'Angen gweithredu, nid siarad' - cri ffermwr cyn cynhadledd tanau gwair

Brynmor Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brynmor Morgan yn dweud bod angen adolygu'r ffordd y mae Cymru'n delio â thanau gwyllt mewn llefydd anghysbell

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i gynhadledd fawr gan Lywodraeth Cymru ar atal tanau gwyllt arwain at weithredu ac nid "lot o siarad", yn ôl ffermwr gollodd y rhan helaeth o'i dir pori i'r fflamau.

"O'dd hi'n ofnadwy... ac oedd ofn mawr arnai," meddai Brynmor Morgan, 84 wrth gofio'r tân losgodd ger ei fferm yng Nghwmystwyth ddiwedd Ebrill.

"Ma' fe wedi cawlio'r mynydd i gyd," gan effeithio ar ei fusnes a lladd bywyd gwyllt, a "mater o amser" yw hi tan bod yna ddigwyddiad tebyg eto yn wyneb newid hinsawdd, rhybuddiodd.

Dweud bod "risg go iawn i'r cyhoedd" oni bai bod Cymru'n paratoi'n well at danau gwyllt mae undeb y diffoddwyr tân.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yr uwchgynhadledd ym Merthyr Tudful yn "canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o effaith tanau gwyllt a chryfhau cydweithrediad a chynlluniau i ymateb i'w bygythiad yn y blynyddoedd i ddod".

Tan yng Nghwm ElanFfynhonnell y llun, Ruth Rees Photography
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal uwchgynhadledd ddydd Iau i ddysgu gwersi o danau gwyllt niferus 2026

"Golles i tua 85% o'r mynydd, gath e'i losgi i'r gwaelod, y grug a'r mollinia a'r adar bach wedi mynd i gyd," meddai Brynmor Morgan.

Roedd wedi edrych yn ôl drwy ddyddiaduron y teulu, sydd wedi ffermio ger Cwmystywth, Ceredigion ers saith cenhedlaeth, gan ddweud nad oedd cof o dân mor ffyrnig yno mewn 200 mlynedd.

Roedd y tân yn "wyllt", meddai - "y fflamau rhyw dair i saith metr o uchder" a'r gwres yn eithafol.

"O'dd raid i chi fod o'i ffordd e - achos o'dd y mwg yn mynd i'ch gwddwg chi a bydde chi'n gallu collapsio".

Tra'n canmol ymdrechion y diffoddwyr tân, oedd yn "A1s yn enwedig y criw o Dregaron", mae'n dweud bod angen adolygu'r modd y mae Cymru'n delio â thanau mewn llefydd anghysbell.

Tan yng Nghwm ElanFfynhonnell y llun, Ruth Rees Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cwm Elan ymysg y llefydd cyntaf i ddioddef tanau ffyrnig ar ddiwedd Ebrill 2026

"Ro'dd y frigâd dân wedi parcio ar yr hewl fawr gyda'r golau glas yn mynd - psychologically o'dd hi'n fendigedig," meddai.

Ond roedd hi'n anodd cael yr offer angenrheidiol i leoliad y tân - dros filltir a hanner i ffwrdd ar dir serth a chafodd hofrennydd ei ddefnyddio i ollwng dŵr ar y fflamau o lynnoedd cyfagos.

Yn ddiweddarach yn yr Haf wrth i danau gwyllt losgi ar draws Cymru daeth prinder argaeledd hofrenyddion tebyg yn bwnc trafod mawr.

"Wrth edrych i'r dyfodol dwi'n credu bo' hwna'n un o'r cwestiynau mwya' - beth ma' angen i ni ga'l i ymladd y tanau 'ma," meddai Mr Morgan.

"Dwi'n gobeithio'n fawr bydd [yr uwchgynhadledd] ddim yn siop siafins - lot o siarad a dim byd yn cael ei 'neud ar ddiwedd y dydd.

"Ma'r tanau 'ma yn mynd i ddigwydd yn aml, mae'n lawer mwy cynnes erbyn hyn - y tymheredd wedi newid i beth oedd hi ddeng mlynedd yn ôl - dyw'r eira mawr ddim yn dod nawr, ond gwres tanbaid sydd."

Tân ar ochr mynydd yn ardal Cwm ElanFfynhonnell y llun, Ruth Rees Photography
Disgrifiad o’r llun,

2026 yw un o'r blynyddoedd gwaethaf ar gofnod o ran tanau gwyllt yng Nghymru

2026 yw un o'r blynyddoedd gwaethaf erioed am danau gwyllt yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân mae diffoddwyr yng Nghymru a Lloegr wedi ymateb i 1350 o danau gwyllt hyd yma, gan dorri record a osodwyd y flwyddyn flaenorol o 1017 o danau.

Mae'r ffigurau yma'n cyfrif y tanau mwyaf difrifol allai fygwth bywydau, eiddo a seilwaith - mae'r niferoedd yn chwyddo'n sylweddol o gynnwys tanau gwair llai o faint.

Mae gwasanaeth tân ac achub Gogledd Cymru, er enghraifft yn nodi iddyn nhw orfod anfon criwiau allan i frwydro tanau gwyllt 2481 o weithiau yn ystod Haf 2026, cynnydd o 104% ar y flwyddyn flaenorol.

Cafodd tir sy'n cyfateb mewn maint â 1500 o gaeau pêl-droed ei ddifrodi ar draws y rhanbarth - wrth i'r stafell alwadau argyfwng ymateb i 6,088 o alwadau ffôn gan y cyhoedd.

Pen y FanFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tân ym Mannau Brycheiniog yn ystod Haf 2026

"O'dd e'n gyfnod anodd iawn i ddiffoddwyr ac i'r gwasanaethau tân," yn ôl Cerith Griffiths, cyn aelod pwyllgor cenedlaethol undeb y diffoddwyr tân yng Nghymru.

"Ni wedi cael cipolwg mewn i'r dyfodol nawr a dwi'n credu dyle'r argyfwng hinsawdd bryderu pawb," meddai.

Gyda chymaint o ddiffoddwyr yn gorfod ymateb i ddyddiau diddiwedd o danau gwyllt, roedd hynny'n golygu llai o gapasiti i allu delio ac argyfyngau mewn tai neu helpu gyda damweiniau ffordd, rhybuddiodd.

"Mae angen buddsoddi yn y gwasanaethau tân - yn enwedig yng Nghymru," meddai, gan nodi bod y gwasanaethau wedi dod i ddibynnu fwy-fwy ar ddiffoddwyr rhan-amser yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd 98% o ddiffoddwyr a ymatebodd i arolwg diweddar gan yr undeb o'r farn bod angen mwy o gyllideb ar wasanaethau tân lleol yn dilyn tanau gwyllt yr Haf.

Dywedodd Steve Wright, Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU bod "diffoddwyr tân yn cael eu hanfon i frwydro tanau gwyllt heb yr offer cywir, mynediad i adnoddau lles addas a heb ddigon o gydweithwyr i wneud y gwaith yn ddiogel".

"Cafodd diffoddwyr tân eu hanafu am nad oedd ganddyn nhw'r kit cywir i frwydro tanau gwyllt," ychwanegodd Gareth Tovey, prif gynrychiolydd yr undeb yng Nghymru.

Dywedodd bod y mudiad wedi rhybuddio "ers blynyddoedd" am yr heriau - gan gynnwys mewn adroddiad yn 2023 - a bod "risg go iawn i'r cyhoedd" os nad yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar frys i baratoi'n well at danau gwyllt.

Daw wrth i ymchwiliad gan bwyllgor amgylchedd Senedd San Steffan, dolen allanol alw'r wythnos hon am fuddsoddi mewn awyrenau newydd i frwydro tanau gwyllt, gwahardd barbeciwiau tafladwy ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ar raddfa eang ar gyfer y cyhoedd.

Gareth Clubb o WWF Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Galw am gronfa benodol gan Lywodraeth Cymru i helpu addasu ar gyfer effeithiau newid hinsawdd, mae Gareth Clubb o WWF Cymru

Yn y cyfamser, mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa flynyddol gwerth £55m i helpu addasu at effeithiau tywydd eithafol.

Byddai cyllid ychwanegol i blannu coed, creu glwyptiroedd ac adfer corsydd mawn yn helpu sicrhau bod y tirlun yng Nghymru yn fwy gwydn i danau a llifogydd, yn ôl Gareth Clubb, cyfarwyddwr WWF Cymru.

"Mae lot anoddach i danau gwyllt losgi yn yr ardaloedd rheini," eglurodd.

"Ry'n ni eisiau i Lywodraeth Cymru fuddsoddi lot fwy mewn i weithio gyda natur".

'Rhybudd difrifol o'r hyn sydd o'n blaenau ni'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r prif weinidog yn arwain "Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd a Gwydnwch Cymru" fore Iau, "gan ddod â phartneriaid allweddol ynghyd i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y dyfodol yn sgil y tanau gwyllt a welwyd yng Nghymru dros yr haf".

Ymhlith y sefydliadau fydd yn cael eu cynrychioli fydd y gwasanaethau tân a'r heddlu, llywodraeth leol, ffermwyr a sefydliadau newid hinsawdd.

Roedd y tanau eleni "yn rhybudd difrifol o'r hyn sydd o'n blaenau ni oni bai ein bod ni'n gweithredu rŵan", meddai'r prif weinidog Rhun ap Iorwerth.

"Nid heddiw ydy dechrau na diwedd y camau y bydd angen i ni eu cymryd, ond mi allwn ni, ac mae'n rhaid i ni, ddod i gonsensws o ran sut y byddwn ni'n cydweithio i fynd i'r afael â'r her gynyddol hon dros y blynyddoedd nesaf."

Wrth ymateb i sylwadau'r FBU, fe fynnodd y llywodraeth eu bod yn cydnabod y pryderon sydd wedi'u codi gan ddiffoddwyr tân a'u bod "yn glir bod yn rhaid i ni wneud popeth allwn ni i leihau risg tanau gwyllt".

"Nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd i wasanaethau tân ac achub. Awdurdodau Tân ac Achub sy'n penderfynu faint o ddiffoddwyr sydd eu hangen arnyn nhw gan osod eu cyllidebau i gyfateb â hynny. Ddylen nhw gymryd tanau gwyllt yr Haf yma i ystyriaeth wrth wneud hynny."