Calonnau perchnogion ffatri ym Machynlleth 'wedi torri' yn dilyn tân

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ym mharc busnes Treowain am tua 08:00 fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion ffatri ym Machynlleth yn dweud bod eu "calonnau wedi torri" ar ôl i'r adeilad gael ei ddifrodi mewn tân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i barc busnes Treowain yn y dref am 08:00 fore Sul yn dilyn adroddiadau o dân mawr.
Roedd tua 30 o ddiffoddwyr tân yn rhan o'r ymdrech i reoli'r fflamau ac roedd y sefyllfa dan reolaeth erbyn 14:50.
Mae cwmwl o fwg wedi bod yn symud dros y dref ac mae cyngor i bobl gadw eu drysau a ffenestri ar gau.
Mae nifer fawr o bibellau dŵr wedi'u gosod ar ffyrdd cyfagos, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog pobl i osgoi'r ardal.

Cwmni Atherton Bikes sy'n berchen ar yr adeilad
Teulu sy'n enwog ar draws y byd am feicio mynydd yw perchnogion yr adeilad sydd wedi ei effeithio gan y tân.
Bu'r teulu Atherton yn dominyddu beicio mynydd am flynyddoedd, ac ar ôl sefydlu cwmni Atherton Bikes yn 2019 fe symudon nhw i'r ffatri yn Stad Ddiwydiannol Treowain yn 2024.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y brawd a chwaer, Gee a Rachel Atherton eu bod yn cydymdeimlo yn arw gydag aelodau staff a chwsmeriaid.
"Mae'r newyddion yma wedi torri ein calonnau," meddai Gee.
"Fe wnawn ni ddiweddaru cwsmeriaid, a phawb sy'n disgwyl am feic - fe wnawn ni gysylltu gyda chi cyn gynted â phosib."
Ychwanegodd Rachel eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion "anhygoel" y gwasanaethau brys.
"Y peth pwysicaf yw bod neb wedi brifo a bod pawb yn ddiogel."
Mae brawd Gee a Rachel, Dan Atherton hefyd yn un o gyfarwyddwyr y cwmni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
