Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

  • Cyhoeddwyd

Roedd yr haul yn gwenu'n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn ar ddydd Llun.

O gystadlaethau'r corau i gystadlaethau coginio, bu'n ddiwrnod llawn dop o gystadlu i gannoedd o blant a phobl ifanc, ac roedd y maes yn llawn hwyl hefyd.

Erin, Betsi ac Efan yn mwynhau'n y ffair yn eu crysau ti Mistar Urdd a chit pêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Erin, Betsi ac Efan yn mwynhau'n y ffair yn eu crysau ti Mistar Urdd a chit pêl-droed Cymru

Mae Catrin o Ysgol Bro Hyddgen wedi ennill saith o fedalau yn y cystadlaethau gwaith cartref! Llongyfarchiadau enfawr i Catrin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin o Ysgol Bro Hyddgen wedi ennill saith o fedalau yn y cystadlaethau gwaith cartref! Llongyfarchiadau enfawr i Catrin

Aneirin ac Efa yn darllen y map gyda Mam a Dad er mwyn paratoi at ddiwrnod llawn dop yn crwydro'r map. Roedd Efa'n edrych ymlaen at fynd i'r ffair a dod o hyd i Mistar Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Aneirin ac Efa yn darllen y map gyda Mam a Dad er mwyn paratoi at ddiwrnod llawn dop yn crwydro'r map. Roedd Efa'n edrych ymlaen at fynd i'r ffair a dod o hyd i Mistar Urdd

Mari, Lydia, Carys ac Enfys o Ysgol Maes Garmon ar eu ffordd i'r Pafiliwn Gwyn i gystadlu yn y Perfformiad o Olygfa i flwyddyn 10 a dan 19 oed
Disgrifiad o’r llun,

Mari, Lydia, Carys ac Enfys o Ysgol Maes Garmon ar eu ffordd i'r Pafiliwn Gwyn i gystadlu yn y Perfformiad o Olygfa i flwyddyn 10 a dan 19 oed

Jonni o gwmni Organised Kaos yn dangos ei sgiliau syrcas ansbaradigaethus
Disgrifiad o’r llun,

Jonni o gwmni Organised Kaos yn dangos ei sgiliau syrcas ansbaradigaethus yn yr awyr las

Gwen a Nedw o Gaernarfon yn ymarfer eu sgiliau syrcas
Disgrifiad o’r llun,

Gwen a Nedw o Gaernarfon yn ymarfer eu sgiliau syrcas

Meilir Rhys Williams, beriniad y gystadleuaeth Perfformio Golygfa i flwyddyn 10 a dan 19 oed yn mwynhau coffi oer cyn y cystadlu. Dywedodd Meilir "bod y 'Steddfod yn llwyddiant aruthrol yn barod".
Disgrifiad o’r llun,

Meilir Rhys Williams, beriniad y gystadleuaeth Perfformio Golygfa i flwyddyn 10 a dan 19 oed yn mwynhau coffi oer cyn beirniadu. Dywedodd Meilir "bod y 'Steddfod yn llwyddiant aruthrol yn barod".

Cian o Gaerwen yn ymarfer ei sgiliau swyddog tân gyda Justin o'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Disgrifiad o’r llun,

Cian o Gaerwen yn ymarfer ei sgiliau swyddog tân gyda Justin o'r Gwasanaeth Tân ac Achub

Alaw, Tomos a Seren o Ysgol Gyfun Llangefni yn mwynhau hufen iâ. Cafodd Alaw a Tomos fore prysur yn cystadlu yn y dawnsio gwerin, ac ar brynhawn dydd Llun cystadlodd Alaw a Seren yn y côr gwerin a chôr s.a.t.b. Cafodd Alaw hefyd ei gwobrwyo am ddod yn drydydd yn creu tecstiliau ac yn gyntaf am uwchgylchu
Disgrifiad o’r llun,

Alaw, Tomos a Seren o Ysgol Gyfun Llangefni yn mwynhau hufen iâ. Cafodd Alaw a Tomos fore prysur yn cystadlu yn y Dawnsio Gwerin, ac ar brynhawn dydd Llun cystadlodd Alaw a Seren yn y Côr Gwerin a Chôr S.A.T.B. Cafodd Alaw hefyd ei gwobrwyo am ddod yn drydydd yn creu tecstiliau ac yn gyntaf am uwchgylchu

Y ciw am ddŵr yfed yn y tywydd poeth
Disgrifiad o’r llun,

Y ciw am ddŵr yfed yn y tywydd poeth

Criw Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth yn cysgodi rhwng cystadlu
Disgrifiad o’r llun,

Criw Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth yn cysgodi rhwng cystadlu

Mam a merch; Sara a Cari yn eu dillad coch. Ac edrychwch ar wallt hyfryd Cari; coch a gwyrdd fel Mistar Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mam a merch; Sara a Cari yn eu dillad coch. Ac edrychwch ar wallt hyfryd Cari; coch a gwyrdd fel Mistar Urdd

Osian a'i dad o Fanceinion yn chwilota am fwyd
Disgrifiad o’r llun,

Osian a'i dad o Fanceinion yn chwilota am fwyd

Amser ymarfer i ferched Ysgol Brynhyfryd
Disgrifiad o’r llun,

Amser ymarfer i ferched Ysgol Brynhyfryd

Esme o Aberdâr yn gwneud cacen yn Rownd Genedlaethol CogUrdd
Disgrifiad o’r llun,

Esme o Aberdâr yn gwneud cacen yn Rownd Genedlaethol CogUrdd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon eraill o'r Eisteddfod