Marwolaeth dyn yn 'ddamwain' ar ôl cwympo o uchder ym Malta - cwest

Kieran Thomas HughesFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kieran Hughes tra roedd ar ei wyliau gyda ffrindiau ym Malta ym mis Gorffennaf 2025

GanElen WynaNia TudurBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.

Mae cwest i farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd, a ddisgynnodd o falconi tra roedd ar ei wyliau ym Malta wedi cofnodi marwolaeth ddamweiniol o ganlyniad i fod o dan ddylanwad alcohol a disgyn o uchder.

Roedd Kieran Thomas Hughes o ardal Caernarfon, ar ei wyliau gyda thri o ffrindiau ym Malta pan ddisgynnodd o falconi ei ystafell wely ar chweched llawr gwesty yn Triq Spinola, St Julian's.

Cafodd heddlu Malta eu galw i Westy Cavalieri Art tua 04:15 fore Gwener, 11 Gorffennaf 2025 a bu farw Kieran Hughes yn y fan a'r lle.

Cofnododd crwner cynorthwyol gogledd cymru (dwyrain a chanolbarth), Elizabeth Dudley-Jones iddo farw o ganlyniad i anafiadau niferus wrth ddisgyn o uchder.

Gwesty Cavalieri Art MaltaFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i westy Cavalieri Art ym Malta ar 11 Gorffennaf 2025

Clywodd y gwrandawiad fod Kieran Hughes wedi teithio i Malta gyda thri o'i ffrindiau ar wyliau pum noson.

Ar y noson cyn ei farwolaeth roedden nhw wedi bod yn mwynhau mewn tafarndai, casino a chlwb dawnsio lleol.

Dangosodd adroddiadau post mortem gan awdurdodau Malta fod "lefel sylweddol" o alcohol yn ei waed.

Roedd y pedwar wedi cael bwyd ac wedi yfed alcohol, ac wrth gyrraedd yn ôl i'r gwesty yn oriau mân y bore, clywodd y cwest fod lluniau cylch cyfyng yn dangos Kieran a'i ffrindiau yn cerdded yn simsan a hwyliog drwy goridorau'r gwesty.

Roedd Kieran Hughes yn rhannu ystafell gyda'i gyfaill agos, Osian Ynyr Jones.

Roedd y ddau wedi bod yn ffrindiau ers oedden nhw'n ddwy oed.

Wedi cyrraedd yr ystafell wely aeth y ddau yn syth i'w gwlau.

Roedd lluniau camerau cylch cyfyng o'r ardal gerllaw yn dangos Kieran Hughes yn disgyn o'r balconi bron i 50 munud yn ddiweddarach.

Mae'n debyg fod Kieran Hughes wedi codi o'i wely a cherdded at y balconi ac yna wedi disgyn.

Tua 04:15 daeth aelod o'r cyhoedd i mewn i'r gwesty i ddweud bod dyn yn gorwedd ar y llawr y tu allan.

Galwyd yr heddlu, ac fe ddaethon nhw o hyd i ddyn "mewn pwll o waed," heb ddim ond dillad isaf amdano, ac yn edrych fel pe na bai ganddo "unrhyw arwydd o fywyd".

Clywodd y llys nad oedd Osian Ynyr Jones yn gwybod beth oedd wedi digwydd gan ei fod o'n cysgu'n sownd.

Clywodd y cwest ei bod yn debygol bod Mr Hughes a'i ffrind wedi mynd i gysgu, a bod Mr Hughes, a oedd mewn cyflwr o "feddwdod difrifol", wedi mynd allan – o bosibl oherwydd ei fod yn teimlo'n sâl neu eisiau awyr iach.

Cadarnhaodd y crwner, wrth ystyried yr holl dystiolaeth, nad oedd unrhyw sail i gamau troseddol, ac iddo farw'n ddamweiniol.

'Dyn uchelgeisiol ac arbennig'

Roedd Kieran Hughes yn byw yn Nant Gwynant ac yn gweithio fel peiriannydd meddalawedd ym mharc gwyddoniaeth M-Sparc yn Gaerwen, Ynys Môn.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen, Caernarfon, roedd wedi astudio peirianneg ym Mhrifysgol Bangor, gan ennill gradd dosbarth cyntaf.

Cafodd ei ddisgrifio yn y cwest fel dyn ifanc uchelgeisiol, gyda'i ffrindiau yn cyfeirio ato fel "athrylith".

Roedd ei rieni, ei efaill, Wil, a nifer o'i ffrindiau yn bresennol yn y gwrandawiad.

Mewn datganiad, dywedodd ei dad Alan Hughes fod ganddyn nhw fel teulu "hiraeth a thorcalon amdano drwy'r dydd, bob dydd".

Dywedodd Mr Hughes bod y teulu wedi wynebu "rhwystr ar ôl rhwystr" wrth ddelio â'r awdurdodau ym Malta.

Dywedodd y crwner wrth deulu Kieran Hughes bod ei farwolaeth yn "drychineb llwyr", a'i fod yn "ddyn arbennig".

Dywedodd Elizabeth Dudley-Jones bod delio â'r cwest yma wedi bod yn anodd tu hwnt.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig