Cerbyd 4x4 dan ddŵr ar ôl cael ei adael ar draeth yn Abersoch

Car AbersochFfynhonnell y llun, SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Ffilmiodd padl-fyrddiwr gerbyd 4x4 o dan y dŵr yn Abersoch

  • Cyhoeddwyd

Mae fideo o gerbyd yn y môr ym Mhen Llŷn wedi denu sylw ar-lein, gyda rhai yn amau a oedd yn wir neu wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial.

Cafodd y cerbyd 4x4 ei weld o dan y dŵr pan oedd y llanw'n uchel yn Abersoch mewn fideo gafodd ei rannu ar-lein gan badl-fyrddiwr.

Mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn galwad am y cerbyd ar y traeth fore Sul.

Cafodd y cerbyd ei dynnu o'r safle yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Car AbersochFfynhonnell y llun, SWNS

Ar ôl i'r padl-fyrddiwr rannu'r fideo, arweiniodd at gymariaethau gyda char tanddwr o ffilm James Bond The Spy Who Loved Me.

Fe wnaeth eraill gwestiynu a oedd rhai o'r delweddau ar-lein wedi'u creu gan ddeallusrwydd artiffisial.

Ond cadarnhaodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael gwybod bod cerbyd wedi'i adael a'i symud yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Nid yw'n glir beth yn union arweiniodd at y cerbyd yn cael ei adael ar y traeth.

Dywedodd y cynghorydd o Abersoch, Siôn Edwards fod "pawb yn siarad amdano" dros y penwythnos.

Dywedodd nad oedd yn siŵr a oedd hyn wedi digwydd ar yr un traeth o'r blaen, ond bod cerbydau wedi cael eu dal gan y llanw mewn mannau eraill ar hyd arfordir Gwynedd.

Ychwanegodd ei fod yn digwydd "mor aml" ar draeth y Graig Ddu ym Mhorthmadog fel bod ffermwr yn cynnig tynnu cerbydau oddi ar y traeth yn rheolaidd.

Dywedodd clerc y cyngor plwyf, Einir Wyn, fod digwyddiadau fel hyn yn brin ar draeth Abersoch.

Dywedodd ei bod wedi clywed am y digwyddiad ar ôl gweld fideo ar TikTok o'r padl-fyrddiwr yn mynd dros y cerbyd.

"Fy chwaer hynaf, roedd hi wedi bod i ffwrdd... ac fe glywodd hi amdano hefyd," meddai Einir Wyn.

Pynciau cysylltiedig