Y bechgyn ysgol telepathig o Gapel Curig

Ieuan (chwith) a Glyn Jones (dde) – yr arddegwyr 'goruwchnaturiol' o Eryri
- Cyhoeddwyd
70 mlynedd yn ôl i eleni, fe lwyddodd dau fachgen ysgol o Gapel Curig, Eryri berswadio darlithwyr prifysgol ac ymchwilwyr seicolegol ledled y Deyrnas Unedig eu bod nhw'n gallu darllen meddyliau ei gilydd.
Roedd Glyn a Ieuan Jones yn gefndryd 13 mlwydd oed a oedd yn siarad Cymraeg, ac wedi cymryd rhan mewn arbrofion a gafodd eu cynnal gan Dr Samuel Soal – mathemategydd uchel ei barch – yng nghanol y 50au.
Cafodd y bechgyn ysgol o lethrau'r Wyddfa eu defnyddio gan Soal, oedd yn arbenigo mewn ymchwil telepathi, mewn cyfres o arbrofion rhwng 1955 a 1959, gan dderbyn cryn dipyn o sylw gan y wasg.
Cafodd Glyn a Ieuan eu galw'n The Boy Wizards of Snowdonia gan y papurau newyddion, a'u gwahodd i ddangos eu doniau rhyfeddol ar raglen Panorama.
Felly a oedd y bechgyn wir yn gallu darllen meddyliau ei gilydd? Neu a oedden nhw'n twyllo pawb?
A sut ddaeth yr arddegwyr o Gapel Curig i fod ynghanol un o astudiaethau telepathi mwyaf adnabyddus ei gyfnod?
Dr Soal a'i ymchwil
Roedd Dr Samuel Soal yn uwch ddarlithydd Mathemateg yng Ngholeg Queen Mary, Prifysgol Llundain, ac wedi bod yn dysgu yno am ddeugain mlynedd a chael gyrfa academaidd disglair.
Ond roedd hefyd yn diddori'n fawr ym maes paraseicoleg – sef ymchwil i ffenomenau goruwchnaturiol fel ESP, cyfryngu (mediumship) a telekinesis.
Roedd Soal yn aelod blaenllaw o'r Gymdeithas ar Gyfer Ymchwil Seicicaidd (y Society for Psychical Research) a sefydlwyd yn Kensington yn 1882. Gyda nawdd a chymorth ariannol y gymdeithas, roedd Soal wrthi'n ceisio profi'r hyn sy'n cael ei alw'n extra-sensory perception neu ESP – hynny yw, os ydy bodau dynol yn medru darllen meddyliau ei gilydd.
Roedd Dr Soal wedi bod yn ymchwilio i ffenomen honedig telepathi ers 1940, gan gynnal miloedd o arbrofion ar draws Ewrop gyda nifer o bobl roedd yn credu eu bod ag ESP. Derbyniodd radd DsC er anrhydedd gan Brifysgol Llundain yn 1945 ar gyfer ei ymchwil.
Cyhoeddodd Soal grynodeb o'i arbrofion mewn llyfr o'r enw Modern Experiments in Telepathy yn 1954.
Cafodd y llyfr hwn dipyn o sylw yn Ewrop ac America, ac roedd llawer o wyddonwyr ac ymchwilwyr academaidd yn credu damcaniaethau Soal gair am air.
Arbrofi gyda dyfalu cardiau
Y prif ddull oedd gan Soal o brofi 'gallu telepathig' rhywun oedd i ddefnyddio pecyn o 25 o gardiau yn cynnwys pump math o gardiau gyda lluniau o anifeiliaid arnynt, ac i gael un person i ddal y cardiau ar un ochr o'r stafell (y 'trosglwyddwr') – ac i gael person arall (y 'dyfalwr') i ddyfalu pa un o'r cardiau roedd y llall yn ei ddal.
Roedd y cardiau'n cael eu shyfflo'n drylwyr cyn pob dyfaliad.
Roedd Soal wedi bod yn cynnal yr arbrofion dyfalu cardiau hyn gyda llawer o fyfyrwyr prifysgol o Lundain, ac heb gael llawer o lwyddiant. Erbyn 1955, roedd Soal yn credu'r ddamcaniaeth fod plant o ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o feddu ar allu telepathig.

Y cardiau roedd Dr Soal yn defnyddio yn ei arbrofion telepathi
Arbrofion yn Eryri
Ym mis Awst 1955, roedd Dr Samuel George Soal ar wyliau yng Nghapel Curig, lle'r oedd wedi bod yn treulio ei wyliau haf ers degawdau.
Penderfynodd Soal gynnal arbrofion telepathi gan ddefnyddio dau fachgen 13 mlwydd oed lleol – Glyn a Ieuan Jones. Roedden nhw'n gefndryd a oedd yn perthyn i'r teulu roedd Soal wedi bod yn lletya gyda nhw dros yr haf am flynyddoedd, ac yn nabod y teulu'n dda.
Roedd y bechgyn yn llwyddo'n anhygoel yn yr arbrofion dyfalu cardiau a gynhaliwyd gan Soal yng nghartref teulu Ieuan – gyda Glyn yn dyfalu pa gardyn roedd Ieuan yn edrych arno, â siwtcês fawr yn cael ei defnyddio fel sgrîn yng nghanol bwrdd i guddio'r cardiau rhag y bechgyn.

Capel Curig
Ar 12 Awst, 1955 fe lwyddodd Glyn i ddyfalu 56 allan o 100 o gardiau'n gywir. Y tebygolrwydd mathemategol o rywun yn dyfalu cerdyn yn gywir o'r un fath o becyn o gardiau yw 1 mewn 5, neu 20 allan o 100 dyfaliad felly.
Yn fathemategol, roedd cael sgôr mor uchel â hyn bron yn amhosib.
Penderfynodd Soal ymestyn yr arbrofion, gan beidio dangos y cardiau rhagor wrth Ieuan, fel bod Glyn yn dyfalu'r cardiau heb ddefnyddio Ieuan fel 'trosglwyddwr'. Yn y bôn, roedd yn ceisio profi os oedd Glyn yn glirweledydd (clairvoyant), hynny yw, ei fod yn medru dyfalu'r cerdiau ei hunan heb ddefnyddio Ieuan fel 'trosglwyddwr' mewn modd telepathig.
Wnaeth Glyn sgorio 52 dyfaliad cywir allan o 125 dyfaliad gyda'r dull gwahanol hwn o arbrofi – ffaith a syfrdanodd Soal. Y gallu mathemategol fod y dyfaliadau hyn o ganlyniad i hap a damwain oedd 1 mewn 33 miliwn. Roedd Soal a'i gydweithiwr yn sicr fod Ieuan ddim yn dangos unrhyw arwyddion i Glyn er mwyn twyllo'r ymchwilwyr.
Felly, roedd Soal yn hollol grediniol fod gan y bechgyn wir alluoedd rhyfeddol – a bod y ddau ohonyn nhw'n delepathig.
Arbrofi yn Llundain
Ym mis Ionawr 1956, cafodd Glyn a Ieuan eu gwahodd i Lundain gyda'u teuluoedd er mwyn iddynt allu cael eu harsylwi o dan amgylchiadau fwy ffurfiol yng nghanolfan ymchwil y Society for Psychical Research yn Kensington.
Cynhaliwyd arbrofion tebyg â chardiau gyda'r bechgyn o flaen cynulleidfa o wyddonwyr nodedig – gan gynnwys yr Athro GA Mace, pennaeth yr adran seicoleg yng Ngholeg Birkbeck, Prifysgol Llundain, a Dr RH Thouless, seicolegydd o Brifysgol Caergrawnt.
Parhaodd Glyn i sgorio'n uchel tu hwnt, gan gynnwys sgôr o 18 allan o 25 mewn un arbrawf. Yn gyfan gwbl, llwyddodd Glyn i sgorio 631 o ddyfaliadau cywir allan o 1,700 a gafodd eu nodi yn ystod yr arbrofion hyn yn Llundain.

Aelodau'r Gymdeithas ar gyfer Ymchwil Seicicaidd yn arbrofi gyda chardiau yn y 40au (gyda Dr Soal yn y canol)
'The Boy Wizards of Snowdonia'
Ar ôl i'r bechgyn syfrdanu ymchwilwyr yn Llundain, cawson nhw gryn dipyn o sylw gan y wasg – gan bapurau newyddion ar hyd a lled y Deyrnas Unedig fel y Guardian, y London Evening Standard, y Western Mail, y Manchester Evening News a'r Liverpool Daily Post.
Cafodd y bechgyn eu disgrifio fel The Boy Wizards of Snowdonia.
Dros y misoedd nesaf, gwahoddodd Dr Soal heidiau o wyddonwyr, mathemategwyr a seicolegwyr – y rhan fwyaf ohonynt yn ddarlithwyr prifysgol – o ar draws y Deyrnas Unedig i wylio'r bechgyn yn arddangos eu doniau rhyfeddol.
Dyma Soal yn dechrau mynd â Glyn a Ieuan i'r awyr agored i arbrofi gyda nhw ar lethrau'r Wyddfa, ac ar gaeau chwarae ysgol fonedd yn Llundain, gyda'r bechgyn 100 troedfedd ar wahân.
Roedd y bechgyn yn dangos yr un gallu i ddarllen meddyliau ei gilydd o dan yr amgylchiadau newydd, gyda'r un fath o arbrawf dyfalu cardiau – heb unrhyw arwyddion eu bod nhw'n arwyddio i'w gilydd.

Ieuan (chwith) a Glyn (dde) gyda thad Glyn, Richard ar gaeau chwarae ysgol St. Paul's yn Llundain ym mis Mai 1956
Amheuaeth
Fodd bynnag, wrth i'r bechgyn ddod yn enwog am eu doniau rhyfeddol – roedd sawl yn amau, gan gynnwys Rita Soal, gwraig Dr Soal ei hun, a oedd yn gyndyn fod y bechgyn yn twyllo'i gŵr rywsut.
Un arall oedd yn amau'n fawr oedd y seicolegydd Dr Christopher Scott, a oedd yn sicr fod y bechgyn yn defnyddio chwiban uwchsonig a oedd yn cael ei guddio a'i drin gan un ohonynt a'i ddefnyddio fel signal i'r llall ynglŷn â pha gerdyn i ddyfalu.
Damcaniaeth Scott oedd fod y chwiban methu cael ei glywed gan yr ymchwilwyr gan eu bod nhw i gyd dros 50, ac eu bod methu clywed amledd uchel dros ben y chwiban o ganlyniad i ddirywiad clyw naturiol.
Llyfr yn adrodd hanes y bechgyn
Cafodd y consuriwr Jack Salvin ei ofyn i arsylwi'r bechgyn wrthi. Roedd yn gadeirydd 'Pwyllgor Ocwlt' y Cylch Hudol, ac yn arbenigwr ar driciau darllen meddyliau.
Ar ôl gwylio'r bechgyn yn gwneud un o arbrofion dyfalu Dr Soal yn Llundain, dywedodd: "I am completely satisfied that no code or trickery took place either on the part of the boys and, in fact, that code or trickery in the experimental conditions I witnessed was impossible."
Cyhoeddwyd llyfr dadleuol Dr Soal, The Mind Readers yn Ionawr 1959 yn sôn am allu 'goruwchnaturiol' Glyn a Ieuan. Roedd y llyfr yn llwyddiant mawr, ac ar restrau 'bestseller' ymhobman.
Bu'r llyfr yn destun dadlau ffyrnig yn y wasg, gyda nifer yn canmol yr ymchwil ac yn ei dderbyn fel tystiolaeth gref ar gyfer telepathi, a nifer yn amau'r holl beth fel nonsens llwyr.
Methiant i'r bechgyn ar Panorama
Ar 27 Ebrill, 1959, ymddangosodd Glyn a Ieuan ar raglen deledu Panorama y BBC.
Cynhaliwyd yr un prawf dyfalu cardiau ag oedd y bechgyn wedi bod yn gwneud ers haf 1955 – gyda'r cyflwynydd Richard Dimbleby yn arwain y tro hwn.
Ond y tro hwn, ni lwyddodd Glyn i sgorio uwchben y cyfartaledd ar gyfer dyfalu, gan sgorio yn is na'r disgwyl cyfartalog o ddyfaliadau cywir – gan ddyfalu 4 allan o 25 o gerdiau'n gywir.
Roedd nifer yn credu fod hyn yn arwydd pendant fod y bechgyn wedi twyllo Dr Soal, gan roedd y bechgyn methu dibynnu ar ddulliau signalu wrth iddyn nhw gael eu gwylio gan filiynau o wylwyr ar raglen deledu byw.
Fodd bynnag, roedd y bechgyn a Soal yn honni fod y pwysau o wneud arbrawf o'r math yma ar deledu byw wedi amharu ar bwerau telepathig y bechgyn.

Glyn (chwith) a Ieuan (dde) yn cael eu profi ar Panorama
Felly a oedd Glyn a Ieuan wir yn gallu darllen meddyliau ei gilydd? Neu a oeddent rhywsut wedi twyllo darlithydd prifysgol a llu o ymchwilwyr seicolegol a gwyddonwyr adnabyddus?
Yn dilyn methiant y bechgyn ar Panorama, cyhoeddwyd sawl erthygl ddamnïol gan arbenigwyr yn datgan fod y bechgyn yn sicr wedi defnyddio chwiban uwchsonig trwy gydol arbrofion Dr Soal. Ac yn 1960, datgelwyd fod Soal wedi ffugio nifer o sgoriau ei arbrofion telepathi yn y 40au a'r 50au, cyn iddo arbrofi gyda Glyn a Ieuan.
Yn y blynyddoedd wedyn, daeth nifer eraill i'r fei i fwrw amheuaeth ar holl waith paraseicolegol Dr Soal gan gyhuddo'r ymchwilydd o ffugio data ar sawl achlysur arall yn ystod ei ddegawdau o ymchwil seicicaidd.
Symudodd Soal gyda'i wraig i fyw yng Nghaernarfon yn 1959, lle bu farw yn 1975 yn 85 oed.
Cafodd y Glyn a Ieuan Jones eu cyfweld yn 2002, ac roeddent yn taeru eu bod nhw heb dwyllo Dr Soal, a bod eu gallu telepathig yn un go iawn. Roedd Glyn yn honni ei fod yn parhau i allu dyfalu 7 allan o 10 o gardiau'n gywir gyda'i gilydd.
Bu farw Glyn Jones ychydig o flynyddoedd wedi hynny. Mae Ieuan Jones, sydd bellach yn 84 oed, yn byw yn Llandudno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
