Addewid i 'ystyried' galwad am gynnwys mwy o hanes Cymru mewn ysgolion

Owain Glyndŵr
Disgrifiad o’r llun,

Ydy disgyblion yng Nghymru "yn gadael ysgol yn gwybod mwy am hanes America a'r Almaen Natsïaidd nag am hanes eu gwlad eu hunain" megis hanes Owain Glyndŵr?

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd deiseb sy'n dweud bod angen "llawer mwy o ffocws ar hanes Cymru" yng Nghwricwlwm Cymru yn derbyn ystyriaeth bellach yn y Senedd.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan Elfed Wyn ap Elwyn, ar ôl casglu 2,744 o lofnodion.

Yr wythnos diwethaf penderfynodd y pwyllgor deisebau ddilyn argymhelliad y cadeirydd, AS Reform Jason O'Connell, i ysgrifennu at y gweinidog cabinet dros addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, i ofyn iddi "gadarnhau y gwelwn rywfaint o gamau gweithredu" ac i'r pwyllgor wahodd rhai unigolion i gyflwyno rhagor o dystiolaeth iddo.

Dywedodd Anna Brychan y byddai'n "ystyried y camau nesaf" a bod y llywodraeth "wedi ymrwymo i roi ail wynt i addysg ddiwylliannol... yn cynnwys sicrhau bod addysgu hanes Cymru yn cael ei gyflwyno'n effeithiol".

'Gwybod mwy am hanes America a'r Almaen'

Mae'r ddeiseb yn dweud: "Ar hyn o bryd, mae disgyblion ysgol yng Nghymru yn gadael ysgol yn gwybod mwy am hanes America a'r Almaen Natsïaidd nag am hanes eu gwlad eu hunain."

Dywedodd bod y cymhwyster TGAU Hanes newydd a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi eleni "yn debygol o waethygu'r sefyllfa hon hyd yn oed".

"Mae angen eich cefnogaeth er mwyn sicrhau bod dysgu stori ein gwlad yn cael ei rhoi ar flaen y gad, gan roi cyfle i'n pobl ifanc ddeall a gwerthfawrogi hanes Cymru fel rhan ganolog o'u haddysg."

Elfed Wyn ap Elwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dyma drydedd deiseb Elfed Wyn ap Elwyn ar y pwnc hwn

Dyma drydedd deiseb Elfed Wyn ap Elwyn - sy'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd - ar y pwnc hwn, gyda'r ddeiseb wreiddiol wedi'i chyflwyno yn 2017, a'r ail yn 2019.

Dywedodd bod y ddwy ddeiseb flaenorol wedi cael "llwyddiant mawr, gan agor y drafodaeth am yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu'n llwyddiannus ac yn effeithiol i ddisgyblion Cymru".

Dywedodd hefyd wrth y pwyllgor: "Nid yw'r ffaith bod hanes Cymru yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru, ynddi'i hun, yn gwarantu bod pob disgybl yng Nghymru yn cael addysg gadarn a chyson yn hanes ei wlad.

"Dyna pam mae angen inni sicrhau bod y cwricwlwm, y TGAU, yr adnoddau a'r hyfforddiant i athrawon yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu'n effeithiol i bob disgybl.

"Credaf mai nawr yw'r cyfle i sicrhau newid cadarnhaol a pharhaol yn y cwricwlwm, er mwyn sicrhau bod gan y genhedlaeth newydd ddealltwriaeth gadarn o hanes eu gwlad eu hunain."

Anna Brychan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna Brychan ei bod am "sicrhau bod addysgu hanes Cymru yn cael ei gyflwyno'n effeithiol fel rhan o'r cwricwlwm"

Mae gan lywodraeth Plaid Cymru ymrwymiad yn ei rhaglen lywodraethu i "sicrhau disgwyliadau clir o ran gwybodaeth ac addysg am ddiwylliant a hanes ein cenedl", fel rhan o adolygiad o'r cwricwlwm a threfniadau asesu.

Dywedodd y gweinidog Anna Brychan wrth y pwyllgor bod y llywodraeth "wedi ymrwymo i roi ail wynt i addysg ddiwylliannol a bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod addysgu hanes Cymru yn cael ei gyflwyno'n effeithiol fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru".

"Felly, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gynnwys ystyriaeth o sut y mae'r TGAU newydd yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion a'i effaith ar addysgu hanes Cymru mewn unrhyw waith a wneir i adolygu'r cwricwlwm."

Ychwanegodd y byddai'n "ystyried y camau nesaf, gan weithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru, yn unol â'i gyfrifoldeb am osod meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru ac am hybu hyder y cyhoedd yn ein cymwysterau".

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AS Reform Jason O'Connell, ddydd Iau: "Mae'n rhaid i mi gytuno â llawer o'r hyn a ysgrifennwyd yma gan y deisebydd... yn aml, nid yw hanes Cymru yn cael digon o sylw.

"Credaf ei bod yn iawn bod statws hanes Cymru yn cael ei godi yn ein hysgolion."

Mae hanes Cymru wedi bod yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru ers 2022, wedi'i gynnwys o fewn maes "dysgu a phrofiad y dyniaethau".

Dull y cwricwlwm newydd yw rhoi mwy o ymreolaeth i ysgolion nag yn y gorffennol, o fewn fframwaith cenedlaethol eang.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.