'Dim byd gwell na bocsio gartref' - Price cyn ei gornest yng Nghymru

Roedd hi'n frwydr galed i Price yn erbyn Stephanie Pineiro Aquino wrth amddiffyn ei beltiau yn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae'r pencampwr byd Lauren Price wedi dweud ei bod eisiau rhoi "noson i'w chofio" i'w chefnogwyr yng Nghymru, wrth iddi geisio amddiffyn ei theitlau pwysau welter unedig yn erbyn Michaela Kotaskova ar ddydd Gwener 20 Tachwedd.
Mae'r Gymraes yn dychwelyd adref ar gyfer yr ornest yn Arena Utilita yng Nghaerdydd, gyda'r digwyddiad i'w ddarlledu'n fyw ar BBC Two a BBC iPlayer.
Mae'r ornest yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ag y gwnaeth Price amddiffyn ei beltiau IBF, WBA a WBC ym mis Ebrill 2025, yn erbyn Stephanie Pineiro Aquino.
Dywedodd y cyn-bencampwr Olympaidd 32 oed o'r Bargoed yng Nghwm Rhymni "nad oes unrhyw beth yn well na bocsio gartref yng Nghymru".
Lauren Price yn amddiffyn ei theitl fel pencampwr y byd
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
Y bocsiwr Lauren Price yn Bencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2025
Bocsio: Buddugoliaeth arall i'r bencampwraig Lauren Price
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024
"Mae'r awyrgylch yng Nghaerdydd bob amser yn anhygoel, a galla i ddim aros i gerdded allan o flaen fy nghefnogwyr cartref eto," meddai Price.
"Dwi wedi gweithio yn eithriadol o galed i gyrraedd y safle yma a dwi ddim am ildio unrhyw beth.
"Mae Kotaskova yn wrthwynebydd caled a phrofiadol sydd wedi cystadlu ar lefel byd, ond dwi'n credu mai fi ydi'r bocsiwr pwysau welter gorau ar y blaned, ac ar 20 Tachwedd dwi'n mynd i ddangos hynny.
"Dwi eisiau rhoi perfformiad mawr a rhoi noson arall i'w chofio i bawb yng Nghymru."
Kotaskova eisiau cipio teitlau'r Gymraes
Mae ei gwrthwynebydd Tsiecaidd Kotaskova, 34, yn dal y teitl WBF ar hyn o bryd, a dim ond unwaith mae hi wedi cael ei threchu mewn pymtheg gornest broffesiynol.
Daeth y golled honno ar bwyntiau yn erbyn y pencampwr byd unedig presennol, Chantelle Cameron ym mis Ebrill 2026.
Dywedodd Kotaskova bod ganddi "lawer o barch tuag at Lauren a'r cyfan y mae hi wedi ei gyflawni, ond dwi'n dod i Gaerdydd i gipio ei theitlau," meddai
"Dwi eisoes wedi dangos y galla i gystadlu yn erbyn y goreuon yn y byd.
"Pwysau welter ydi'r un naturiol i fi, a dwi'n ddi-guro ar y pwysau yma ac yn credu mai dyma fy amser i.
"Dwi'n gwybod y bydda i'n cerdded i mewn i arena yn llawn o gefnogwyr Lauren, ond mae hynny'n rhoi mwy o ysgogiad i fi.
"Dwi'n barod i greu hanes ar 20 Tachwedd."

Daeth Price yn Bencampwr Pwysau Welter Unedig y byd ym mis Mawrth 2025
Dywedodd hyrwyddwr Price, Ben Shalom:
"Mae Lauren Price yn un o'r enwau mwyaf yn y byd bocsio Prydeinig, ac mae yna rywbeth arbennig ynglŷn â'i gweld mewn gornest gartref.
"Mae hi eisoes wedi creu eiliadau cofiadwy yng Nghaerdydd, ac rydyn ni wrth ein boddau yn dod â hi yn ôl ar gyfer gornest fawr arall, fydd i'w gweld yn fyw ar y BBC.
"Mae Kotaskova yn focsiwr da ac mi fydd yn wrthwynebydd caled, ond mae gan Lauren uchelgeisiau mawr, ac mae hi'n gwybod bod yn rhaid iddi barhau i ennill a rhoi perfformiadau mawr er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chofio."
Dywedodd Graham Davies, golygydd Chwaraeon BBC Cymru:
"Mae Lauren Price yn un o sêr y byd bocsio Prydeinig, ac rydyn ni'n falch iawn o ddod â'i gornest yng Nghaerdydd i gynulleidfaoedd ar draws y DU.
"Mae siwrne Lauren o bencampwr Olympaidd i bencampwr byd unedig wedi bod yn rhyfeddol, ac mae'r amddiffyniad teitl diweddara yma yn debygol o fod yn bennod gyffrous arall.
"Mae dod â bocsio o safon byd yn fyw ar BBC Two a BBC iPlayer yn rhoi cyfle i gefnogwyr ymhobman ddilyn y digwyddiad a mwynhau noson fawr arall o focsio o Gaerdydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.