Catherine Watkin oedd yn 'cynnau fflam loyw iawn' ym myd cerdd dant wedi marw

- Cyhoeddwyd
Mae Catherine Watkin, a gafodd ei chydnabod am ei chyfraniad nodedig i gerdd dant a cherddoriaeth Gymraeg, wedi marw yn 96 oed.
Cafodd ei geni yn Rhydymain, Meirionnydd, ar 19 Mai 1930, ac enillodd radd mewn cerddoriaeth o Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd yn 1952.
Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni, cyn gweithio yn Ysgol y Preseli ac yn ddiweddarach fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Gyda'i dawn gerddorol a'i gallu cydnabyddedig fel gosodwr cerdd dant, gwnaeth gyfraniad nodedig i gerddoriaeth draddodiadol Cymru, gan ysbrydoli cannoedd o bobl ifanc i ymddiddori yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Bu'n feirniad mewn eisteddfodau cenedlaethol ac yn aelod o sawl pwyllgor cerdd a cherdd dant.
Bu hefyd yn gadeirydd Panel Canolog Cerdd Dant yr Eisteddfod Genedlaethol am chwe blynedd, yn ogystal â gwasanaethu fel cadeirydd a llywydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.
Yn 2001, derbyniodd Fedal Syr T H Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, i gydnabod ei gwasanaeth gwirfoddol a'i chyfraniad dros nifer o flynyddoedd at hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ymhlith pobl ifanc.

Catherine Watkin a'i theulu
'Wedi arwain ar hyd a lled Cymru'
Roedd dylanwad Mrs Watkin yn amlwg yn ei gwaith fel athrawes ac yn ei chyfraniad i gerdd dant. Roedd yn annog disgyblion i ddatblygu eu doniau cerddorol ac i gymryd rhan mewn cystadlaethau ledled Cymru
Sefydlodd Catherine Watkin barti Hogie'r Berfeddwlad, gan rannu ei harbenigedd mewn cerdd dant a cherddoriaeth werin Gymraeg gyda'r aelodau. Roedd ei dawn gerddorol yn cyfrannu at sain gyfoethog y parti, ac roedd ganddi berthynas agos ag aelodau hen a newydd.
Dywedodd Prysor Williams, o barti Hogie'r Berfeddwlad, bod y parti yn "hynod o drist" o glywed y newyddion.
"Rydyn ni wedi cael blynyddoedd lawer o fwynhad a hwyl yng nghwmni Mrs Watkin, a phrofiadau fydd yn aros gyda ni am byth. Roedd hi'n ddynes arbennig iawn, iawn, ac rydyn ni'n teimlo'n ffodus ein bod wedi cael bod yn un o'r llu o bartïon y mae hi wedi gweithio gyda nhw.
"Mae hi wedi arwain ar hyd a lled Cymru ac wedi gadael ei marc ar hyd a lled y wlad, yn ogystal ag arnon ni. Byddwn ni'n cofio amdani gyda llawer o atgofion melys, ac mae'n chwithig iawn meddwl ei bod hi wedi mynd."

Catherine Watkin gyda pharti Hogie'r Berfeddwlad ar ei phen-blwydd yn 96 oed
Yn ogystal â'i gwaith ym myd cerddoriaeth, bu Mrs Watkin yn Ynad Heddwch ac yn cymryd rhan weithgar ym mywyd diwylliannol y cymunedau y bu'n byw ynddynt.
Priododd â'r Parchedig John Watkin yn 1961. Cafodd y cwpl ddau fab, Emyr a Gwynedd, ym Meirionnydd, ac yn ddiweddarach ferch, Mari, ar ôl symud i Landysul.

Catherine Watkin gyda'i gŵr, y Parchedig John Watkin
Wrth dalu teyrnged i Catherine Watkin, dywedodd Gwennan Gibbard ei bod yn "berson arbennig iawn, yn un mor hynod ddawnus ac mor hynod ddiymhongar".
"Mae ei chyfraniad i'n diwylliant cerddorol cynhenid ni yn enfawr a bu'n arloesi ym maes cerdd dant ers degawdau," meddai.
"Roedd hi'n un o'r rhai cyntaf i osod a hyfforddi côr cymysg cerdd dant a bu'n gosod ac yn hyfforddi gymaint o berfformwyr blaengar a ddaeth i'r brig yn y maes, a hynny mewn sawl rhan o Gymru."
Ychwanegodd fod Mrs Watkin wedi ymroi i fywyd diwylliannol pob ardal lle bu'n byw, gan "gynnau rhyw fflam loyw iawn" o ran gweithgarwch cerddorol traddodiadol sydd yn parhau yno heddiw.
"Un a weithiodd yn ddiwyd a thawel oedd Catherine a hynny gyda phenderfyniad tawel ac anwyldeb hwyliog.
"Bydd colled mawr ar ei hôl," meddai.

Bu Catherine Watkin yn rhannu ei dawn gerddorol ar draws y cenedlaethau, gan gynnwys gyda'i hwyres, Elain Gwynedd
Ymhlith ei disgyblion roedd Eryl Aynsley, a fu'n canmol dylanwad Catherine Watkin ar ei datblygiad cerddorol pan oedd yn ddisgybl iddi yn Ysgol Ramadeg Dinbych.
Wrth sôn am ei chyn-athrawes, dywedodd Eryl: "Hi wnaeth fy nysgu i ganu cerdd dant a hi fu'n trefnu am flynyddoedd yr holl ddarnau roeddwn i'n eu canu."
Ychwanegodd fod Mrs Watkin hefyd wedi dysgu iddi werthfawrogi cerddoriaeth glasurol a'i annog i gystadlu mewn eisteddfodau ledled Cymru.
Y Brifwyl yn diolch am oes o gyfraniad
Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Trist oedd clywed am farwolaeth Catherine Watkin, un o hoelion wyth y byd cerdd dant heddiw.
"Bu'n gadeirydd ein panel cerdd dant canolog am flynyddoedd lawer a chafodd ei hanrhydeddu gyda Medal Syr TH Parry-Williams i ddiolch iddi am ei chyfraniad helaeth ar lawr gwlad.
"Rydyn ni'n meddwl yn arw am ei theulu a'i ffrindiau oll heddiw, ac yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at bawb ac yn diolch iddi am oes o gyfraniad ac ymroddiad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.