Tri dyn yn gwadu llofruddiaeth wedi gwrthdrawiad difrifol

Bu farw Ceiran Evans, 18, o Abertawe ym mis Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi gwadu llofruddio dyn 18 oed yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Abertawe.
Bu farw Ceiran Evans ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar Ffordd Pen Cae Crwn, Gorseinon ar 9 Gorffennaf.
Fe wnaeth y cyn-bencampwr cicfocsio byd-eang Tyler Ford, 18, o Dreforys, bledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.
Gwadodd cyhuddiad o geisio llofruddio ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad i ail berson hefyd.
Fe wnaeth Elliot Truelove, 33, o West Cross, Abertawe, a Liam Thomas, 18, o Dreforys, bledio'n ddieuog i'r un cyhuddiadau yn Llys y Goron Abertawe.

Mae Tyler Ford, Liam Thomas ac Elliot Truelove yn gwadu llofruddiaeth
Mae pedwerydd person – Trisha Thomas, 36 oed, o Orseinon – wedi gwadu cynorthwyo troseddwr.
Clywodd y llys ei bod yn cael ei chyhuddo o gludo Elliot Truelove i ffwrdd o safle'r drosedd.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC fod dyddiad achos llys eisoes wedi ei nodi ar gyfer 11 Ionawr 2027. Clywodd y llys y gallai'r achos bara hyd at chwe wythnos.
Mae'r pedwar diffynydd yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.