Carcharu pedoffeil 'peryglus ac ysglyfaethus' am dros 20 mlynedd

Plediodd Henton yn euog i'r 18 cyhuddiad yn ei erbyn mewn gwrandawiad ym mis Hydref y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae pedoffeil "peryglus ac ysglyfaethus" wedi cael ei garcharu am gyflawni cyfres o droseddau rhyw.
Cafodd Craig Henton, 54 o Bort Talbot, ei arestio ym mis Ebrill 2024 yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Ar ôl derbyn adroddiadau fod defnyddiwr ap negesu wedi datgan ei fod yn bwriadu cyflawni troseddau rhyw yn erbyn merch bump oed, fe lwyddodd ymchwilwyr i olrhain y negeseuon yn ôl i gyfeiriad Henton.
Yn dilyn archwiliad o'i ddyfeisiau, daeth i'r amlwg ei fod wedi rhannu llun anweddus categori C o'r plentyn dan sylw.
Cafodd cyfanswm o 4,579 o luniau a fideos anweddus eu canfod ar un ddyfais, gan gynnwys 918 yng nghategori A - y mwyaf difrifol.
'Agored am fod yn bedoffeil am 25 mlynedd'
Mewn sgyrsiau ar yr ap rhwng Chwefror a Mai 2024, fe ddywedodd Henton wrth ddefnyddwyr eraill ei fod yn bedoffeil ers 25 mlynedd a'i fod wedi meithrin perthynas gyda mam fregus er mwyn cael mynediad at ei merch.
Roedd wedi bod yn rhan o gannoedd o sgyrsiau yn trafod cam-drin plant yn rhywiol, ac fe honnodd hefyd ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ferch rhwng tair a phump oed.
Cafodd ei arestio unwaith eto ym mis Mai a Mehefin 2024 ar amheuaeth o ymosod ar ferch dan 13 oed ac o drefnu comisiwn am drosedd rhyw yn erbyn plentyn.
Plediodd yn euog i'r 18 cyhuddiad yn ei erbyn mewn gwrandawiad ym mis Hydref, ac yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth fe gafodd ei garcharu am 21 mlynedd.
Bydd yn treulio chwe blynedd ychwanegol ar drwydded, yn derbyn gorchymyn gwahardd parhaol ac yn treulio gweddill ei oes ar y gofrestr troseddwyr rhyw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr NCA fod Henton yn "bedoffeil ysglyfaethus a pheryglus wnaeth gam-drin plentyn ifanc a datgan ei barodrwydd i gwrdd ag eraill er mwyn eu cam-drin".
"...Roedd yn agored am fod yn bedoffeil am 25 mlynedd a'r ffaith ei fod yn bwriadu targedu merched bregus er mwyn cam-drin eu plant.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y DU ac ar draws y byd er mwyn amddiffyn plant rhag camdrinwyr ffiaidd fel Henton."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.