Apêl frys am fwy o bobl i roi organau yn un o'r cyfnodau anoddaf ers degawd

Llio (dde) a FfionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llio (dde) aren gan ei chwaer, Ffion yn 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth iechyd wedi cyhoeddi galwad brys am y tro cyntaf erioed am fwy o bobl i roi organau, wrth i'r niferoedd ostwng yn sylweddol.

Mae llai yn rhoi organau eleni o'i gymharu â llynedd, ac mae nifer y cleifion sy'n aros am drawsblaniad ar ei lefel uchaf erioed.

Yn ôl adran Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fe gafodd 2,000 o gyfleoedd i roi organau eu colli yn y bum mlynedd diwethaf gan nad oedd teuluoedd yn siŵr o ddymuniadau'r person oedd wedi marw.

Mae Llio Dudley Roberts o Drawsfynydd, gafodd aren gan ei chwaer yn 2015, yn dweud bod yr ystadegau yma wedi ei "dychryn" ac mae'n "erfyn ar bobl i siarad a rhoi organau".

Mae yna ostyngiad o 9% yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi yn y Deyrnas Unedig eleni o'i gymharu â llynedd.

Mae'r rhestr aros am drawsblaniad hefyd yn parhau i gynyddu a bellach mae dros 8,700 o bobl yn y DU yn aros am drawsblaniad allai achub eu bywydau.

"Mae gymaint o bobl angen organau - 'da ni angen sgwrsio a siarad mwy am y peth a dwi jest yn erfyn ar bobl i roi," meddai Llio.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast esboniodd sut aeth yn sâl yn gyflym dros ddegawd yn ôl yn y brifysgol.

Ar ôl mynd i weld y meddyg, daeth i ddeall bod ganddi gyflwr prin FSGS, oedd yn achosi i'w harennau fethu a bu'n rhaid derbyn dialysis.

Cynigodd ei chwaer fach Ffion roi ei haren hi iddi, oedd yn "perfect match".

"Erbyn hyn dwi'n fam i hogan fach o'r enw Manw John ac mae bob dim yn grêt," meddai Llio, ond mae meddwl gorfod cael aren arall "yng nghefn 'y meddwl i".

Llio, Manw a FfionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llio (chwith) yn meddwl bod gormod o bobl ofn trafod y pwnc, ac yn pwysleisio nad oes rhaid iddo fod "yn rhy drwm"

"Dwi'n trio peidio meddwl fel hyn ond ers cal Manw mae rhywun yn poeni ac yn meddwl.

"15 mlynedd ydy bywyd organ, on average - dwi yn nabod rhywun sy' efo aren 30 oed so dydw i ddim yn poeni ond yn y dyfodol mi fydda i ma' siŵr angen aren arall.

"Mi fyddai'n gorfod mynd ar restr a disgwyl am yr alwad yna... mae o'n rhywbeth yng nghefn 'y meddwl i," meddai.

Mae ffigyrau newydd yn dangos rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2026 fod mwy na 700 o roddion posibl heb gael eu gwneud, gan nad oedd teuluoedd yn gwybod beth oedd dymuniad eu hanwyliaid.

Mae angen gwella hynny yn ôl Llio.

"Dwi'n meddwl bod yna lot o bobl ofn sgwrsio am y peth achos yn amlwg dydy o'm yn sgwrs ti'n cael rownd y bwrdd brecwast nadi?

"Ond does 'na'm byd i fod ofn - fedri 'di gal sgwrs eitha' ysgafn gyda dy anwyliaid.

"Does dim rhaid iddo fo fod yn ddim byd trwm."

'Un o'r cyfnodau mwyaf heriol'

Mae cadarnhau eich penderfyniad o ran a ydych chi'n hapus i roi organ yn cymryd dwy funud meddai Anthony Clarkson o awdurdod Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG - sy'n awdurdod iechyd arbenigol ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr.

Dywedodd ein bod yn "wynebu un o'r cyfnodau mwyaf heriol o ran rhoi organau ers dros ddegawd".

"Mae angen gweithredu ar frys," ac er bod angen cydweithio ar draws y GIG mae hefyd angen i'r cyhoedd helpu meddai.

"Mae cam syml y gall y cyhoedd ei gymryd i helpu i achub bywydau. Cofrestrwch ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG.

"Mae cadarnhau'r penderfyniad ynghylch rhoi organau ar y gofrestr yn cymryd dwy funud a gall pob rhoddwr achub hyd at naw bywyd o bosibl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig