Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo ar ôl yfed gormod a disgyn

Steve HuntFfynhonnell y llun, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Hunt yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymddiswyddo ar ôl yfed gormod o alcohol mewn digwyddiad gwleidyddol ac yna disgyn.

Yn gynghorydd annibynnol, dywedodd Steve Hunt y "dylwn i fod wedi defnyddio mwy o synnwyr" gan gyfaddef ei fod wedi meddwi a syrthio.

Gwadodd honiadau ei fod wedi bod yn brolio ei fod wedi yfed potel gyfan o jin, a dywedodd bod honiadau iddo ymosod ar yr iaith Gymraeg a gwario pres cyhoeddus arni yn anghywir.

Dywedodd ffynhonnell oedd yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (LDRS) fod y cyn-arweinydd annibynnol yn brolio'n uchel ei fod wedi yfed yn drwm ar ôl y gynhadledd ar 16 Medi.

Dywedodd Mr Hunt ei fod yn gefnogwr brwd o'r iaith a'i fod wedi treulio blwyddyn yn dysgu'r iaith. Ond cyfaddefodd ei fod wedi dweud ei fod eisiau "dileu" Plaid Cymru yn wleidyddol.

'Wedi meddwi'n drwm'

"Dwi'n derbyn, achos 'mod i wedi meddwi'n drwm, fy mod i wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau gwleidyddol tanllyd gydag arweinwyr gwleidyddol a gydag aelodau o Blaid Cymru yn benodol," meddai Mr Hunt.

"Ro'n i'n sôn am y blaid wleidyddol dwi wedi'i chofrestru, Plaid Annibynnol Cymunedau Cymru'n Gyntaf, a dwi'n derbyn 'mod i wedi gwneud sylw am fod eisiau 'dileu' Plaid Cymru yn wleidyddol.

"Roedd yn sylw gwleidyddol amhriodol tra fy mod wedi meddwi a dwi'n derbyn cyfrifoldeb amdano.

"Dylid ei ddeall yng nghyd-destun hwyl gwleidyddol ac anghytuno ar ddiwedd noson hir, yn hytrach na fel bygythiad neu unrhyw beth arall heblaw am ddatganiad gwleidyddol."

'Amgylchiadau personol'

"Roedd yna amgylchiadau personol yn gefndir i'm hymddygiad hefyd, a dwi'n credu eu bod yn cynnig cyd-destun perthnasol," meddai Mr Hunt.

"Mae rôl arweinydd y cyngor yn andros o heriol ac yn golygu lefel sylweddol o bwysau a chyfrifoldeb.

"Ar ben pwysau'r rôl, dwi wedi bod yn delio gyda nifer o faterion teuluol.

"Ar yr achlysur penodol yma, mi wnes i fanteisio ar y digwyddiad cymdeithasol i ymlacio o'r pwysau hwnnw, ac yn anffodus, mi wnes i yfed llawer mwy nag oedd yn synhwyrol.

"Mae hynny'n egluro'r amgylchiadau; nid yw'n esgus am fy ymddygiad.

"Dwi'n derbyn y dylwn i fod wedi defnyddio mwy o synnwyr.

"Y bore wedyn, mi wnes i ymddiheuro'n ddigymal i arweinydd grŵp Plaid Cymru a gofyn i fy ymddiheuriadau gael eu mynegi i unrhyw un arall y gallwn i fod wedi eu tramgwyddo yn ystod y noson."

Fe wnaeth llefarydd ar ran y cyngor gadarnhau y bydd y Cynghorydd Hunt yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd annibynnol dros ward Creunant, Onllwyn a Blaendulais.

Ychwanegodd y bydd arweinydd newydd yn cael ei benodi mewn cyfarfod o'r cyngor sydd ar hyn o bryd wedi'i drefnu ar gyfer 14 Hydref 2026.

Bydd dirprwy arweinydd y cyngor ac arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Alun Llewelyn, yn cyflawni dyletswyddau'r arweinydd tan bod y swydd yn cael ei llenwi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.