Wrecsam - 'y lle i chwarae' - yn cyflwyno cais Dinas Diwylliant y DU 2029

Mae Sam, Willis ac Amelia ymhlith y rhai sy'n cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
- Cyhoeddwyd
Mae cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU yn 2029 wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol.
Cafodd Wrecsam ei chynnwys ar restr hir ym mis Mawrth, gan sicrhau £60,000 ar gyfer llunio cais llawn.
Roedd wyth lleoliad arall ar y rhestr honno - Blackpool, Inverness–Highlands, Ipswich, Middlesbrough, Milton Keynes, Portsmouth, Sheffield a Swindon.
Fe fydd Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am y gystadleuaeth, yn cyhoeddi enw'r enillydd cyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r ddinas fuddugol yn derbyn £10m ar gyfer darparu rhaglen flwyddyn o weithgareddau diwylliannol, a thri lleoliad arall sy'n cyrraedd rhestr fer o bedwar yn derbyn £125,000 yr un i fwrw ymlaen gyda rhai elfennau o'u ceisiadau.
Fe gyrhaeddodd Wrecsam restr fer cystadleuaeth Dinas Diwylliant 2025, ond Bradford gafodd yr anrhydedd y tro hwnnw.
Wrecsam oedd yr unig ddinas yng Nghymru i ymgeisio am y teitl yn 2029.

Rhai o blant Wrecsam yn taflu paent yn ystod dathliad blynyddol Diwrnod Chwarae ddydd Mercher diwethaf i nodi cyflwyno cais Wrecsam2029
Dywed trefnwyr ymgyrch Wrecsam2029 bod y cais yn rhoi pwyslais ar wahoddiad "i ddod i chwarae", a'i fod wedi ei gyflwyno "dan arweiniad y gymuned".
Yn ôl cyfarwyddwr y cais, Amanda Evans: "Yma yn Wrecsam, rydyn ni'n hoffi chwarae.
"Rydyn ni'n chwarae gemau, rydyn ni'n chwarae chwaraeon, rydyn ni'n chwarae cerddoriaeth, rydyn ni'n chwarae cymeriadau yn y theatr.
"Rydyn ni'n chwareus, wrth i ni ganu mewn bandiau a chorau, creu celf neu ddod at ein gilydd yn syml, mewn teuluoedd, fel ffrindiau, ac yn ein cymunedau.
"Yn Wrecsam, rydyn ni'n cymryd chwarae o ddifrif, fel cyfnewid radical sy'n hanfodol i greadigrwydd, cydweithio, cyfranogiad, cydlyniant cymdeithasol a lles."
Ychwanegodd mai'r weledigaeth "yw i Wrecsam fod y lle mwyaf chwareus yn y byd, lle mae chwareusrwydd yn llywio pob agwedd ar fywyd bob dydd".

Wrecsam oedd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2025 ac roedd sylw amlwg ar y Maes i lwyddiant clwb pêl-droed y ddinas ers i'r actorion Ryan Reynolds a Rob Mac ei brynu
Dywed y trefnwyr hefyd bod cais Wrecsam2029 "yn mynd ymhellach nag erioed o'r blaen yn y ffordd y mae'n cynnwys pobl leol a chymunedau ledled y sir" a bod "miloedd o bobl" wedi helpu llunio datblygiad y cais dros y pedair blynedd diwethaf "gan gynnwys dros 1,000 o blant ysgol".
Mae chwaraeon hefyd yn rhan bwysig o'r cais, yn sgil y sylw byd-eang i Glwb Pêl-droed Wrecsam dan berchnogaeth yr actorion Rob Mac a Ryan Reynolds.
Cyfeiria'r trefnwyr at y ffaith fod "capasiti stadiwm pêl-droed hynaf y byd, y STōK Cae Ras, yn cael ei gynyddu i 18,000 erbyn 2027, gan ei alluogi i gynnal gemau rhyngwladol eto, tra bod Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd, a ddisgwylir yn eiddgar, yn agor eleni".
Mae dros 100 o lysgenhadon yn cefnogi'r ymgyrch gan gynnwys yr actorion Matthew Rhys a Mark Lewis Jones, y cyflwynydd Carol Vorderman, y pêl-droediwr Lili Mai Jones, a'r athletwr Colin Jackson.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror

- Cyhoeddwyd3 Chwefror
