Teyrnged i ddyn 'cynnes' llawn 'chwerthin' fu farw yn Hanner Marathon Caerdydd

Ross Williams-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun teulu
GanLlion Higham
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn a fu farw yn ystod Hanner Marathon Caerdydd wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud yr oedd yn dod â "chwerthin, teyrngarwch a chynhesrwydd" gydag ef bob amser.

Bu farw Ross Williams-Griffiths, 24, o Fargoed, ar ôl cael ataliad y galon yn ystod y digwyddiad ar 4 Hydref.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod "Ross yn ddyn ifanc, ffit ac iach oedd wrth ei fodd yn rhedeg a bod yn rhan o'r gymuned oedd ynghlwm â hynny".

"Roedd e'n garedig, gofalgar a llawn bywyd."

Ychwanegodd y teulu fod y gefnogaeth y maen nhw wedi ei chael ers colli Ross wedi bod yn "llethol" a'u bod "yn gwerthfawrogi'n fawr y caredigrwydd sydd wedi ei ddangos i'n teulu".

"Tra ein bod yn dal i ddysgu beth yn union achosodd marwolaeth Ross, rydym yn gobeithio y bydd rhannu ei stori'n codi ymwybyddiaeth o gael ataliad y galon yn sydyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman, fod "pawb yn Run 4 Wales yn parhau i feddwl am deulu a ffrindiau Ross".

"Mae colli rhedwr yn un o'n digwyddiadau yn effeithio'n ddwfn ar bawb sy'n rhan o'r broses, ac rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi anwyliaid Ross mewn unrhyw ffordd y gallwn.

"Rydym yn ddiolchgar i dimau meddygol y digwyddiad a'r ysbyty, a ymatebodd mor gyflym a phroffesiynol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig