Beth yw gobeithion clybiau Cymru cyn i'r tymor newydd ddechrau?

Mae tymor Wrecsam, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd ar fin dechrau
- Cyhoeddwyd
Mae tymor newydd y gynghrair bêl-droed yn Lloegr yn cychwyn y penwythnos yma.
Bydd tri chlwb o Gymru yn y Bencampwriaeth - Abertawe, Caerdydd a Wrecsam - tra y bydd Casnewydd yn chwarae yn Adran Dau unwaith eto.
Felly be' ydy gobeithion y pedwar clwb y tymor yma?
Wrecsam

Mae Phil Parkinson wedi ennill tri dyrchafiad fel rheolwr Wrecsam
Dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr - dyna'r disgwyliadau ar y Cae Ras.
Doedd 'na ddim pedwerydd dyrchafiad yn olynol y tymor diwethaf ar ôl iddyn nhw golli allan ar le yn y gemau ail-gyfle ar y penwythnos olaf.
Os ydyn nhw am fynd gam yn well y tro hwn, maen nhw angen dechrau da - dim ond un fuddugoliaeth gafon nhw yn eu pum gêm gynghrair gyntaf y tymor diwethaf.
O hyn ymlaen bydd mwy o glybiau yn y gemau ail-gyfle, gyda'r nifer yn codi o bedwar i chwech.
Ond y targed i Phil Parkinson fydd gorffen yn y ddau safle uchaf, fyddai'n golygu dyrchafiad awtomatig.
Mae Parkinson yn barod wedi ychwanegu tri chwaraewr i'w garfan - y golwr Anthony Patterson, yr amddiffynnwr Danny Imray a'r chwaraewr canol cae Ben Whiteman.
Os allan nhw arwyddo ymosodwr o safon, yna dwi'n rhagweld y byddan nhw'n agos iawn at y ddau safle uchaf ar ddiwedd y tymor.
Abertawe

Fydd Zan Vipotnik dal i chwarae dros Abertawe y tymor yma?
O safbwynt Abertawe mae 'na lot yn ddibynnol ar ddyfodol Zan Vipotnik.
Yr ymosodwr o Slofenia oedd prif sgoriwr y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, ac yn sgil hynny mae sawl clwb wedi dangos diddordeb ynddo dros yr haf.
Mae'r Elyrch yn barod wedi gwrthod un cynnig gan Hull amdano - cawn weld a fydden nhw'n dod yn ôl gyda chynnig gwell.
Os fydd Vipotnik yn gadael, mae'r clwb wedi arwyddo ymosodwr gyda phrofiad o sgorio goliau yn y Bencampwriaeth yn Ross Stewart.
Yn gyn-chwaraewr i Southampton a Sunderland, roedd Stewart hefyd yn rhan o garfan Yr Alban yng Nghwpan y Byd dros yr haf.
Un o wendidau Abertawe y tymor diwethaf oedd y diffyg goliau gan asgellwyr, ac er mwyn ceisio datrys hynny maen nhw wedi arwyddo tri ohonyn nhw - Elijah Just, Joseph Opoku a Moussa Yeo.
Mae'n ymddangos fod Cameron Burgess wedi dioddef anaf difrifol i'w goes sy'n golygu bod angen amddiffynnwr canol newydd arnyn nhw.
Cadw Vipotnik a chryfhau'r amddiffyn, ac fe ddylen ni weld Yr Elyrch yn dod yn agos at le yn y gemau ail-gyfle.
Caerdydd

Fe enillodd Brian Barry-Murphy ddyrchafiad yn ei dymor cyntaf fel rheolwr Caerdydd
Ar ôl un tymor yn unig yn Adran Un, mae Caerdydd yn ôl yn y Bencampwriaeth.
Fe wnaeth Brian Barry-Murphy yn wych yn ei dymor cyntaf wrth y llyw - sicrhau dyrchafiad, chwarae pêl-droed ymosodol a rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc o'r academi.
Mae'n bosibl dadlau mai'r peth pwysicaf mae Caerdydd wedi ei wneud dros yr haf ydy perswadio Barry-Murphy i arwyddo cytundeb newydd - yn enwedig ar ôl iddo gael ei gysylltu gyda chlybiau fel Celtic.
Ar y cae, byddai gorffen yng nghanol y tabl, ac aros i ffwrdd o safleoedd y cwymp, yn cael ei gyfri' fel llwyddiant y tymor yma.
I hynny ddigwydd maen nhw'n sicr angen cryfhau'r garfan.
Mae'r golwr Nathan Trott wedi arwyddo'n barhaol ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg, tra bod y chwaraewr canol cae Jack Moylan wedi ymuno o Lincoln.
Ond yn ddelfrydol mae angen mwy o ddyfnder yn y llinell flaen, ar yr esgyll ac yng nghanol cae.
Os fydd Yousef Salech yn llwyddo i sgorio'n rheolaidd y tymor yma, yna efallai y gwelwn ni Gaerdydd yn brwydro am le yn yr wyth uchaf.
Ond fel mae pethau'n sefyll, dwi'n gweld hynny'n annhebygol.
Casnewydd

Roedd Hayden Mullins yn rheolwr ar dîm dan-21 Fulham cyn ymuno â Chasnewydd
Mae hi wedi bod yn haf prysur ar Rodney Parade.
Ar ôl llwyddo i gadw Casnewydd yn Adran Dau y tymor diwethaf - fe benderfynodd Christian Fuchs ymddiswyddo fel rheolwr.
Fe gymrodd y clwb eu hamser cyn penodi cyn-chwaraewr West Ham a Portsmouth, Hayden Mullins fel olynydd.
Ond y broblem gyda hynny ydy nad yw wedi cael llawer o amser gyda'r garfan cyn i'r tymor newydd ddechrau.
Yn ogystal â Fuchs, mae'r capten Matt Baker a'r ymosodwr Bobby Kamwa wedi gadael ar ôl i'w cytundebau ddod i ben.
Heb os ac oni bai mae 'na waith anodd o flaen Mullins, ac mae'n anodd rhagweld unrhyw beth arall ond tymor hir i'r Alltudion, lle byddan nhw'n brwydro unwaith eto i aros yn y gynghrair bêl-droed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.