Plot o draeth heb gwt yn Abersoch yn mynd ar werth am £100,000

Mae darn o draeth yn Abersoch - heb gwt - wedi denu sylw ers bod ar y farchnad
- Cyhoeddwyd
Mae plot o draeth yn Abersoch gyda golygfa arbennig - a phris i gyd-fynd - wedi denu sylw prynwyr posib.
Wythnos ar ôl mynd ar werth am gynigion dros £100,000, mae'r darn wyth metr wrth bedwar metr ar rif 44 Traeth Abersoch eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.
Cafodd cwt ar y llain breifat ei ddinistrio mewn storm y llynedd.
Dywedodd cyfarwyddwr yr asiant tai Rhys Elvins wrth BBC Cymru: "Ar anterth y farchnad fe aeth un am £177,000 - roedd hynny tua diwedd 2022."

Yr olygfa o'r traeth yn Abersoch
Ond dylai unrhyw ddarpar berchnogion wybod nad oes cwt yno ar hyn o bryd - a does dim cyflenwad trydan, dim gwres a dim draeniad.
Er dyw hynny ddim wedi atal rhai perchnogion rhag rhoi paneli solar ar doeau eu cytiau.
Ychwanegodd Mr Elvins ei fod wedi cael cwpl o ymholiadau o fewn yr wythnos ddiwethaf yn barod.
Yn 2022, aeth cwt ar draeth Abersoch ar y farchnad am £200,000, tra bod cwt arall wedi'i werthu yno am £153,000 'nôl yn 2016.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022

- Cyhoeddwyd2 Mai 2025

- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2025
