Dyn o'r Ariannin am ddod i Gymru i elwa o arferion dysgu da

Mae Ricardo Evans yn edrych mlaen i ddod i dreulio mis yng Nghymru i ddysgu mwy am yr iaith ac addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Batagonia yn gobeithio "gwireddu breuddwyd" a dod i Gymru i ddysgu mwy am yr iaith a'r diwylliant.
Mae Ricardo Evans, sy'n hyfforddi i fod yn athro Cymraeg yn y Gaiman, eisoes wedi dechrau cwrs Cymraeg i oedolion yno er mwyn codi arian i ddod i Gymru.
Mae o hefyd yn chwilio am gymorth ariannol i helpu i dalu am ei daith i Gymru y flwyddyn nesaf.
"Dwi isio mynd i Gymru i weld sut 'dach chi'n dysgu yno yn y lefel meithrin, cynradd ac uwchradd a wedyn dod nôl yma (y Wladfa) i ddatblygu.
"Hoffwn i fynd i Gymru hefyd i gryfhau'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Ariannin," meddai.
'Gwireddu breuddwyd'
Mi wnaeth Ricardo ddysgu i fod yn athro Cymraeg er mwyn "trosglwyddo'r iaith Gymraeg i'r genhedlaeth nesaf," meddai ar raglen y Post Prynhawn.
"Mae'r iaith a'r diwylliant yn bwysig iawn i fi fel disgynnydd o'r Cymry cyntaf i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw yn fy nghymuned.
"Ar ôl 160 o flynyddoedd mae'r iaith yn dal yn fyw, a'r diwylliant yn dal yn fyw yma, yn y Wladfa."
Er mai Sbaeneg yw'r famiaith, mae Ricardo yn defnyddio'r Gymraeg yn aml yn y Wladfa wrth weithio yng nghapel Bethel ble mae'n croesawu ymwelwyr o'r Ariannin neu dramor.
"Dan ni'n siarad Cymraeg yn y gymuned Gymraeg. Os wyt ti'n mynd i'r côr Cymraeg yma, dach chi'n siarad yr iaith, neu ti'n mynd i'r ysgol, neu yn y cwrs hyfforddi athrawon lle dwi'n dysgu. Dwi'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn ddyddiol."
Y gobaith drwy hyfforddi athrawon ydy i "blannu hedyn, ym mhob ysgol yn yr ardal, i alluogi pawb siarad Cymraeg".
Ysgolion Sbaeneg yw nifer o ysgolion y Wladfa ond mae yna ysgolion Cymraeg yno hefyd.
"Mae gennym ni ysgol Gymraeg y Gaiman, mae'r ysgol feithrin a'r ysgol gynradd yn yr un adeilad, a wedyn Ysgol Uwchradd Camwy, lle ddechreuais i ddysgu Cymraeg tua 10 mlynedd yn ôl, a hefyd Ysgol Aliwen."
'Cyfle bythgofiadwy' i fardd o'r Wladfa
- Cyhoeddwyd19 Ebrill
Eisteddfod y Wladfa yn dathlu 160 mlynedd ers glaniad y Mimosa
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2025
Y Wladfa: Angen 'codi hyder' siaradwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2024
"Dwi'n dechrau crio! Dwi eisiau mynd nôl i Gymru achos yn y flwyddyn 2018 ges i gyfle i fynd i Gymru - mi enillais ysgoloriaeth i astudio am dymor yng Ngholeg Llanymddyfri.
"Ond es i Gymru efo llygaid disgybl a rwan mae llygaid gwahanol gen i achos dwi eisiau bod yn athro a dwi eisiau mynd i Gymru i weld sut ydych chi'n dysgu yno ar lefel feithrin, cynradd ac uwchradd a wedyn dod nôl yma i ddatblygu."
Mae Ricardo yn awyddus i ddod i Gymru i gryfhau'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Ariannin.
"Dwi wedi helpu gefeillio pentref sef Gaiman a Llanuwchllyn lle gafodd Michael D Jones ei eni.
"Fo oedd sylfaenydd y Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia. Roedd o'n ddyn arbennig o dda, a dwi eisiau dangos bod ei freuddwyd yn dal i fyw hyd y dydd heddiw yma, " meddai Ricardo.
Mae Ricardo yn awyddus i godi arian ac yn apelio am gymorth i'w helpu i dalu am ei daith i Gymru.
Mae o eisoes wedi cychwyn cwrs i oedolion i ddysgu Cymraeg, mae'n garddio ac yn paratoi bwyd i'w werthu yn lleol yn y Wladfa er mwyn codi arian i ddod i Gymru i weld yr ysgolion fis Ebrill 2027.
"Dwi'n falch iawn i fynd i Gymru achos mae gen i blentyn bach. Mae Oliver Morgan yn ddwy oed a mae o'n mynd i'r Ysgol Gymraeg a felly dyna pam mae cyfrifoldeb mawr fel tad i drosglwyddo'r iaith iddo fo yn gyntaf," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.