'Doedd dim angen i hyn ddigwydd' - Beirniadu'r diffyg hofrennydd i daclo tanau

Mae tân ar fynyddoedd y Rhinogydd yng Ngwynedd wedi bod yn llosgi ers 10 diwrnod erbyn hynFfynhonnell y llun, Caroline Mason
Disgrifiad o’r llun,

Mae tân ar fynyddoedd y Rhinogydd wedi bod yn llosgi ers 10 diwrnod erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Gallai'r difrod o dân mawr yn y gogledd fod wedi ei osgoi pe bai'r gwasanaeth tân wedi cael cymorth o'r awyr, yn ôl perchennog gwesty cyfagos.

Mae'r gwasanaeth tân yn delio â'r tân ar fynyddoedd y Rhinogydd yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers 10 diwrnod erbyn hyn, ar ôl iddo aildanio ddydd Mercher.

Mae Caroline Mason, perchennog y Rhiw Goch Inn yn Nhrawsfynydd, yn dweud y "gallai'r tân wedi cael ei ddiffodd cyn iddo ledaenu tuag at Fronaber pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt".

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi derbyn a chymeradwyo cais gan y gwasanaeth tân am gymorth o'r awyr, ond does dim hofrenyddion arbenigol ar gael oherwydd galw mawr am eu cymorth ar draws y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau "cynllun rheoli argyfwng" mewn ymateb i'r tanau dros Gymru.

'Colli coedwig Geltaidd hynafol'

Dywedodd Caroline ei bod yn "teimlo'n ofnus" wrth wylio'r tân yn lledaenu dros y Rhinogydd tuag at ei gwesty.

"Pan es i i'r gwely nos Sul roedd y mynydd i gyd ar dân ac roedd y lleuad yn goch oherwydd y fflamau," meddai.

"Ro'n i'n poeni am ba fath o olygfa yr oeddwn i am ddeffro iddo ac yn y diwedd fe wnaeth sŵn y tân fy neffro a wnes i ffonio 999 achos o'n i'n teimlo mor ofnus."

Caroline Mason
Disgrifiad o’r llun,

"Gallai'r difrod mawr wedi cael ei osgoi pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt," meddai Caroline Mason

Mae Caroline yn credu y byddai'r tân wedi'i ddiffodd erbyn hyn pe bai hofrennydd wedi bod ar gael i gynorthwyo diffoddwyr.

"Gallai'r difrod mawr wedi cael ei osgoi pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt," meddai.

"'Da ni wedi colli rhannau o goedwig Geltaidd hynafol yn ogystal â rhywogaethau a chynefinoedd o ganlyniad i'r tân.

"Doedd dim angen i hyn ddigwydd."

RhinogyddFfynhonnell y llun, Pat O'Neill

Mae ymdrechion y gwasanaeth tân ar draws Cymru yn parhau.

Yn ddiweddar, mae nifer o danau gwyllt wedi bod ar draws y wlad, yn enwedig ar fynyddoedd a thir uchel.

Mewn diweddariad fore Mercher, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod hefyd yn parhau i ddelio â thân mawr yng Nghapel Ulo, ger Bwlch Sychnant, yn ogystal â sawl un arall ar draws y gogledd.

Mae deiseb yn galw am sicrhau cymorth hofrenyddion wedi cael 5,000 o lofnodion, gyda phobl yn ardal y Rhinogydd yn rhybuddio bod y tân yn lledaenu tuag at Goed y Brenin, sydd ond milltiroedd o ddwy orsaf bŵer.

Mae mwg o'r tân ym Mlaenafon yn effeithio ar gymunedau lleol erbyn hynFfynhonnell y llun, Aga Kubish
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwg o'r tân ym Mlaenafon yn dal i effeithio ar gymunedau'r ardal

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De bod eu hymdrechion i ddiffodd tân ym Mlaenafon, Torfaen yn parhau a'u bod yn ymwybodol bod mwg o'r tân yn effeithio ar gymunedau lleol.

Mae disgwyl i'r tân, sy'n ymestyn dros 200 hectar gyda pherimedr o 5km, i barhau i losgi am sawl diwrnod.

Mae'r gwasanaeth tân yn annog y cyhoedd i osgoi'r ardal ac i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.

'Dim hofrennydd addas ar gael'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi "adolygu" eu dull o sicrhau cymorth o'r awyr ar gyfer tanau gwyllt yn ddiweddar, gan "symud o drefniant hirsefydlog a oedd yn dibynnu ar un darparwr yn unig, i fframwaith sy'n rhoi mynediad at nifer o ddarparwyr".

"Yn dilyn ceisiadau gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym wedi cysylltu â'r holl weithredwyr sydd ar gael o fewn ein fframwaith.

"Fodd bynnag, oherwydd y galw eithriadol sy'n deillio o danau gwyllt mewn rhannau eraill o'r DU, nid oes hofrennydd addas wedi dod ar gael eto."

Ychwanegodd eu bod yn parhau i geisio canfod hofrennydd addas.

Tan ardal RhinogyddFfynhonnell y llun, Pat O'Neill

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi dechrau "cynllun rheoli argyfwng i gydlynu'r ymateb i danau ar draws Cymru".

Dywedodd llefarydd bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau "nad oes cymorth o'r awyr ar gael ar gyfer unrhyw le yn y DU" ac felly bod "trafodaethau brys o fewn Cymru ac ar lefel y DU i ganfod ateb".

Ychwanegodd y llefarydd bod hofrenyddion yn arf defnyddiol wrth daclo tanau, nad oedden nhw'n "ddatrysiad cynhwysfawr o bell ffordd".

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, bod ymateb diffoddwyr tân a'r gwasanaethau brys "wedi bod yn eithriadol ac yn dangos ymroddiad a phenderfyniad anhygoel mewn amodau gwirioneddol anodd, ac rwyf am dalu teyrnged i bob un ohonynt".

"Mae tanau gwyllt wedi bod yn risg ddifrifol mewn sawl rhan o Gymru am amser ac mae newid hinsawdd yn sicr o gynyddu'r risg honno, yn enwedig yn ystod tywydd gwres yr haf."

Ond ychwanegodd "nad oes unrhyw allu diffodd tân o'r awyr ar gael i'w ddefnyddio yn unman yn y DU ar hyn o bryd i gefnogi'r ymdrechion hyn".

"Gwnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gais ffurfiol am gymorth cydfuddiannol ar ffurf staff ac offer tân, ac rwy'n falch bod hyn wedi'i gytuno a bod yr adnoddau hynny bellach ar lawr gwlad yn cefnogi criwiau."

Ychwanegodd bod criwiau'r dal i geisio mynd i'r afael â'r tân ym Mlaenafon, ble mae disgwyl iddo "barhau i losgi am sawl diwrnod".

"Mae diffoddwyr tân yn aros yn y fan i'w atal rhag lledaenu ymhellach a rhoi bywydau, bywyd gwyllt ac eiddo mewn perygl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol