Metallica yn rhoi £20,000 i fanc bwyd Caerdydd oedd â 'silffoedd gwag'

James Hetfield o'r band Metallica yn perfformioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r band Metallica wedi rhoi £20,000 i Fanc Bwyd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r band Metallica wedi rhoi £20,000 i fanc bwyd yng Nghaerdydd, sy'n ddigon i brynu 9,000 o brydau bwyd i bobl mewn angen.

Fe wnaeth y band Americanaidd roi'r arian i'r elusen Banc Bwyd Caerdydd cyn eu cyngerdd yn Stadiwm Principality nos Sul.

Daeth y rhodd drwy elusen swyddogol y band, All Within My Hands.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Banc Bwyd Caerdydd, Rachel Briggs eu bod wedi derbyn ebost gan y band yn rhoi sicrwydd nad sgam mohono a'u bod eisiau rhoi £20,000 iddyn nhw.

Daw ar ôl i'r banc bwyd apelio am roddion ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach yn y mis, yn dweud eu bod yn "bryderus iawn" oherwydd nad oedden nhw erioed wedi gweld y "warws mor wag".

"Mae'n swm anhygoel o arian a fydd yn gwneud gymaint o wahaniaeth ac yn ailgyflenwi ein silffoedd gwag," meddai Rachel.

Rachel Biggs
Disgrifiad o’r llun,

Mae maint y galw am wasanaeth y banc bwyd yn gyson, meddai Rachel Briggs, ond mae gostyngiad o ran rhoddion bwyd yn arwain ar silffoedd gwag

Mae Banc Bwyd Caerdydd yn cefnogi 20,000 o bobl y flwyddyn, gydag wyth canolfan ledled y ddinas.

Roedd traean o'r rhai a fwydodd yr elusen y llynedd yn blant.

Fe wnaeth Taylor Swift gyfraniad i Fanc Bwyd Caerdydd yn 2024 yn dilyn ei pherfformiadau yn Stadiwm Principality – un o nifer o roddion a wnaeth i fanciau bwyd yn ystod ei thaith ryngwladol 'Eras​'.

Dywedodd Banc Bwyd Caerdydd mai'r rhodd gan Metallica yw'r un mwyaf y maen nhw wedi'u derbyn gan fand neud person enwog.

Mae Rachel yn disgwyl y gost o redeg yr elusen eleni i gyrraedd £700,000 a'u bod wedi derbyn llai o roddion er bod y galw'r un mor fawr.

"Mae'r nifer o bobl sydd ein hangen ni'r un fath a blwyddyn ddiwethaf, ond mae ein rhoddion bwyd wedi gostwng 27% a 'dan ni wedi gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y silffoedd gwag," meddai.

"Pan fydd yr arian yma yn cyrraedd ein cyfrif banc, byddwn ni'n gallu gwneud archeb fawr ac ailgyflenwi stoc a gwybod y bydd gennym gefnogaeth y gymuned am weddill y flwyddyn.

"Mae costau byw yn effeithio arnyn ni gyd, mae hefyd yn effeithio ar ein costau rhedeg a 'dan ni'n gwybod bod ein rhoddwyr yn hael, ond gwybod bod costau byw yn pwyso arnyn nhw hefyd."

Un o wirfoddolwyr Banc Bwyd Caerdydd, Paul Twyman
Disgrifiad o’r llun,

Un o wirfoddolwyr Banc Bwyd Caerdydd, Paul Twyman

Lansiodd Metallica a'u tîm rheoli'r sefydliad All Within My Hands yn 2017 i roi cyfran o'u gwerthiant tocynnau i elusennau lleol a chenedlaethol.

Ers hynny, mae wedi cefnogi banciau bwyd ledled y byd.

Fel rhan o waith y sefydliad, bu'r band hefyd yn cydweithio â Gwasanaeth Gwaed Cymru cyn eu gig nos Sul i annog cefnogwyr i roi gwaed a phlasma.

Mae Eddie Cawston yn gwirfoddoli yn y banc bwyd ac roedd ganddo docynnau ar gyfer y cyngerdd yn Stadiwm Principality.

"Mae'n dangos bod pobl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth yn barod i wneud gwahaniaeth," meddai.

"Byddan nhw'n gwneud swm aruthrol o arian o'r daith, ac maen nhw'n rhoi i ni ac i fanciau bwyd eraill wrth i'r daith fynd ymlaen. Mae'n wych."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.