Cymraes 19 oed i gystadlu ar gyfres newydd Portrait Artist of the Year

Makenzy Beard
GanIfan Ywain
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd artist ifanc o Abertawe a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y pandemig yn ymddangos yng nghyfres ddiweddaraf Portrait Artist of the Year.

Yn 2020 fe gafodd Makenzy Beard - oedd yn 14 oed ar y pryd - gryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl peintio portread o gymydog.

Ers hynny mae Makenzy, 19, wedi gweld ei gwaith yn cael ei arddangos yn y Royal Academy of Arts yn Llundain, mae hi wedi cynnal arddangosfa ei hun yng Nghaerdydd ac wedi gwerthu darnau am ddegau o filoedd o bunnau.

Nawr fe fydd hi'n cystadlu yn gyfres boblogaidd ar SkyArts yn y gobaith o ennill gwobr ariannol o £10,000 a chomisiwn i baentio'r actor Damian Lewis.

Makenzy Beard yn cystadlu ar raglen Portrait Artist of the YearFfynhonnell y llun, Makenzy Beard

Mae fformat y rhaglen yn gweld nifer artistiaid yn paentio portread o wahanol enwogion yn erbyn y cloc, gyda beirniaid arbenigol wedyn yn dewis y gwaith buddugol ym mhob pennod.

"Am wn i ro'n i just moyn mynd amdani. Dwi wedi gwylio'r rhaglen ac o'n i wastad yn meddwl ei fod yn dipyn o her, felly nes i feddwl 'pam ddim'," meddai.

Ychwanegodd fod cael ei chyflwyno i'r byd celf mewn oed mor ifanc wedi bod yn brofiad "hurt" ac ar brydiau yn "anodd ei ddeall".

"Mae'n anodd weithiau achos yn wahanol i nifer o feysydd ble chi'n gweithio'n galed a gweld canlyniadau o ganlyniad i hynny, mae celf mor oddrychol.

"Chi'n gallu gweithio'n galed ar ddarn o waith, disgyn mewn cariad gydag e, ond os nad oes neb arall yn ei hoffi does dim gwerth iddo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.