Lili Jones: Y Gymraeg 'mewn lle da' yn Wrecsam ar hyn o bryd

Fe gymrodd Lili Mai Jones yr enw barddol 'Lili ferch Gareth' pan gafodd ei hurddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
- Cyhoeddwyd
Mae'r iaith Gymraeg wedi cryfhau yn Wrecsam diolch i'r clwb pêl-droed a'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl pêl-droediwr gafodd ei hurddo y llynedd.
Yn ôl Lili Jones, ddaeth yn wyneb cyfarwydd yn sgil cyfres ddogfen Welcome to Wrexham, mae agweddau wedi newid ers ei chyfnod yn yr ysgol.
"Dwi'n meddwl bod (y Gymraeg) on the up fel maen nhw'n dweud," meddai.
Fe gafodd y pêl-droediwr, sy'n chwarae i dîm merched y clwb ers pum mlynedd, ei magu yn y ddinas. Yn ogystal â chwarae pêl-droed mae hi'n astudio'r Gymraeg a newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor.
Ond mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd nad dyna oedd ei bwriad pan oedd hi'n ei harddegau ond bod ei hagwedd tuag at yr iaith wedi newid.

Lili (ail o'r dde) yn dathlu tymor llwyddiannus 2023 gyda Ryan Reynolds (canol) a Rob McElhenney (chwith) - perchnogion Wrecsam
"Mae'n job o ran y Gymraeg yn enwedig yng ngogledd Cymru yn Wrecsam," meddai.
"Yn Wrecsam roedd o'n cael ei wthio arna ni lot o ran 'siaradwch yr iaith, siaradwch yr iaith' ac o'n i'n fatha 'o, oce'.
"Doedd o ddim yn beth cŵl iawn i wneud ond dwi'n meddwl fel ti'n tyfu fyny, ti'n dechrau sylwi bod gallu siarad Cymraeg yn rhywbeth mor, mor, mor sbeshal, ond weithiau mae'n rhy hwyr i rai pobl."
Fe gafodd ei magu'n siarad Cymraeg gyda'i brawd a'i thad, fu farw yn 2021, ac mae'n dweud bod ei mam, sydd o Lerpwl yn wreiddiol, bellach yn rhugl.
Dywedodd nad oedd llawer o'i chyd-ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref ond bod rhywbeth "sbeshal a dewr" pan mae rhieni di-Gymraeg yn gyrru eu plant i ysgolion Cymraeg a'i fod yn hanfodol i barhad yr iaith.
Newid agwedd ar ôl taith i'r UDA
Fe ddechreuodd astudio Lefel A mewn mathemateg a gwyddoniaeth yn Ysgol Morgan Llwyd tan iddi newid ei meddwl yn sgil taith i'r UDA.
"Nes i wir syrthio mewn cariad efo'r iaith, efo'r llenyddiaeth, a dwi'n meddwl nath o ddigwydd ar yr amser cywir i fi," meddai.
"O'n i 'di cael profiad anhygoel o gael mynd allan i Los Angeles i ffilmio dogfen Clwb Ni efo S4C. Aethon ni allan i LA i ddigwyddiad Dydd Gŵyl Dewi yna ac roedd y stafell yn llawn o bobl Cymraeg ar ochr arall y byd.
"Wnaeth Rob McElhenney ddod a chanu'r anthem, bob gair yn iawn, a dwi'n cofio meddwl 'oce, mae yna gwir werth i'r Gymraeg yma'.
"Dwi'n meddwl ro'n i wedi syrthio mewn i gredu'r stereoteip bod astudio Cymraeg yn golygu bod chi'n mynd i fod yn athro neu athrawes ac o'n i'n hollol, hollol anghywir.
"Felly dwi'n meddwl neshi i weld gwir werth yn y Gymraeg a meddwl, ie, dyna lle mae'n nyfodol i."

Roedd Lili Jones yn sgwrsio efo'r cyflwynydd Beti George
Dim ond hi ac un ferch arall oedd yn astudio Cymraeg Lefel A yn yr ysgol. Aeth yn ei blaen i astudio'r pwnc ym Mhrifysgol Bangor.
Ychwanegodd bod Rob McElhenney a Ryan Reynolds, sy'n berchen clwb Wrecsam ond yn byw yn yr UDA, wedi cael effaith bositif ar agweddau pobl eraill yn y ddinas hefyd.
Meddai: "Dwi'm yn gwybod os dwi'n dangos bach o duedd yma ond dwi'n meddwl be' mae Rob a Ryan wedi'i wneud i'r iaith - a dydyn nhw ddim yn siarad o hyd yn oed - ond dwi'n meddwl bod nhw wedi rhoi goleuni newydd ar Wrecsam ac ar Gymru hefyd a dwi'n meddwl mae yna ddiolch mawr iddyn nhw am hynna."
'Clywed yr iaith yn llifo trwy'r strydoedd'
Ychwanegodd bod rhesymau eraill dros ddiddordeb cynyddol yn yr iaith gan gynnwys cerddoriaeth a gwyliau fel Tafwyl, Maes D a Roc y Ddol.
"Dwi'n meddwl bod cerddoriaeth Cymraeg yn mynd i fod yn rhan enfawr o ran tyfiant yr iaith ac i'r dyfodol," meddai.
"Mae 'na dalent mawr ac mae pobl yn wir mwynhau cerddoriaeth Cymraeg. Dwi'n meddwl neith o wella yn ara' bach."
Mae hefyd yn dweud bod ymweliad y Brifwyl â Wrecsam wedi newid agweddau a bod yr effaith i'w weld yn y ddinas.
"Mae yna siopau Cymraeg yn agor a ti'n clywed yr iaith yn llifo trwy'r strydoedd erbyn hyn hefyd sy'n beth arbennig i'w glywed," meddai.
"[Mae agweddau wedi newid] gant y cant - doedd o ddim yn beth cŵl i neud... ond mae pethau yn newid. Efo'r clwb, mae'r clwb yn gwthio'r iaith, mae mwy o ysgolion Cymraeg yn agor, so mae'r [Gymraeg] mewn lle da yn Wrecsam ar y funud."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2025

- Cyhoeddwyd19 Chwefror
