Kelly o'r Felinheli: Newid bywyd ar ôl bod ar heroin am 25 mlynedd

Doedd Kelly erioed wedi disgwyl mynd i'r coleg, ond mae bellach wedi graddio gyda dosbarth cyntaf a sefydlu busnes gemwaith ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o'r Felinheli sydd wedi bod yn gaeth i heroin am 25 mlynedd yn dweud na fuasai hi 'rioed wedi meddwl y byddai'n mynd i'r coleg' ar ôl bod 'off the rails' ers yn 17 oed.
Bellach yn lân ers 10 mlynedd ac wedi graddio gyda dosbarth cyntaf mewn Celf a Dylunio o Goleg Menai, mae Kelly Rowlands wedi sefydlu busnes gemwaith ei hun.
"Dwi'm yn meddwl bod o wedi sincio fewn yn iawn i fi," meddai.
"Ma jyst gwbo o le dwi di dod a lle dwi di cyrraedd ac actually bod yn successful yn meddwl popeth, a dwi wrth fy modd!"
'Pam wnei di'm jyst signio fyny?'
Er bod celf wedi bod yn rhan o fywyd Kelly ers iddi fod yn fach, dywedodd nad oedd hi erioed wedi ystyried mynd i'r coleg.
"Dwi di bod yn greadigol erioed ac yn creu petha' efo llaw ers on i'n dair oed. Dwi bob tro di isho bod yn greadigol," meddai.
Ei merch, oedd yn astudio yng Ngholeg Menai ar y pryd, a roddodd y syniad iddi fynd i'r coleg ar ôl gweld ei diddordeb yn y cwrs.
"Nath merch fi jyst troi at fi a deud, 'Mam, pam wnei di'm jyst signio fyny a neud gradd?'"
"O'n i'n fatha, 'Be? Fi yn gwneud, gradd?' Achos dwi 'di gweithio erioed, ond 'nes i erioed hyd yn oed cysidro mynd i'r coleg na'm byd fela, achos dwi di bod off the rails rili ers o'n i'n 17."

Mae Kelly yn defnyddio dail, brigau a siapiau o fyd natur i greu ei gemwaith
Penderfynodd Kelly roi'r gorau i'w swydd fel glanhawr a dechrau cwrs mynediad yng Ngholeg Menai, cyn mynd ymlaen i astudio Celf a Dylunio am dair blynedd.
"O'n i reit bored yn job llnau fi, i fod yn onest, ac on i'n dod adra yn aml yn teimlo yn eitha miserable. Doedd o'm yn neud dim byd i ochr creadigol meddwl fi, so wnes i gymryd y plunge. A hynna odd y peth gora nes i!"
'Dwi defo wedi cael fy heriau'
Dechreuodd Kelly gymryd cyffuriau yn ei harddegau, ac erbyn ei phen-blwydd yn 21 oed dywed ei bod yn "cymryd pob math o gyffuriau".
"So pan wnes i droi'n 16, 17, wnes i ddechrau mynd i parties a nes i ddechra' cymryd cyffuriau, a erbyn i fi droi'n 21, o'n i methu stopio," meddai.
"O'dd addiction fi [i heroin] mor wael nath social services gymryd merch fi a rhoi hi i Mam, cos o'n i'm yn ffit i edrych ar ei hôl hi."
Mae Kelly bellach wedi bod yn lân ers degawd ond yn dal i wynebu heriau o bryd i'w gilydd.
"Dwi di cael struggles in between. Ond rhaid fi gofio bod heina i gyd yn arwydd o pwy dwi wedi tyfu i fod."
Dywedodd mai pigiad misol, sy'n helpu i rwystro'r awydd i ddefnyddio cyffuriau, oedd y man cychwyn pwysig yn ei hadferiad.
Cafodd Kelly fab 14 mlynedd ar ôl genedigaeth ei merch, ac roedd yn benderfynol "o newid ei ffordd".
"Ges i hogyn bach fi a nes i jyst meddwl do'n i methu rhoi plentyn arall trwy be' oedd y ferch di bod trwadd, so nes i addo fy hun swni'm yn twtchad o eto."
'Defnyddio student finance i adeiladu sied'
Defnyddiodd Kelly ei chyllid myfyrwyr i adeiladu caban pren yn ei gardd pan ddechreuodd ei gradd, ac mae hi bellach yn rhedeg ei busnes gemwaith ei hun o'r fan honno.
"Dwi 'di gwneud dros ugain o gyrsiau gwahanol i ddysgu sut i wneud gwahanol bethau efo gemwaith. Dwi'n neud lot o waith commissions, dwi'n gwerthu gemwaith yn y jewellery studio ym Miwmares, dwi'n neud craft fairs - bob dim rili fedra i!"

Yn ôl Kelly, mae'n gallu treulio oriau yn ei sied yn creu gemwaith, weithiau hyd at oriau mân y bore
Mae ei gweithiau yn aml yn cael eu hysbrydoli gan natur.
"Dwi'n mynd allan i edrych am ddail a branches, a dwi'n peintio nhw efo finesilver a dwi'n rhoi nhw yn y kiln, a dwi'n troi nhw fewn i gemwaith arian."
Mae'r gweithdy wrth ei chartref yn golygu y gall Kelly dreulio cymaint o amser ag y dymuna ar ei gwaith.
"Ma' gweithdy fi'n top yr ardd, so fedra i literally cerdded o'r tŷ a mynd i'r gweithdy. Dwi yna weithiau tan 2 o'r gloch bore. Fedra i jyst ddim dod o 'na.
"Dwi wrth fy modd yn gwneud be dwi'n gwneud.
"Mae pawb yn deud o hyd bo' fi di gwneud yn ffantastig. A dwi'n gwybod bo' fi, ond ia... dwi'm yn gweld be maen nhw'n weld eto.
"Dwi'm yn meddwl bod o wedi sincio fewn rili yn iawn i fi!"
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.