Rhybudd bod 140,000 apwyntiad llygaid angen adolygiad, a dim ond 65 meddyg ar gael

Prawf llygaidFfynhonnell y llun, Getty Images
GanIolo Cheung
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gallai mwy o gleifion yng Nghymru wynebu "risg sylweddol" o farwolaethau canser am nad ydy apwyntiadau llygad yn cael eu dilyn, yn ôl crwner.

Fe wnaeth ystadegau diweddar ddangos bod tua 140,000 o apwyntiadau offthalmolegol dilynol yn aros i gael eu hadolygu yng Nghymru, a dim ond 65 offthalmolegydd ymgynghorol sydd ar gael.

Daw hynny yn dilyn cwest i farwolaeth dyn 70 oed yng Ngwent, ar ôl i brawf llygad arferol ddod o hyd i felanoma allai fod wedi cael ei ganfod chwe mis ynghynt.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "hanfodol bod gwersi'n cael eu dysgu o'r achos trasig hwn, a gafodd ei achosi gan fethiannau annerbyniol wrth reoli ymgynghoriadau".

Bu farw Alexander McDonald yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân ym mis Tachwedd y llynedd, o ganlyniad i felanoma ambilennol (choroidal melanoma).

Clywodd cwest i'w farwolaeth ei fod wedi mynychu apwyntiad offthalmolegol brys ym mis Mehefin 2022 ar ôl apwyntiad llygad arferol, a bod pryderon wedi codi yn dilyn y sgan hwnnw.

Ond er i ymgynghorydd benderfynu bod angen iddo gael ei adolygu eto mewn chwe mis, ni chafodd Mr McDonald erioed wybod am unrhyw apwyntiad dilynol.

Ar ôl dychwelyd am brawf llygad arferol flwyddyn yn ddiweddarach, ym Mehefin 2023, cafodd sganiau pellach eu gwneud a wnaeth ddod o hyd i'r melanoma.

Clywodd crwner ardal Gwent, Rose Donald, y byddai'r melanoma wedi cael ei ganfod chwe mis ynghynt petai Mr McDonald wedi cael yr apwyntiad dilynol y dylai fod wedi cael, ac y byddai'r driniaeth wedi dechrau'n syth.

Yn dilyn yr "oedi i'w ddiagnosis", clywodd y cwest ei fod wedi dechrau triniaeth ar y tiwmor oedd ganddo, ond fod y canser wedyn wedi ymledu i'w iau gan arwain at ei farwolaeth.

'Risg bod cleifion eraill hefyd yn profi oedi'

Wrth amlinellu ei phryderon, dywedodd y Crwner fod "risg y gallai rhagor o farwolaethau ddigwydd os nad oes camau'n cael eu cymryd".

Mewn adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol, sydd wedi cael ei anfon at adran iechyd Llywodraeth Cymru, dywedodd Ms Farmer fod "oedi sylweddol o ran apwyntiadau offthalmolegol dilynol ar draws Cymru".

Gyda 140,000 o apwyntiadau offthalmolegol yn aros i gael eu hadolygu a dim ond 65 offthalmolegydd ymgynghorol, doedd y capasiti presennol "ddim yn ddigon i ddiwallu'r galw".

Cyfeiriodd y Crwner hefyd at fethiannau i adolygu cleifion sydd angen monitro cyson, gan ddweud bod diffyg trosolwg cenedlaethol ar y gwasanaeth - sy'n golygu y gallai cleifion wynebu oedi hir i gael eu gweld.

"Mae'r achos yma yn dangos effaith peidio cael apwyntiadau dilynol digon buan," ychwanegodd.

"Gallai oedi tebyg beri risg bod cleifion eraill hefyd yn profi oedi wrth dderbyn diagnosis canser, ac felly marwolaeth."

Prawf llygaidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n hanfodol bod gwersi'n cael eu dysgu o'r achos trasig hwn, a gafodd ei achosi gan fethiannau annerbyniol wrth reoli ymgynghoriadau, ac mae'n meddyliau ni gyda theulu Alexander McDonald.

"Dylai pob bwrdd iechyd fod â gweithdrefnau safonol mewn lle i ymateb i'r materion gweithredol penodol a godwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys digon o gapasiti i gwrdd â'r galw am apwyntiadau dilynol, a sicrhau bod cleifion sydd angen monitro cyson yn cael eu gweld o fewn yr amserlenni clinigol y bwriadwyd.

"Fel llywodraeth fe fyddwn ni'n gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu perfformiad."

Dywedodd llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, Mohamed Elalfy, fod y gwasanaeth yng Nghymru'n wynebu heriau hir dymor gan gynnwys "hen adeiladau, prinder yn y gweithlu ac isadeiledd cyfrifiadurol gwael".

"Mae'r rhain i gyd yn rhesymau allweddol pam bod rhai cleifion yn aml yn wynebu oedi annerbyniol," meddai.

"Mae dros 150,000 o gleifion sy'n wynebu risg o golli eu golwg yn aros am apwyntiad offthalmolegol, gyda dros hanner eisoes wedi methu'r dyddiad targed ar gyfer eu triniaeth."

Ychwanegodd bod strategaeth glinigol genedlaethol wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2024, oedd yn argymell newidiadau, a bod y Coleg eisiau gweld y strategaeth honno'n cael ei gweithredu ar frys.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig