Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, gafodd ei 'thrywanu'

Bu farw Eleanor Barnfield yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 61 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio Eleanor Barnfield, menyw 47 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae Clifford Foster, sydd hefyd o Ben-y-bont ar Ogwr, i fod i ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener.
Bu farw Eleanor Barnfield ar ôl digwyddiad ar Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun, 19 Hydref, a arweiniodd at ymchwiliad llofruddiaeth.
Dywedodd Heddlu De Cymru "nad yw'r achos yn cael ei ymchwilio fel digwyddiad domestig", a'u bod yn "annog y cyhoedd i beidio â dyfalu am yr amgylchiadau gan fod achos llys bellach yn weithredol".

Roedd ymgyrch heddlu sylweddol yn yr ardal nos Lun
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Coety am 12:43 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad car.
Dywedodd yr heddlu fod Eleanor Barnfield, oedd yn gyrru'r car, wedi dioddef anafiadau nad oedd yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad, a chafodd ei chludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach.
Y gred yw ei bod wedi cael ei thrywanu.
Mewn teyrnged flaenorol, disgrifiodd teulu Eleanor Barnfield hi fel "y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd".
Dywedon nhw mai hi oedd "popeth i ni", ac y byddai ei theulu a'i ffrindiau "yn ei charu ac yn ei cholli'n fawr am byth."
Roedd Eleanor Barnfield yn gweithio i gymdeithas dai Valleys to Coast, a dywedodd ei phrif weithredwr, Jo Oak, fod ei marwolaeth wedi cael "effaith ddofn" ar y rhai a oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio gyda hi.
Mewn datganiad, dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, Claire Lamerton, fod ei meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Eleanor Barnfield, a'u bod yn "cael cymorth gan swyddogion arbenigol".
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn flaenorol iddyn nhw gael eu galw i Heol Coety am tua 12:44 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad traffig.
Ychwanegodd fod uned ymateb achosion difrifol wedi cyrraedd saith munud ar ôl yr alwad gychwynnol, a bod dau ambiwlans arall wedi cyrraedd am 13:07 a 13:13.
Dywedodd y gwasanaeth fod "cymorth gofal critigol uwch wedi'i ddarparu gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys, a gyrhaeddodd mewn hofrennydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru", cyn i Eleanor gael ei chludo i'r ysbyty ar y ffordd.
Mewn ymateb i "sibrydion gwrthgyferbyniol a chamarweiniol ar gyfryngau cymdeithasol am oedi cyn i ambiwlans gyrraedd", dywedodd llefarydd fod y rhain yn "anwir yn ffeithiol" ac anogodd y cyhoedd i "beidio â dyfalu".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
