Merch fach gafodd ei darganfod yn farw ger y Fenai wedi cael yr enw Ceri

Cafodd corff y babi ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd ddiwedd fis Medi
- Cyhoeddwyd
Mae'r enw Ceri wedi cael ei roi ar ferch fach gafodd ei darganfod yn farw ar lan y Fenai ym Mangor.
Cafodd corff y babi ei ddarganfod ger Ffordd Siliwen toc cyn 17:00 ddydd Sul 27 Medi.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth allai eu helpu i ddod o hyd i'w mam.
Mae gwaith yn parhau gydag arbenigwyr ar draws y wlad i geisio deall beth ddigwyddodd i'r ferch fach, a phwy ydy ei rhieni.
'Penderfynol o gael atebion i Babi Ceri'
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Llinos Davies eu bod yn "parhau i fod yn benderfynol o gael atebion ar gyfer Babi Ceri."
"Mae'r holl ymchwiliadau posibl yn cael eu cyflawni, a 'da ni'n aros am ganlyniadau sawl prawf arbenigol.
"'Da ni'n gobeithio y gallan nhw roi llwybrau newydd i ni edrych arnyn nhw."
Ychwanegodd eu bod yn parhau i apelio ar bobl fyddai wedi mynd a'u cŵn am dro neu gerdded yn rheolaidd yn ardaloedd Caeau Ashley ym Mangor rhwng 30 Awst a 27 Medi i gysylltu â nhw.
Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl anfon unrhyw luniau neu fideos gafodd eu tynnu o amgylch glannau Afon Menai yn Siliwen yn ystod y cyfnod dan sylw i borth digwyddiadau difrifol cyhoeddus Heddlu'r Gogledd.

Mae llinell ffôn arbennig gafodd ei sefydlu i fam y ferch fach gysylltu yn parhau i fod yn agored
Mae'r llinell ffôn arbennig gafodd ei sefydlu i fam Ceri gysylltu neu anfon neges destun yn parhau i fod yn agored.
Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth y fam:
"Efallai nad wyt ti wedi teimlo'n hyderus i ddod ymlaen eto, ond bydda'n ymwybodol bod gynnon ni arbenigwyr yn barod i dy helpu di.
"Waeth beth ydy'r amgylchiadau, cysyllta hefo ni.
"Os ti'n gweld y neges yma, ffonia neu anfona neges destun at 07974 241223.
"Pan fyddi di'n ffonio, byddi di'n siarad yn uniongyrchol hefo arbenigwr hyfforddedig. Eu gwaith nhw ydy gwrando a helpu.
"Does dim rhaid i ti fod ofn siarad. Mi fyddi di'n cael dy drin hefo tosturi, urddas a pharch."
'Parhau i apelio am wybodaeth'
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Davies eu bod yn ddiolchgar i'r gymuned am eu cymorth wrth iddyn nhw barhau i apelio am wybodaeth.
"Er gwaethaf y cyswllt 'da ni wedi'i dderbyn hyd yn hyn, dydan ni ddim wedi gallu adnabod a dod o hyd i fam Ceri eto," meddai.
"Gofynnir i unrhyw un sydd wedi bod hefo pryderon am ddynes neu eneth yn ystod y misoedd diwethaf i ddod ymlaen.
"'Da ni ddim yn gofyn i unrhyw un dybio neu gyhuddo neb.
"Gall rhywbeth sy'n ymddangos yn ddibwys neu sydd hefo esboniad hollol ddiniwed fod yn hanfodol i ddod o hyd i'r gwir ar gyfer Ceri."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref
