sylw Reform ar ddod o hyd i arweinydd newydd.

Daeth un o swyddogion y blaid o Lundain i egluro'r broses i'r ASau ac roedd Dan Thomas yn y cyfarfod.

Fel sy'n gyffredin pan mae angen arweinydd newydd roedd gwahanol enwau'n cael eu trafod.

Roedd James Evans yn cael ei weld fel ymgeisydd amlwg.

Pan ddaeth y cyhoeddiad y byddai'n gwneud datganiad i'r wasg rhuthrodd gohebwyr i glywed beth oedd ganddo i'w ddweud.

James EvansFfynhonnell y llun, Getty Images

"Ar ôl siarad gyda fy nheulu... fydda i ddim yn sefyll," meddai, er bod "mwyafrif" o ASau'r blaid wedi ei gefnogi i gymryd yr awenau.

Erbyn bore Iau roedd hi'n edrych yn fwyfwy tebygol taw Helen Jenner fyddai'r arweinydd newydd.

Er nad ydy penaethiaid Reform UK yn Llundain wedi cael mewnbwn ffurfiol i'r broses, dywed ffynonellau bod "arwyddion" wedi bod y byddai Jenner yn cael ei gweld fel dewis da ym mhencadlys y blaid.

Mae disgwyl cadarnhad o'i phenodiad ddydd Llun.

"Rwy'n teimlo ein bod ni'n fwy unedig nag erioed," meddai Llŷr Powell.

"I ni, mae wythnos nesa'n ddechrau newydd a dyna rydyn ni'n adeiladu arno fe."

Mae Politics Wales ar BBC1 Cymru am 10:00 ddydd Sul ac ar iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.