Y Cymro â Syndrom Down sy'n ceisio gosod record byd

Michael Beynon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Beynon yn gobeithio ysbrydoli eraill sydd ag anableddau dysgu gyda'i berfformiad yn yr Outlaw Triathlon

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o'r Waun ger Wrecsam yn gobeithio gosod record byd ar gyfer person gydag anableddau mewn triathlon.

Bydd Michael Beynon, 31, sydd â Syndrom Down, hypertonia mewn un goes a sy'n rhannol ddall yn ceisio creu hanes yn yr Outlaw Triathlon yn Nottingham ddydd Sadwrn drwy gipio'r Record Byd Guinness am yr amser gorau gan berson ag anableddau mewn triathlon.

Mae Michael, sydd wedi dysgu nofio a seiclo ar gyfer y digwyddiad, wedi arfer ag heriau o'r fath - fe oedd y Cymro cyntaf gyda Syndrom Down i gwblhau Marathon Llundain bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd ei fod yn gobeithio ysbrydoli eraill drwy brofi bod "pobl ag anableddau yn gallu cyflawni pethau arbennig os yn cael cefnogaeth a chyfleoedd".

Michael BeynonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael wedi dysgu nofio yn arbennig ar gyfer y digwyddiad

Er ei fod yn rhedwr profiadol, mae'r gwaith paratoi ar gyfer y triathlon wedi bod yn her enfawr.

Cafodd Michael ambell wers nofio tra yn yr ysgol gynradd ond nid oedd yn gallu parhau oherwydd diffyg cefnogaeth, ar y pryd, i bobl ag anableddau.

Ar ôl ei lwyddiant ym Marathon Llundain penderfynodd ei fod am barhau i ymgymryd ag amrywiol heriau.

"Mae dysgu sut i nofio a seiclo wedi bod yn galed, ond dwi'n gwella bob dydd," meddai.

"Mae fy hyfforddwyr Jen, Kim, a Simon o Tri Club Wrecsam wedi helpu fi gymaint.

"Dwi'n caru nofio, mae wedi helpu fy nghydsymud, fy hyder, a dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau."

Michael ac ErikaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Michael a'i fam Erika, sydd mor falch o'i ddatblygiad

Dywedodd ei fam, Erika Walker, ei bod "mor falch" o Michael, sydd wedi bod yn paratoi ers mis Medi 2023.

"Mae gwylio Michael yn dysgu sgiliau newydd fel nofio a seiclo, a gweld o'n tyfu'n gryfach a'n fwy hyderus bob dydd, wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig," meddai.

"Allwn ni ddim bod yn fwy balch o'i ddatblygiad fel athletwr."

Michael BeynonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael yn treulio oriau bob dydd yn paratoi ar gyfer y triathlon

Mae Michael wedi bod yn treulio oriau bob dydd - gan gynnwys rhedeg 5km a 20km dros y penwythnos - yn paratoi ar gyfer y triathlon.

Ers cwblhau Marathon Llundain yn 2022, mae wedi rhedeg naw marathon a chwe hanner marathon, meddai.

"Mae'r profiad ges i yn Llundain wedi rhoi hyder i mi drio heriau gwahanol a gobeithio ysbrydoli pobl eraill sydd ag anableddau dysgu, yn ogystal â phawb arall, i gredu ynddyn nhw'u hunain," meddai.

"Bysai gosod Record Byd Guinness newydd yn meddwl lot i fi achos fysa'n dangos bod gwaith caled a phenderfyniad yn gallu arwain at bethau arbennig.

"Dwi'n gobeithio y bydd o'n ysbrydoli pobl ag anableddau i drio torri fy record un diwrnod."

Ychwanegodd ei fam: "Mae taith Michael am fwy na chroesi'r llinell derfyn mewn triathlon.

"Mae'n dangos ei fod yn bosib goresgyn rhwystrau a bod dysgu sgiliau newydd, be bynnag eich oed, a phenderfyniad yn gallu helpu rhywun i fynd heibio unrhyw gyfyngiadau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig